21 Awst 2025
Mae goleuadau LED wedi'u cysylltu â chynnydd o 6.1% mewn cynhyrchiant dodwy ar fferm wyau maes ym Mhowys, cynnydd gwerth £27,192 y flwyddyn yn y busnes sydd â 16,000 o adar.
Mae'r ffermwr trydedd genhedlaeth, George Wozencraft yn cynhyrchu wyau o haid o ieir Burford Brown yn fferm Glanalders, Nantmel, i gyflenwi Stonegate o dan ei frand, Clarence Court.
Fel rhan o'i waith prosiect ar raglen Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio, mae gwaith ymchwil wedi’i bod yn cael ei wneud i edrych ar ddylanwad goleuadau ar berfformiad yr haid.
Disodlodd George 54 stribed goleuadau 2 droedfedd gyda thair llinell o oleuadau LED gwyn cynnes 48V/9.6W, 105 o oleuadau i gyd, pan symudodd haid o'r sied ym mis Mawrth 2024.
Cyflwynwyd haid newydd o ieir 16 wythnos oed i'r sied y mis canlynol.
Yn ystod wyth wythnos gyntaf eu cylch dodwy, roedd y goleuadau ymlaen am 10 awr ym mhob 24, gan gynyddu i 14.5 am weddill y cylch 78 wythnos.
Dangosodd dadansoddiad meddalwedd o ddata perfformiad yr haid honno a'r cylch blaenorol enillion sylweddol o'r goleuadau modern.
- Daeth adar i ddodwy yn gynt a chynyddodd cynhyrchiant wyau 6.1%, gwerth £27,192 yn y cylch hwnnw
- Gostyngodd costau ynni £2,724.08 dros 78 wythnos
- Cyflawnwyd arbediad carbon blynyddol o 1,218 kg o CO₂e
Cyfrifwyd costau ac enillion ynni o gost gyfalaf o £9,200 ar gyfer y goleuadau, 30.85c fesul kWh o drydan a ffactor allyriadau grid o 0.20705 kg CO₂e/kWh.
Byddai arbedion ynni yn unig yn talu cost y goleuadau o fewn 5.1 mlynedd, meddai Dr Delana Davies, Swyddog Sector Cyswllt Ffermio a oruchwyliodd y prosiect ar fferm Glanalders.
O'i gymharu â goleuadau fflwroleuol, mae goleuadau LED yn fwy effeithlon o ran ynni, a dyna pam lleihaodd y fferm gwerth £2,724.08 o'i chostau trydan.
Mae angen disodli goleuadau LED yn llai aml na bylbiau confensiynol hefyd, gan ychwanegu ymhellach at arbedion cost.
Er bod George wedi gosod paneli solar 20kW ar do ei gwt dofednod yn flaenorol, dim ond tua thraean o ofyniad blynyddol y sied oedd yr ynni hwnnw'n ei fodloni.
Dywed Delana mai un rheswm dros gyfraniad LED at berfformiad gwell mewn heidiau yw sensitifrwydd mwy dofednod i liwiau a gweledigaeth ar y sbectrwm uwchfioled.
Eglura Delana, “Gall presenoldeb gwahanol liwiau, dwyster a chyfnodau o olau oll gael dylanwad ar eu hymddygiad a'u perfformiad.”
“Mae gan oleuadau LED wasgariad gwell na goleuadau confensiynol, gan ddileu smotiau tywyll a lleihau straen, ac felly mae ganddo’r potensial i wella ysgogiad ymddygiad naturiol yr adar yn ystod y dydd a’r nos a gwella perfformiad.”
Yn hollbwysig, o ran lles adar, nid ydynt fel arfer yn fflachio, ychwanega Delana.
“Mae’r gallu i addasu’r sbectrwm golau yn fantais sylweddol arall i oleuadau LED dros dechnolegau goleuo hŷn, sydd yn aml ag allbynnau sbectrol sefydlog ac sy’n llai optimaidd ar gyfer dofednod.”
Mae hi'n tynnu sylw at y ffaith y gallai ffactorau eraill, ar wahân i oleuadau, fod wedi cyfrannu at yr enillion cynhyrchu hefyd.
“Mae optimeiddio llwyddiant magu a thymheredd amgylchynol yn cael dylanwad, a hefyd y tymor a hyd y dydd, er bod hyd y dydd ar gyfer yr haid yn cael ei reoli gan gynllun goleuo rhagnodedig yn y camau cynnar i'w dwyn i gyfnod dodwy.”
Aseswyd iechyd, ymddangosiad a chyfraddau marwolaethau'r ddwy garfan o adar a oedd yn rhan o'r prosiect a chanfuwyd eu bod yn debyg.
Roedd George wedi rhagweld canlyniadau cadarnhaol o gyflwyno goleuadau newydd ond roedd yr arbedion ynni a'r cynnydd mewn cynhyrchu wyau y tu hwnt i'r hyn a ddisgwyliodd.
“Roeddwn i’n gwybod y byddai arbediad ynni da o ddisodli’r goleuadau stribed hen ffasiwn gyda goleuadau LED ond mae’r arbedion gwirioneddol wedi bod yn enfawr,’’ meddai.
“Ni ellir priodoli’r cynnydd mewn cynhyrchu wyau yn gyfan gwbl i’r goleuadau ond byddant wedi cael dylanwad mawr.”
Bydd yr arbedion cost a'r incwm ychwanegol a gynhyrchir yn helpu i hybu proffidioldeb y busnes, ychwanega George.
“Mae unrhyw beth a all ein helpu i gynyddu elw nid yn unig yn dda i’n busnes ond mae’n golygu bod mwy o arian yn mynd i’r economi leol.”