Rhys Pinder

Y Trallwng, Powys

Mae Rhys Pinder yn byw ar dyddyn ei deulu yng nghanolbarth Cymru ac mae ar ei flwyddyn olaf yn astudio Diploma Technegol Uwch Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth yng Ngholeg Cambria, Llysfasi, lle mae hefyd yn ysgrifennydd Coleg Cambria. Yn angerddol am ffermio ers pan oedd yn ifanc, prynodd Rhys ei dair mamog gyntaf gyda’i arian poced ei hun, gan ychwanegu hwrdd wedyn a gwneud elw yn fuan iawn.

Ynghyd â’i astudiaethau, mae Rhys yn gweithio ar fferm leol yn helpu i ofalu am 300 o ddefaid masnachol, 200 o ddefaid Cymreig a 100 o wartheg Charolais. Un peth y mae’n ei fwynhau yn neilltuol yw paratoi anifeiliaid at sioeau amaethyddol a chystadlaethau.

Yn chwaraewr tîm ymroddedig, yn ddiweddar roedd Rhys yn gapten ar ei dîm rygbi ieuenctid lleol pan wnaethant ennill Cwpan RGC Gogledd Cymru a hefyd mae'n hyfforddi chwaraewyr iau. Mae’n adnabyddus am ei ymroddiad, prydlondeb a’i barodrwydd i fynd y filltir ychwanegol - boed hynny yn ystod tymor ŵyna, cyn sioe neu cyn gêm fawr.

Teimla Rhys ei bod yn anrhydedd cael ei ddewis i’r Academi Amaeth ac mae’n awyddus iawn i ehangu ei orwelion.

“Rwyf am ddysgu am amaethyddiaeth mewn rhanbarthau a gwledydd gwahanol felly mae’r Academi Amaeth yn gyfle rhyfeddol i ehangu fy ngorwelion, dyfnhau fy ngwybodaeth a dysgu sut y bydd arferion cynaliadwy yn helpu i ddiogelu dyfodol ffermio.”