Gwerthuso tyfu cnwd deuol o bys a ffa i’w gyfnewid am brotein wedi’i brynu i mewn i’w fwydo i wartheg bîff

Prif ganlyniadau

  • Cafodd naw tunnell o bys a ffa eu cynaeafu am gyfanswm o £439.68/tunnell; gan gofio bod hon wedi bod yn flwyddyn eithriadol o wael o ran tywydd gan arwain at blannu a chynaeafu’n hwyr. Pe byddai hon wedi bod yn flwyddyn arferol gyda chynnyrch disgwyliedig o 30 tunnell, byddai’r gost wedi bod yn £129.19/tunnell.
  • Dros y cyfnod bwydo 6 wythnos o hyd llwyddodd y pys a’r ffa a dyfwyd gartref arbed costau prynu 1.9 tunnell o ddwysfwyd protein sy’n gyfwerth â £643; dros gyfnod o 6 mis o fwydo dros y gaeaf, byddai hyn wedi bod cyfwerth ag arbed £2572.
  • O ganlyniad i blannu a chynaeafu’n hwyr a’r tywydd gwael, ni lwyddodd yr astudiaeth hon i ddangos elw cadarnhaol ar fuddsoddiad, fodd bynnag, mae arbrofion pys a ffa blaenorol ar ffermydd yn dangos canlyniadau gwahanol gydag elw cadarnhaol ar fuddsoddiad.  

Cefndir

Un o brif nodau Robert Lyon ar fferm Lower House Farm yw cynyddu gwytnwch y fferm gan leihau ei hôl troed carbon. Er mwyn gweithio tuag at hunangynhaliaeth o ran protein, bu Lower House Farm yn treialu ymgorffori pys a ffa wedi’u prynu i mewn yn y dogn i famogiaid cyfeb ar gyfer 2023/24, ac roeddent yn bwriadu tyfu a defnyddio pys a ffa wedi’u crychu ar gyfer y gwartheg bîff yn ystod gaeaf 2024/25. 

Gellir defnyddio pys a ffa mewn diet i anifeiliaid cnoi cil fel ffynhonnell ddefnyddiol o egni a phrotein sy’n diraddio yn y rwmen. Mae pys yn cynnwys tua 26% o brotein yn y deunydd sych, a ffa yn cynnwys tua 26%. Mae’r ddau yn uchel mewn egni, gan gynnwys 13.6 i 14 MJ/kgDM gyda dros 40% o starts.

Diben y gwaith

  • Tyfu cnwd deuol o bys a ffa ar y fferm a chynaeafu cyn crychu a storio mewn claddfa
  • Dadansoddi’r cnwd a llunio dogn ar gyfer yr anifeiliaid bîff yn seiliedig ar fwydydd a dyfwyd gartref yn unig – haidd wedi’i grychu, pys a ffa
  • Cyfrifo cost cynhyrchu fesul tunnell ar gyfer y pys a’r ffa (hadau, costau tyfu, costau cynaeafu a chostau crychu/cadw)

Yr hyn a wnaed

Ar ddechrau mis Mehefin 2024, cafodd cae ei aredig er mwyn plannu’r pys a’r ffa, a oedd yn llawer hwyrach na’r argymhelliad i hau ym mis Ebrill o ganlyniad i’r gwanwyn gwlyb iawn. Roedd angen newid y cae gwreiddiol o ganlyniad i faterion gweithredol y fferm, ac roedd y cae newydd yn wastad ar y gwaelod gan godi i ran ychydig mwy serth ar ben y cae.

Cafodd y cnwd ei ddrilio’n uniongyrchol mewn dau gam. Cafodd y ffa, sef amrywiaeth Genius Spring, eu hau i ddechrau ar gyfradd o 308kg/ha ac ar ddyfnder o 70mm, ac yna cafodd y pys, sef amrywiaeth Carrington Spring eu hau ar gyfradd o 206kg/ha ac ar ddyfnder o 40mm. Ni chafodd y cnydau eu chwistrellu rhwng hau a chynaeafu.

Cafodd y cnwd ei gynaeafu ar ganol mis Medi – fodd bynnag, o ganlyniad i ddiffyg heulwen a chynhesrwydd, ni lwyddodd i aeddfedu’n iawn ac roedd yn dal i fod yn wyrdd iawn ar adeg cynaeafu. O ganlyniad, roedd y gwaith cynaeafu’n anodd gan nad oedd y cnwd wedi sychu, gan achosi i’r combein flocio’n aml.

