08 Hydref 2025
Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn helpu ffermwyr a thyfwyr yng Nghymru gyda thri phrif amcan: cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel, gwella cynhyrchiant, ac addasu’n llwyddiannus i’r newid yn yr hinsawdd. Er mwyn cynorthwyo’r gymuned amaethyddol gyda’r trawsnewidiad, mae Cyswllt Ffermio yn cynnig ystod o wasanaethau am ddim neu wedi’u hariannu, gan gynnwys cyngor un i un, gwasanaethau Mentora penodol, ac adnoddau e-ddysgu, sgiliau a hyfforddiant. Gall ffermwyr elwa o waith ymchwil ymarferol gwerthfawr sydd ar gael drwy’r Rhwydwaith Ein Ffermydd, a chael gwybodaeth fusnes hanfodol gan ddefnyddio’r adnodd newydd DataFferm+.
Dyma drosolwg o’r hyn y mae Cyswllt Ffermio yn ei gynnig i’ch cynorthwyo chi a’ch busnes:
Sgiliau, hyfforddiant, e-ddysgu a’r cyfrif Storfa Sgiliau
Mae Cyswllt Ffermio hefyd yn cynnig cymorth ar ffurf cyfleoedd sgiliau a hyfforddiant penodol mewn tri phrif faes, gyda chyllid hyd at 80% ar gael:
Cyrsiau busnes: Canolbwyntio ar gynllunio busnes, datblygu ac arallgyfeirio.
Cyrsiau tir: Trafod sgiliau ymarferol, er enghraifft: rheoli glaswelltir, gwyddoniaeth y pridd, adeiladu waliau cerrig, a rheoli coetiroedd.
Cyrsiau da byw: Cynnig hyfforddiant ar iechyd anifeiliaid, gan gynnwys trimio traed, sgorio symudedd, a defnyddio meddyginiaethau milfeddygol yn ddiogel.
Ar gyfer busnesau fferm sy'n hawlio Cynllun Cyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2026, bydd cwblhau unrhyw un o'r modiwlau e-ddysgu o dymor yr haf 2025 yn cyfrif tuag at y flwyddyn 2026 (ond ar gyfer y flwyddyn honno yn unig). Gall busnesau ddewis pa rai i'w cwblhau. Bydd cwblhau'r modiwlau Iechyd a Lles Anifeiliaid, os cânt eu cwblhau gan yr unigolyn cywir, hefyd yn cyfrif tuag at elfen DPP o Weithred Gyffredinol 4 a 12 (Iechyd a Lles Anifeiliaid). Ni fydd unrhyw weithgaredd arall a ddarparwyd gan Cyswllt Ffermio a gwblhawyd yn 2025 (neu cyn hynny) yn cyfrif tuag at Weithred Gyffredinol 4 (na gweithred gyffredinol 12**).
Bydd y canlynol yn gymwys ar gyfer elfen DPP o Weithred Gyffredinol 12 (Iechyd a Lles Anifeiliaid) os cânt eu cwblhau gan yr unigolyn priodol. Mae'r cyfnod cwblhau 5 mlynedd yn golygu y bydd y cyrsiau hyn, os cânt eu cwblhau o fis Ionawr 2022 ymlaen, yn cyfrif ar gyfer hawlwyr 2026.
• Mae 5 modiwl e-ddysgu perthnasol ar gael ar BOSS
• Gweithdy Iechyd a Lles Anifeiliaid ar Gloffni mewn Defaid (Wedi'i gyflwyno gan filfeddyg ac wedi'i achredu gan LANTRA)
• Gweithdy Iechyd a Lles Anifeiliaid ar leihau Cloffni mewn Gwartheg Llaeth (Wedi'i gyflwyno gan filfeddyg, a’i achredu gan LANTRA)
• Cwrs Hyfforddiant Achrededig - Meistr ar Gloffni Cymru
• Cwrs Hyfforddiant Achrededig - Trimio Carnau Canolradd
• Sylwer: Ar gyfer ffermydd gydag un rhywogaeth - Mae cwblhau un o'r uchod yn gymwys fel DPP ar gyfer Blwyddyn 1. Ar gyfer ffermydd amlrywogaeth: - Mae cwblhau dau (un yn ymwneud â defaid ac un yn ymwneud â gwartheg) yn gymwys.
Mae pob DPP a gwblheir drwy Cyswllt Ffermio yn cael ei gofnodi’n awtomatig yn Storfa Sgiliau a bydd Taliadau Gwledig Cymru (RPW) yn cael gwybod y dyddiad cwblhau, teitl y cwrs a hyd y cwrs.
Ein Ffermydd
Mae Rhwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio yn cynnwys 288 o ffermydd sy’n cymryd rhan mewn 128 o arbrofion ar ffermydd. Nod y prosiectau hyn yw cau’r bwlch rhwng gwaith ymchwil a rheolaeth fferm i helpu gyda’r trosglwyddiad i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Bydd adroddiadau a data terfynol ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio dros y misoedd nesaf. Mae nifer o’r arbrofion ar ffermydd wedi dangos sut maen nhw wedi gallu bodlon gofynion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ac mae’r canlyniadau’n cefnogi hyn:
Mae arbrawf rheoli coetir wedi dangos bod fferm wedi ennill incwm ychwanegol o £2,791 trwy deneuo coetir.
Dangosodd astudiaeth amaeth goedwigaeth y gallai buches laeth gyda 450 o wartheg golli mwy na £22,000 mewn cynhyrchiant llaeth o ganlyniad i straen gwres heb fynediad i gysgod, o’i gymharu â cholled o £1,700 yn unig gyda mynediad i gysgod.
Mae prosiectau eraill yn helpu ffermwyr gydag iechyd y pridd, ffermio adfywiol, a defnyddio gwndwn llysieuol fel cynefinoedd dros dro i fodloni gofynion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Mae ‘Yn fyw o Ein Ffermydd’ yn gyfres o weminarau pum rhan gan ddechrau ar 5 Tachwedd, gyda sesiwn newydd bob nos Fercher am 7.30 p.m.:
5/11/25 – Grymuso eich dyfodol gydag ynni adnewyddadwy – cysylltu gyda Gweithred Gyffredinol 3
12/11/25 - WHLP – A yw gwndwn amlrywogaeth mor amrywiol â ffermydd Cymru? – cysylltu gyda Gweithred Gyffredinol 1, 6 a 12
19/11/25 - Cynnal iechyd y pridd mewn cylchdro âr - beth mae’r Weithred Gyffredinol pridd o fewn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ei olygu i ffermwyr tir âr? - cysylltu gyda Gweithred Gyffredinol 1
26/11/25 – Cnydau amgen ar gyfer ffermydd Cymru – Maglys Rhuddlas a Chodog – sut maen nhw wedi gweithio? – cysylltu gyda Gweithred Gyffredinol 1, 2 a 12
3/12/25 – Clefydau rhewfryn: sut i nodi a chyfrifo’r risg? – cysylltu gyda Gweithred Gyffredinol 12
Ym mis Chwefror 2026, bydd Cyswllt Ffermio hefyd yn cynnal cyfres o Sioeau Teithiol Tir Âr. Bydd y digwyddiadau hyn yn canolbwyntio ar iechyd y pridd, cynefinoedd dros dro, a chylchdroi cnydau mewn modd gwydn. Nid yw dyddiadau a lleoliadau’r sioeau teithiol wedi’u cyhoeddi hyd yma.
DataFferm+
Er mwyn cynorthwyo ffermwyr ymhellach gyda’u data, bydd yr adnodd meincnodi DataFferm+ sydd ar gael am ddim yn lansio ym mis Ionawr 2026. Mae’r adnodd hwn yn helpu i fodloni Gweithred Gyffredinol 3 gan alluogi defnyddwyr i gwblhau’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol gofynnol, gyda dim ond teitlau’r Dangosyddion Perfformiad yn cael eu hanfon at Daliadau Gwledig Cymru i sicrhau bod data’r fferm yn aros yn breifat.
Mentora
Gall pob ffermwr a thyfwr cofrestredig gael mynediad at hyd at 15 awr o Fentora wedi’i ariannu’n llawn. Gyda mwy na 90 o fentoriaid ledled Cymru, mae’r gwasanaeth hwn yn cynnig arweiniad diduedd wedi’i deilwra i helpu i wynebu’r newidiadau arfaethedig, gyda buddion enfawr gan gynnwys:
Arweiniad ymarferol: Gall mentoriaid eich cynorthwyo i drosi rheolau ysgrifenedig y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn gamau gweithredu ymarferol sy’n gweddu i’ch fferm benodol.
Magu hyder: Mae’r sesiynau un i un yn cynnig lle cyfrinachol i ofyn cwestiynau, gan eich cynorthwyo i wneud penderfyniadau gwybodus ac osgoi camgymeriadau costus.
Cyngor wedi’i deilwra: Gallwch ddewis mentor gyda phrofiad yn eich math penodol o fferm a lleoliad er mwyn cael cyngor perthnasol ar ddewis y “Gweithredoedd Dewisol a Chydweithredol” gorau ar gyfer eich busnes.
Rhwydweithio: Mae’r rhaglen yn eich helpu i gysylltu gyda ffermwyr eraill, sy’n gallu arwain at syniadau newydd a phrosiectau cydweithredol posibl.
Garddwriaeth
Mae tîm Garddwriaeth Cyswllt Ffermio yn cynnig cymorth wedi’i ariannu’n llawn i helpu tyfwyr i groesawu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Mae’r gefnogaeth gynhwysfawr hon yn cynnwys sesiynau Cymorth Busnes Garddwriaeth arbenigol – sydd ar gael ar ffurf ymgynghoriadau awr o hyd ar-lein neu ymweliadau safle 2 awr o hyd - sy’n darparu cyngor ar feysydd hanfodol megis iechyd y pridd, rheolaeth dŵr a meincnodi. Gall tyfwyr hefyd rannu arferion gorau drwy Rwydweithiau Garddwriaeth arbenigol, megis Rhwydwaith Iechyd y Pridd a’r Rhwydwaith Organig a Thrawsnewid.
