Defnyddio anthelmintigau mewn modd cynaliadwy
Mae ymrwymiad hirhoedlog i reolaeth fferm sy'n seiliedig ar ddata ar fferm Tanygraig wedi arwain at gofnodi perfformiad y ddiadell o enedigaeth yr oen. Mae'r set ddata yn darparu sylfaen ar gyfer gwneud penderfyniadau gwybodus, a'r cam naturiol ymlaen i'r fferm oedd manteisio ar y data a gasglwyd ar gyfer strategaethau rheoli parasitiaid yn well.
Gan gydnabod yr angen i gadw effeithiolrwydd anthelmintigau sydd ar gael, mae Tanygraig yn croesawu technoleg trwy integreiddio gwn dosio wedi'i raddnodi’n awtomatig. Bydd y ddyfais hon yn cysylltu ag offer pwyso ŵyn y fferm, gan addasu dos y driniaeth yn awtomatig yn ôl pwysau pob oen, gan sicrhau ei fod yn cael ei roi yn gywir.
I ategu hyn bydd cymhwysiad ymarferol a manteision strategaeth Triniaeth Ddewisol wedi’i Thargedu (TST), gan gyfuno perfformiad ŵyn a chyfrif wyau ysgarthol (FEC) i bennu pa ŵyn sydd angen triniaeth. Ein nod yw dangos sut y gall TST amddiffyn effeithiolrwydd drensio yn effeithiol wrth leihau unrhyw effaith negyddol bosibl ar berfformiad ŵyn. Ar ben hynny, un o amcanion arwyddocaol y prosiect hwn yw meintioli manteision economaidd cyfuno drensio awtomatig â strategaeth TST. Byddwn yn cyfrifo'r arbedion ariannol a gyflawnir o'i gymharu â'r arfer traddodiadol o ddrensio’r holl ŵyn yn seiliedig ar ganlyniadau samplu Cyfrif Wyau Ysgarthol (FEC) cronedig yn unig.
Bydd y prosiect yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:
- Safonau Iechyd a lles anifeiliaid uchel
- Defnyddio adnoddau’n effeithiol