Prosiect Porfa Cymru

 

28/08/2025

Twf Glaswellt - Llaeth (kg DM/ha/dydd)

45.0

Twf Glaswellt - Bîff a Defaid (kg DM/ha/dydd)

11.9

 

05/06/25

Dry Matter (g/kg)

CP (%)

D Value (%)

ME (MJ/kg)

LLAETH

209

16.7

70

11

RED MEAT

227

13.9

65

10

 

Am olwg fanylach ar dwf y glaswellt yn eich rhanbarth, dewiswch fferm agosaf atoch ar y map.

Mae gan Gymru fantais aruthrol yn ei gallu i dyfu llawer iawn o laswellt o ansawdd da. O’i reoli’n gywir, mae glaswellt sy’n cael ei bori yn rhoi porthiant o ansawdd da i anifeiliaid, yn lleihau’r angen i ddefnyddio gwrtaith nitrogen, yn gallu cadw carbon yn y pridd ac mae’n cael ei gysylltu ag elw uwch cyson ar ffermydd.

Fodd bynnag, mae newidiadau yn y newid hinsawdd yn creu cyfnodau heriol dros y tymor pori. O wanwynau gwlyb iawn sy'n arafu troi'r pori, amodau sychder neu'r amodau perffaith ar gyfer twf glaswellt gormodol, mae'n newid bob blwyddyn.

Nod Prosiect Porfa Cymru yw darparu gwybodaeth a chyngor rheoli ar sail tueddiadau tyfu glaswellt gwahanol ardaloedd, a gofnodwyd yn ofalus gan y ffermwyr ymroddedig sy’n rhan o’r prosiect.

Anogir aelodau hefyd i ddarparu samplau glaswellt ffres ar gyfer dadansoddi ansawdd bob mis dros y tymor pori. Bydd yr holl wybodaeth ar gael i chi ei gweld.

Bydd y wybodaeth yn eich helpu i wneud penderfyniadau amserol am reoli glaswelltir ar y fferm megis:

  • A ddylwn droi’r da byw allan?
  • A ddylwn gau’r caeau ar gyfer silwair?
  • A ddylwn ychwanegu porthiant clustogi?
  • A ddylwn chwalu gwrtaith yr wythnos hon?
  • A ddylwn ddiddyfnu fy wŷn?

Ar gyfer tymor 2025 mae gennym:

  • Llaeth - 16
  • Cig eidion a defaid - 12