01 Hydref 2025
Mae cynnwys rhygwellt Westerwolds wedi’i dorri’n ffres yn y dogn i wartheg dan do yn cynyddu faint o laeth a gynhyrchir yn ddyddiol gan bob buwch, a hynny o ddau litr. Dyna’r hyn y mae buches laeth yng Ngheredigion wedi’i ganfod, ac mae hefyd yn sicrhau arbedion cost sylweddol ar borthiant protein, medden nhw.
Caiff y cnwd gorchudd sy’n tyfu’n gyflym ei sefydlu’n syth ar ôl y cynhaeaf india-corn ar fferm Tafarn-y-Bugail ger Aberteifi, er mwyn atal erydiad ac i roi maeth gwerthfawr i gaeau a oedd gynt yn noeth cyn eu hail-hadu yn y gwanwyn.
Wrth ymuno â rhaglen Cyswllt Ffermio fel prosiect Ein Ffermydd, aeth Dyfrig, Elin a Llyr Griffiths ati i archwilio beth oedd y system hon yn ei olygu i’w busnes ac i iechyd y pridd.
Dangosodd astudiaeth yn 2024/25 lawer o fanteision ariannol ac amgylcheddol o dyfu a thorri a chludo rhygwellt Westerwolds, gan gynnwys cynnydd o £450 y dydd yn yr incwm o laeth y fuches o 500 o fuchod. Y pris llaeth ar adeg cynnal yr astudiaeth oedd £0.45/litr, a daeth yr incwm ychwanegol o ganlyniad i gynnydd o ddau litr yng nghynhyrchiant dyddiol pob buwch.
Y swm cyfartalog oedd 31 litr y dydd, gyda 4% o’r llaeth yn fraster menyn, a 3.3% yn brotein.
Fe wnaeth y gost o brynu protein er mwyn ei gynnwys yn y Dogn Cymysg Cyflawn (TMR) ostwng £130 y dydd.
Mae’r manteision i iechyd y pridd o orchuddio caeau india-corn â glaswellt dros y gaeaf yn amlwg, meddai Llyr.
“Gallwch weld gwahaniaeth go iawn rhwng cae sydd ddim yn tyfu Westerwolds achos y maint o bridd rydych chi’n ei golli. Pan mae yna law trwm, byddwch chi’n gweld dŵr brown yn rhedeg allan drwy’r bwlch ac rydych chi wir yn sylwi ar hynny gyda chae serth.”
Mae yna fanteision ariannol i ddefnyddio’r tir yn gynhyrchiol hefyd. “Does dim byd gwaeth na gweld cae yn segur; dyw cae segur ddim yn talu amdano’i hun,” meddai Llyr.
“Nid yw’n gwneud synnwyr peidio â thyfu cnwd gorchudd o borfa ar ôl yr india-corn. Mae’r gost o wneud y gwaith yn ddim o’i chymharu â’r manteision.”
Mae cymysgedd rhygwellt Westerwolds yn cael ei ddrilio’n uniongyrchol i sofl yr ŷd gan ddril aml bwrpas y teulu Griffiths yn syth ar ôl cynaeafu’r cnwd.
“Rydyn ni’n gwneud y gwaith gyda pheiriannau i gyd ein hunain wrth i ni gynaeafu’r india-corn. Rydyn ni’n gweithio drwy’r nos yn hau hadau’r borfa tra bod y tir yn dal i fod yn sych,” eglura Llyr.
Yn 2025, mae’n disgwyl i’r india-corn gael ei gynaeafu tua 20 Medi.
Mae hadau Westerwolds yn costio £20 yr erw ac mae Llyr yn credu y byddai’n £25 yr erw arall i’w hau pe na bai gan y fferm ei hoffer ei hun.
Mae’n rhoi 50kg yr erw o wrea cyn gynted â phosibl ar ôl hau’r hadau, ac yna haen ysgafn o slyri ar ôl y ‘torri a chludo’ cyntaf.
Caiff y rhygwellt Westerwolds ei dorri a’i gludo o ganol mis Chwefror. Roedd gan y glaswellt a ddadansoddwyd yn 2025 12.0 MJ/kg DM o egni metaboladwy, gyda 24.9% ohono’n brotein crai. Cafodd ei fwydo ar gyfradd o 20kg y diwrnod i bob buwch.
Mae’r TMR yn cynnwys 4kg o ddŵr yn yr hyn a gymysgwyd ymlaen llaw, 4kg o fara, 18kg o silwair india-corn, 18kg o silwair glaswellt, ac 1.2kg o Novapro – i lawr o 2.2kg cyn cyflwyno’r system torri a chludo.
Mae pob cae yn destun torri a chludo ddwywaith yn ei dymor cyntaf; os yw’n gae da, caiff ei adael i dyfu ymlaen am ail flwyddyn, ond os yw’n anghyson, caiff y cae ei hau ag india-corn eto.
Mae cost ynghlwm â’r system torri a chludo. Mae Llyr yn amcangyfrif ei bod yn golygu dwy awr yn ychwanegol o waith y dydd – ond mae’r manteision ariannol yn sylweddol.
Costiodd y wagen torri a chludo ond £3,000 i’r busnes gan ei bod yn un ail-law.
“Mae’n gwneud y gwaith ac mae gennym ni ein peiriannau torri gwair a’n tractorau ein hunain,” eglura Llyr.