Roedd cynnyrch y pys a’r ffa yn sylweddol is na’r disgwyl o’r cae 4.9ha. Yn wreiddiol, rhagwelwyd y byddai’n cynhyrchu 6 tunnell/ha neu gyfanswm o 30 tunnell, ond roedd y cynnyrch terfynol yn 9 tunnell. Cafodd y pys a’r ffa eu crimpio gan gontractwr gan ychwanegu cynnyrch CrimpSafe a’i silweirio mewn claddfa wedi’i orchuddio gan flociau lego concrit a’i orchuddio gyda gorchudd silawrap.

O ganlyniad i amodau gwael wrth gynaeafu, cymerwyd sampl o’r clamp gan arbenigwr silwair annibynnol a’i brofi ar gyfer gwenwynau ffwng cyn ei fwydo er mwyn pennu ei fod yn ddiogel.

Bwydo

Roedd dadansoddiad o’r pys a’r ffa wedi’u crimpio yn dangos lefel protein rhesymol o 26.6%, ond lefel is o Egni Metaboladwy o ganlyniad i ddiffyg aeddfedu digonol (Tabl 1). Lluniwyd dogn ar gyfer y 45 o heffrod Blue X yn pwyso 350kg ar y fferm i sicrhau enillion o 1kg/dydd, gyda’r holl gynhwysion yn cael eu cymysgu a’u rhannu gan ddefnyddio twb cymysgu.

Tabl 1: Dadansoddiad o’r pys a’r ffa

Prawf

Unedau

Canlyniad

Deunydd sych

%

40.1

Protein (Kjeldahl) DMB

%

26.7

Cyfanswm olew (Olew B) (DM)

%

1.4

Ynn (Deunydd Sych)

%

5.0

Startsh

%

34.2

ME cnoi cil

MJ/KG

12.8

Roedd y dadansoddiad silwair yn dangos cnwd treuliadwy wedi’i eplesu’n dda, ond ychydig yn isel o ran protein:

  • Deunydd sych (g/kg)             236  
  • Gwerth D %                         67
  • Gwerth ME (MJ/kgDM)      10.9
  • Protein Crai (g/kgDM)        108

Tabl 2: Dogn a luniwyd

Dwysfwyd

Nifer yr anifeiliaid sy’n cael eu bwydo (kg a fwydi/y pen/ y dydd)

Kg DM (y pen/y diwrnod)

Silwair Glaswellt

26.00

6.138

Haidd

2.00

1.720

Pys/ffa

2.00

0.802

Mwynau eidion

0.050

0.049

Cost (£ y pen / y diwrnod)

1.30

1.30

Dechreuwyd bwydo’r pys a’r ffa ar 24 Chwefror gan barhau tan 1 Ebrill 2025. Cafodd yr anifeiliaid eu pwyso ar ddechrau a diwedd y cyfnod 6 wythnos gan ddangos cynnydd pwysau byw dyddiol o 0.545kg/pen/dydd. 

Costau

Roedd cyfanswm tyfu a chynaeafu 9 tunnell o gnwd wedi’i glampio yn £439.68 fesul tunnell. Mae’r costau uchel hyn yn adlewyrchu’r tywydd hynod o wael a arweiniodd at oedi’r hau tan fis Mehefin, ac er bod y cnwd wedi tyfu a blodeuo’n dda wedi hynny (Ffigur 3), nid oedd y tywydd ym mis Medi’n ffafriol ar gyfer aeddfedu a sychu’r cnwd. Mewn blwyddyn nodweddiadol gyda chynnyrch posibl o 30 tunnell, byddai’r gost fesul tunnell yn £129.19.

Dros y cyfnod bwydo chwe wythnos, llwyddodd y pys a’r ffa i arbed costau prynu 1.9 tunnell o ddwysfwyd protein, sy’n gyfwerth â chyfanswm o £643. Dros gyfnod bwydo o 6 mis, byddai hyn wedi cyfateb ag arbediad o £2572.
 

Ffigur 1: Cae pys a ffa ar 10 Mehefin 2024

Ffigur 2: Sefydliad y cnwd pys a ffa ar 10 Mehefin 2024

Ffigur 3: Twf pys a ffa erbyn 5 Awst 2024

Ffigur 4: Cae pys a ffa wrth gombeinio ar 18 Medi 2024