Mae digwyddiadau megis y weminar yn ymwneud â Chylchdroi Cnydau yn rhoi hyder i dyfwyr mewn technegau ar gyfer Gweithred Gyffredinol 1 (Iechyd y Pridd), ac mae modiwlau e-ddysgu newydd - megis ‘Cyflwyniad i Egwyddorion Rheoli Plâu Integredig mewn Garddwriaeth’ - yn eu paratoi ar gyfer Gweithred Gyffredinol 2 (Rheoli Plâu Integredig). Yn ogystal, mae adnoddau ymchwil a thaflenni gwybodaeth wedi’u diweddaru’n cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus, gan gyfrif tuag at Weithred Gyffredinol 4 (Datblygiad Proffesiynol Parhaus). Mae’r tîm yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn yn trafod pynciau a fydd yn gwella arferion rheoli tir ffermwyr a thyfwyr. Er enghraifft, mae ein gweminar arfaethedig ar Gylchdroi Cnydau yn rhoi hyder i dyfwyr ddefnyddio’r dechneg hon i wella rheolaeth maetholion a phriddoedd o fewn eu systemau, gan eu paratoi ar gyfer Gweithred Gyffredinol 1 Iechyd y Pridd.
Ar gyfer busnesau garddwriaethol, bydd y modiwlau e-ddysgu canlynol a gwblhawyd o dymor yr haf 2025 yn cyfrif tuag at flwyddyn cynllun 2026 (ond ar gyfer y flwyddyn gynllun honno yn unig). Gall busnesau ddewis pa rai i'w cwblhau.
1. Egwyddorion Plâu a Chlefydau Planhigion
2. Diogelwch Bwyd i Dyfwyr Cynnyrch Ffres
3. Garddwriaeth: Diwydrwydd Dyladwy ar gyfer Tyfwyr ar Raddfa Fach
4. Garddwriaeth: Compostio ar y Safle ar gyfer eich menter arddwriaethol
5. Garddwriaeth: Sut i adnabod rhai o'r plâu, clefydau a chwyn mwyaf cyffredin mewn cnydau garddwriaethol
6. Cyflwyniad i egwyddorion Rheolaeth Integredig ar Blâu mewn garddwriaeth
Mae’r tîm yn cynhyrchu amrywiaeth o adnoddau a thaflenni gwybodaeth yn seiliedig ar y gwaith ymchwil diweddaraf i helpu tyfwyr i wella eu sgiliau a’u gwybodaeth yn barhaus, gan eu paratoi i weithio tuag at Weithred Gyffredinol 4 (Datblygiad Proffesiynol Parhaus).
Am ragor o wybodaeth neu am gymorth gydag e-ddysgu, cysylltwch â’r tîm: horticulture@lantra.co.uk.
Cymorthfeydd
Mae cymorthfeydd yn ffordd arall werthfawr o gael cyngor wedi’i deilwra gan ymgynghorwyr arbenigol. Mae’r sesiynau awr o hyd, a gynhelir dros y ffôn neu’n ddigidol, yn eich galluogi i drafod syniadau a materion busnes penodol. Yn dilyn yr ymgynghoriad, byddwch yn derbyn adroddiad yn crynhoi’r drafodaeth. Mae’r cymorthfeydd yn trafod ystod o bynciau sy’n berthnasol i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy gan gynnwys:
Perfformiad busnes
Cynllunio olyniaeth
Arallgyfeirio
Coetir
Rheoli glaswelltir
Cynefin a bioamrywiaeth
Mesur ôl troed carbon
Amaethyddiaeth adfywiol a bioamrywiaeth
Ffermio manwl gywir
Cliciwch yma i ymgeisio ar gyfer unrhyw un o’r cymorthfeydd!
Olyniaeth
Er nad yw’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy presennol yn cynnwys gofyniad penodol ynglŷn â chynllunio olyniaeth, mae’r cysyniad yn rhan o’i nodau ehangach o ran sicrhau cynaliadwyedd cefn gwlad yn yr hirdymor. Mae’r ystod lawn o wasanaethau Cyswllt Ffermio i helpu busnesau fferm gyda’u trefniadau olyniaeth yn cynnwys:
Cyfarfodydd teuluol wedi’u hwyluso
Cyngor ar gynllunio olyniaeth
Cyngor cyfreithiol
Y Rhaglen Dechrau Ffermio, sy’n helpu i baru newydd ddyfodiaid gyda ffermydd sydd eisoes wedi sefydlu i greu mentrau ar y cyd.
Sioeau Teithiol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau’n trafod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, lle bydd staff Cyswllt Ffermio ar gael i gefnogi mynychwyr. Am ragor o fanylion ac i gofrestru, cliciwch yma!
Er mwyn manteisio ar y cymorth sydd ar gael i chi gan Cyswllt Ffermio wrth i chi baratoi ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Lleol neu Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 03456 000 813.