15 Mai 2025

Mae ffermwr o Gymru sy’n cynhyrchu cig eidion a chig oen ar laswellt, yn ogystal â thyfu haidd, wedi chwarteru faint o wrtaith a phlaladdwyr y mae’n eu defnyddio, gan lwyddo i dyfu mwy gyda llai o lafur dynol ar yr un pryd. Mae hyn oll diolch i newid mewn ymagwedd tuag at ffermio glaswellt a thir âr.

Mae Arfon Evans yn cadw 140 o wartheg sugno bîff a rhai cyfnewid, ynghyd â 550 o ddefaid bridio Texel x Miwl, ar 132 hectar o dir ar fferm Bugeilus Fawr ym Mhen Llŷn.

Mae’n tyfu gwerth 12 hectar o haidd y gwanwyn mewn cylchdro sy’n cynnwys glaswellt, meillion coch a gwndwn llysieuol amrywiol.

Er bod gan Arfon eisoes bwyslais cryf ar gynhyrchiant a chynaliadwyedd, roedd yn awyddus i wella hynny ymhellach. Ymunodd felly â phrosiect Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio er mwyn lleihau ei ddefnydd o wrtaith a phlaladdwyr, a hynny gyda chymorth yr agronomegydd, Gareth Mitchell o ProCam.

Heuwyd yr haidd mewn caeau wedi’u haredig gan ddefnyddio dull ‘hadu cyfunol’ (combination seeding) ac integreiddio’r defnydd o wrtaith â hynny.

Roedd y broses o ychwanegu gwrtaith yn cael ei harwain gan brofion samplu pridd a chanllawiau RB209 AHDB.

Driliwyd yr hadau’n uniongyrchol gan ddefnyddio cymysgedd o feillion coch a rhygwellt er mwyn osgoi tarfu gormod ar y pridd a gwella ei allu i ddal lleithder.

Taenwyd chwynladdwyr cyn drilio’r hadau’n uniongyrchol i reoli unrhyw chwyn parhaol, gan gynnwys dail tafol a llysiau’r dom.

Gosodwyd trapiau i fonitro niferoedd y gwlithod hefyd, a defnyddiwyd pryfladdwyr ond pan fyddai niferoedd firws y gawod felyn ar haidd (BYDV) yn mynd y tu hwnt i’r trothwyon ar gyfer llyslau.

Wrth ddefnyddio chwynladdwyr, cafodd Arfon arweiniad gan weithwyr proffesiynol â chymwysterau BASIS a FACTS, gan gynnwys Gareth.

Tra bu Arfon yn obeithiol y byddai’r newid mewn ymagwedd yn arwain at rai canlyniadau cadarnhaol, mi ragorodd y rhai terfynol ar ei ddisgwyliadau.

Llwyddodd i dyfu mwy o haidd a glaswellt trwy fanteisio i’r eithaf ar dechnegau gwrteithio a hadu a rheoli chwyn.

“Bu’n flwyddyn dyfu dda yn 2024, a fu’n help, ond mi lwyddon ni i dyfu 0.5 tunnell yn fwy o haidd fesul acer nag yn y blynyddoedd diwethaf,” meddai Arfon, sy’n ffermio mewn partneriaeth â’i rieni, Ianto a Iola.

Chwaraeodd y defnydd amserol o drapiau gwlithod a molysgleiddiaid ran hefyd, gan atal unrhyw ddifrod mawr i’r cnydau. Mi wnaeth y broses o fonitro niferoedd y llyslau helpu hefyd i leihau unrhyw risgiau o BYDV yng nghnwd haidd y gaeaf.

“Mi gawson ni gnwd glân o haidd,” ychwanegodd.

Buddugoliaeth fawr arall oedd chwarteru’r defnydd o blaladdwyr a gwrtaith, a hynny drwy deilwra unrhyw ddefnydd i angen. Mae hyn ynddo’i hun yn ffordd o wella iechyd y pridd a’r amgylchedd. Mae hefyd yn lleihau unrhyw ddŵr ffo.

Er gwaethaf y gostyngiad mawr hwn, llwyddwyd i reoli pla o ddail tafol, llysiau’r dom a mwstard gwyllt, gan wella gallu’r cnydau i wreiddio.

Trwy fabwysiadu ffyrdd gwahanol a mwy effeithlon o hau a drilio, mae Arfon yn nodi bod cyfanswm y llafur dynol wedi lleihau o leiaf 30% o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol.

“Doedd dim rhaid i mi ailaredig na thaenu’r gwrtaith ar wahân. Mi gafodd popeth ei wneud gyda’i gilydd, felly mi wnes i arbed cryn dipyn o amser.”

Yn ôl Gareth, mae’n bosibl i bob ffermwr elwa trwy fabwysiadu rhai o’r technegau hyn, os nad y cyfan ohonyn nhw.

Mae’n cynghori ffermwyr i samplu’r pridd bob amser cyn drilio er mwyn asesu lefel y maetholion. Dywed hefyd y dylai ffermwyr ddefnyddio argymhellion RB209 i greu cynlluniau sy’n benodol i gnydau.

Mae’n hyrwyddwr brwd o aredig confensiynol a hau cyfunol i wreiddio haidd, a dylid drilio cymysgedd o rygwellt parhaol a meillion coch yn uniongyrchol, meddai.

“Bydd ffermwyr yn gweld bod gan y pridd fwy o allu i ddal lleithder a bydd yr hadau’n gwreiddio’n well wrth eu drilio’n uniongyrchol,” meddai Gareth.

Mae modd lleihau’r defnydd o blaladdwyr hefyd. “Bydd trapiau gwlithod a thargedu’r defnydd o chwynladdwyr yn rheoli chwyn a phlâu yn effeithiol,” ychwanega.

Yn ôl Arfon, bu cael cyngor agronomegydd profiadol yn hynod fuddiol.

“Byddwn yn cynghori pob ffermwr i ddefnyddio agronomegydd. Maen nhw’n gwybod cymaint mwy na ni,” meddai.

Ei neges i ffermwyr eraill yw na ddylen nhw byth â bod ofn gofyn am help. “Yr hyn oedd yn fy nal i’n ôl rhag siarad ag agronomegydd yn gynt oedd ofn gwneud ffŵl o fy hun, ond mae cefnogaeth Gareth trwy raglen Cyswllt Ffermio wedi bod mor werthfawr.”

Trwy raglen Mentora Cyswllt Ffermio, gydag arweiniad Huw Davies, swyddog sector cig coch Cyswllt Ffermio yng ngogledd Cymru, mae Arfon hefyd wedi elwa o fentora personol gan Llion Jones o fferm Moelogan Fawr yng Nghonwy. Mae Llion yn un o 90 o fentoriaid sy’n cynnig hyd at 15 awr o fentora i’r rheini sydd wedi cofrestru gyda rhaglen Cyswllt Ffermio.

“Mae Huw wedi bod yn wych a dwi’n gobeithio defnyddio mwy o wasanaethau Cyswllt Ffermio yn y dyfodol. Mae’n berthynas dda,” meddai Arfon.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Academi Amaeth 2025 yn dod i ben gydag enillwyr yr her yn derbyn gwobrau
24 Tachwedd 2025 Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn
Pam mae dwysedd porfeydd yn hanfodol ar gyfer tros-hau llwyddiannus
14 Tachwedd 2025 Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml
Dechrau Ffermio: Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith ledled Cymru!
13 Tachwedd 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer