07 Hydref 2025

Mae Charlie Cooper Harding yn unigolyn dynamig llawn cymhelliant o Bowys. Ac yntau ond yn 26 mlwydd oed, mae angerdd Charlie dros y diwydiant amaeth yn ddiamheuaeth, hyd yn oed heb gefndir ffermio. Mae Charlie wedi elwa o weithio gyda mentor Cyswllt Ffermio yn ddiweddar.

Mae’r Gwasanaeth Mentora ar gael i ffermwyr a thyfwyr o bob oedran ac o bob math o fusnes er mwyn elwa o arweiniad, profiad a gwybodaeth eu cymheiriaid yn y diwydiant amaeth. Mae’n arbennig o ddefnyddiol i fusnesau sy’n ystyried newid megis arallgyfeirio, ychwanegu gwerth, ehangu, neu ddechrau mentrau newydd. Mae hefyd yn fuddiol i newydd ddyfodiaid a’r rhai sy’n bwriadu gadael y diwydiant. 
         
Er bod llwyddiant Charlie i’w weld yn rhwydd erbyn hyn, nid yw ei siwrnai wedi bod heb ei heriau. Mae’n rhannu cyngor gwych a buddion mentora gydag eraill a allai fod yn teimlo’r un fath.

Bwriad Charlie oedd dilyn ôl traed ei rieni yn Llundain, ond newidiodd trywydd ei yrfa wedi iddo weithio gyda chontractwr ffensio lleol ac ar fferm bîff yng Nghanolbarth Cymru. Sbardunodd y profiad hwnnw ddiddordeb sydd wedi tyfu’n angerdd dros y sector amaethyddol, lle mae bellach yn anelu at lwyddo ym mhopeth y mae’n ei wneud.

‘Y nod i mi erioed oedd dod o hyd i rywbeth yr wyf yn ei fwynhau ac i wneud gwahaniaeth.’

Bu Charlie yn gweithio fel Arbenigwr Gwerthiant Rhanbarthol ar ran Wynnstay Group PLC. Fe wnaeth ei rôl fel Llysgennad Myfyrwyr a Ffermwyr Ifanc gyda’r NFU gynnig cyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr. Mae’n dweud ei fod yn credu’n gryf mewn dysgu gan bawb mae’n eu cyfarfod, a bod hynny’n allweddol i’w lwyddiant. Yn 2022, enillodd Charlie ysgoloriaeth HCC, gan ei alluogi i deithio i Chile.

Wedi iddo gymhwyso i ymaelodi â Cyswllt Ffermio o dan y categori newydd ddyfodiaid, mae Charlie wedi defnyddio nifer o’r gwasanaethau a gynigir gan y rhaglen sydd wedi cefnogi ei fentrau a’i ddatblygiad personol. Mae’r rhain yn cynnwys modiwlau e-ddysgu gan ganolbwyntio ar ddatblygu busnes, ffrwythloni artiffisial, rhagori ar bori ac yn fwyaf diweddar, y Gwasanaeth Mentora.

Gyda sgiliau busnes cryf ac agwedd agored tuag at syniadau newydd, mae Charlie yn dymuno tyfu nifer o fusnesau, ond mae’n cyfaddef nad yw’r daith wedi bod yn hawdd bob amser. Mae wedi wynebu heriau ac anawsterau ar hyd y ffordd, a dyna pryd y cysylltodd gyda Lilwen Joynson o’r tîm mentora. Mae hi wedi bod yn rhan o’i daith, gan ddarparu cymorth i’w helpu i gyflawni ei nodau.

Mae Lilwen Joynson, sydd â chefndir mewn ffermio bîff, defaid a llaeth, wedi bod yn gweithio fel mentor ers 2017. Mae Lilwen yn helpu entrepreneuriaid gwledig i ddatblygu busnesau newydd. Mae’n angerddol dros gynorthwyo pobl ym myd amaeth i gyflawni eu potensial ac i fod yn fwy cynhyrchiol fel pobl fusnes. Mae hi’n gwneud hyn drwy eu dysgu i archwilio eu busnesau eu hunain mewn modd gwrthrychol. Mae Lilwen hefyd yn Arweinydd Agrisgôp gyda Cyswllt Ffermio, sy’n defnyddio dulliau cymell mewn sefyllfa grŵp trwy ‘ddysgu gweithredol’.
Bydd ei phrofiad fel hwylusydd yn eich annog i osod nodau clir a’u cyflawni. Pan fyddwch yn gadael y cyfarfodydd, byddwch chi’n teimlo’n bwerus ac yn atebol, gydag amserlenni a chamau gweithredu penodol wedi’u hamlinellu gan fod y cymorth yn amrywiol ac wedi’i deilwra ar eich cyfer chi.

‘Ni allwch ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar eich busnes ac anwybyddu eich calon. Rydych chi’n dod yn fwy ymwybodol gyda mentor neu hyfforddwr, a gallwch symud oddi wrth sefyllfaoedd anodd i agwedd mwy cytbwys,” meddai Lilwen, sydd hefyd yn rhedeg rhaglen i ymdrin â straen, sef ‘Stress to Success’, a ddarperir yng nghategori Grŵp Gweithredu Busnes Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio.  Nod y gweithdy deuddydd yw eich helpu i feistroli eich meddylfryd ac i reoli’r teimladau cyfnewidiol. Gydag opsiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein, y nod yw lleihau straen a magu meddylfryd llwyddiannus. Trwy ddysgu i dawelu’r sŵn allanol a chanolbwyntio ar eich meddyliau, gallwch ddatblygu agwedd dawelach a dull mwy cynhyrchiol o fyw a gweithio.