Mae Llyr yn ddiolchgar i raglen Cyswllt Ffermio am gefnogi’r prosiect, ac mae’r canfyddiadau’n atgyfnerthu ei arsylwadau ei hun.
“Fel ffermwyr, mae’n rhaid i ni ddiogelu ein priddoedd. Dyma ein hased pwysicaf. Mae’n gwneud synnwyr peidio â gadael i unrhyw gae fod yn noeth drwy’r gaeaf.
Lawrence Couzens yw’r agronomegydd a roddodd arweiniad arbenigol i’r prosiect hwn gan raglen Cyswllt Ffermio.
Mae’n eiriolwr mawr dros hau glaswellt ar ôl india-corn, yn enwedig rhygwellt Westerwolds.
“Mae’n rhatach i’w sefydlu na mathau eraill a bydd yn tyfu ar dymheredd is, ac os cewch chi sefydliad da, rydych chi’n cael cnwd gwych. Os aiff popeth yn ôl y cynllun, bydd yn cynhyrchu 15 tunnell yr erw.”
Yr anfantais, yn ôl barn bersonol Lawrence, yw ei fod yn gnwd unflwydd. “Os ydych chi’n ceisio ei ymestyn i ddwy flynedd, bydd y cnwd yn dechrau lleihau.”
Os yw fferm yn dueddol o ddioddef sychder, mae Lawrence yn awgrymu y gallai cymysgedd o fyswellt a pheisrygwellt fod yn well opsiwn.
“Mae’r cyfan yn dibynnu ar y tymor. Yn 2025, mae siawns dda y byddwn yn cyrraedd y trothwy amser ar gyfer gwneud rhywfaint o waith adfer a hau’r had mewn da bryd ar gyfer Westerwolds.”
O ran maeth, fydd Westerwolds ddim cystal â rhygwellt Eidalaidd, meddai Lawrence, ond mae’r hadau’n rhatach.
“Mae Westerwolds yn gost-effeithiol cyn belled â’ch bod chi’n cael sefydliad da. Mewn byd delfrydol, bydd angen ei hau cyn diwedd mis Hydref pan fydd tymheredd y pridd yn dal i fod yn 10–15 gradd.”
Cyngor Lawrence yw trin y pridd yn ysgafn ar ôl i’r india-corn gael ei gynaeafu er mwyn unioni unrhyw gywasgiad a chaniatáu i ddŵr dreiddio i’r pridd.
Wrth edrych tua’r dyfodol, dywed Llyr ei fod bron yn sicr y byddan nhw’n tyfu mwy o india-corn ar fferm Tafarn y Bugail.
“Dwi’n gallu gweld y byddwn ni’n tyfu mwy a mwy o india-corn bob blwyddyn. Mae gennym bridd da ar ei gyfer a chaeau sy’n wynebu’r de, ac mae’r gwartheg yn llawer mwy bodlon ar india-corn.”
Bydd hynny’n golygu tyfu mwy o rygwellt Westerwolds hefyd. “Fyddwn i ddim yn gadael unrhyw gaeau heb borfa nawr,” meddai Llyr yn bendant.
PANEL
Er y bydd ymgorffori Westerwolds ffres yn niet y fuwch yn cynyddu faint o laeth a gynhyrchir o’r porthiant, mae’n bwysig cadarnhau ansawdd y glaswellt i gael y perfformiad gorau gan y fuwch.
Dywed y maethegydd llaeth, Iwan Vaughan, sy’n llunio’r dogn ar fferm Tafarn y Bugail, fod gwybod ansawdd y glaswellt yn hanfodol mewn system torri a chludo.
Bydd cadarnhau’r cynnwys deunydd sych yn helpu i bennu’r cymeriant posibl o ddeunydd sych (DMI), tra bod monitro hyn yn allweddol i gyflawni’r perfformiad gorau gan y fuwch.
“Mae deall cynnwys DM y glaswellt ffres yn caniatáu gwell dyraniad, a gallwn lunio TMR mwy cywir i’w fwydo ochr yn ochr â’r glaswellt ffres, heb danddyrannu porthiant na gwastraffu porthiant trwy orddyrannu,” meddai Iwan, o Dairy Diagnosis.
Bydd torri Westerwolds yn gynt, o fis Chwefror i fis Ebrill, yn rhoi treuliadwyedd NDF (neutral detergent fibre) uwch iddo, sy’n golygu y bydd mwy yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu llaeth.
“Mae’n gnwd llawn protein ac yn dreuliadwy, felly mae rhoi TMR sy’n cynnwys mwy o borthiant india-corn ar ei ben yn helpu i gydbwyso’r diet. Maen nhw’n ategu ei gilydd,” meddai Iwan.
Gall ambell ffactor achosi problemau. Er enghraifft, gall torri mewn tywydd gwlyb halogi’r pridd, felly mae dewis y caeau cywir yn bwysig.
FFEITHIAU AM Y FFERM
Ffermio 1,200 erw
Tyfu 210 erw o india-corn, 500 erw o silwair glaswellt, 75 erw o haidd, ac 80 erw o wair
Parlwr ‘pendilio draw’ 24/48
Buches o wartheg Cardsland pedigri
Lloia drwy gydol y flwyddyn
Cynhyrchir, ar gyfartaledd, 9,200 litr o laeth y fuwch y flwyddyn
Maent yn gwerthu llaeth i Freshways
Symud y fuches i fod yn un sydd dan do yn barhaol
Pedwar aelod o staff llawn-amser