Mae Lilwen yn disgrifio Charlie fel un sydd â meddwl penderfynol a ffyniannus, sy’n llawn syniadau newydd. Er bod hyn yn ased sylweddol er mwyn cyflawni, mae Charlie yn cyfaddef bod ei feddwl yn gallu bod yn un o’i rwystrau pennaf ar adegau. Mae’r gallu i siarad gyda rhywun fel Lilwen wedi bod yn brofiad positif iawn i Charlie. Mae’n dweud bod yn well ganddo, fel llawer o bobl eraill, godi’r ffôn, ac mae hi bob amser ar gael i ateb ei alwadau gydag arddull fentora sy’n seiliedig ar gymell.

Roedd Charlie wedi cyrraedd sefyllfa o ‘orlwytho personol’, sy’n deimlad cyffredin wrth sefydlu busnes newydd a mentro ar hyd llwybrau newydd. Roedd Lilwen yno i wrando, gan ei gynorthwyo i brosesu ei deimladau. Mae pobl yn ymdrin ag argyfyngau mewn gwahanol ffyrdd, a dewisodd Charlie droi at fentor. Mae cael gwasanaeth mentora gan Lilwen wedi rhoi cyfle i Charlie siarad gydag arbenigwr a oedd yn gwrando er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r hyn yr oedd yn ei brofi. Buont yn cydweithio i ddod o hyd i ateb.

‘Mae gofyn am help yn arwydd o gryfder. I mi, mae'n amlwg - rydych chi'n gofyn i bobl am atebion i gwestiynau nad oes gennych atebion ar eu cyfer. Mae'n gyfle i ddysgu.’

Rhannodd Charlie mai un o’r strategaethau newydd y mae wedi’i datblygu o ganlyniad i weithio gyda Lilwen yw sut i ymdrin â straen yn well, a sut i adnabod pan mae ei feddwl yn llawn a’i bod hi’n amser cymryd seibiant. Mae ei ddulliau o leihau straen yn amrywiol, ac yn dibynnu’n helaeth ar y diwrnod.

Trwy ei agwedd benderfynol a gwell dealltwriaeth ohono’i hun, mae Charlie wedi cyrraedd lle positif yn ei fywyd personol a phroffesiynol. Mae’n gweithio fel maethegydd ar gyfer ffermwyr bîff a llaeth ledled Cymru fel rhan o raglen ‘Dairy Diagnosis.’ Mae’n ymdrin ag adroddiadau ffrwythlondeb a chostau fferm, yn darparu’r hyn sydd ei angen ar ffermwr gan ganolbwyntio ar faeth.

Pan ofynnwyd beth fyddai ei gyngor i ffermwr neu berchennog busnes sy’n wynebu’r un math o anawsterau ar hyn o bryd ag yr oedd Charlie ei hun yn eu hwynebu yn y gorffennol, dywedodd, ‘Nid yw llwyddiant yn derfynol, nid yw methiant yn dyngedfennol: yr hyder i ddal ati sy’n cyfrif.”

Mae Charlie yn pwysleisio mai’r hyn sy’n allweddol ar gyfer llwyddiant iddo ef yw disgyblaeth, strwythur, a “chyflawni”, a byddai’n argymell gweithio gyda mentor fel Lilwen.

Eglurodd Lilwen fod ‘mentora yn gallu darparu arweiniad gwerthfawr ynglŷn â sut i oresgyn y cymhlethdodau a ddaw i’r amlwg wrth adeiladu busnes. Gall mentor gynnig cipolwg ar strategaethau busnes effeithiol, dulliau marchnata wedi’u teilwra i arferion holistaidd, a ffyrdd i ddenu a chadw cleientiaid. Gallant hefyd ddarparu cymorth er mwyn datblygu rhwydwaith proffesiynol cryf a chynnal agwedd cytbwys o ran gwaith a lles. Yn y bôn, mae mentora’n gallu cyflymu twf, gwella sgiliau proffesiynol, a meithrin gyrfa fwy cynaliadwy a gwerth chweil.’

Am ragor o fanylion am wasanaeth mentora Cyswllt Ffermio, cliciwch yma! Mae mwy na 90 mentor ar gael ledled Cymru gyda’u sgiliau a’u profiadau unigryw er mwyn cynorthwyo ffermwyr a thyfwyr. Os ydych chi wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio gallwch gael mynediad at 15 awr o sesiynau mentora wedi’u hariannu’n llawn gyda mentor o’ch dewis. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Canfyddiadau asesiadau ôl troed carbon o Rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio - astudiaethau achos llaeth a chig coch
18 Awst 2025 Fel rhan o Rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio
Agrisgôp yn helpu tyfwyr perlysiau o Gymru i atgyfnerthu eu busnesau
31 Gorffennaf 2025 Mae grŵp o dyfwyr o Gymru sy’n rhannu angerdd
Syniad cydweithredol tyfwyr aeron ysgaw yn “barod i fynd” os gellir sicrhau cyllid
24 Mehefin 2025 Nid oes rhaid i redeg busnes bach fod yn brosiect