Beth yw’r ffordd orau o ychwanegu elfennau hybrin mewn ŵyn sy’n tyfu/cael eu pesgi?

Nod y prosiect hwn a gynhelir ar fferm sydd â hanes o ddiffyg cobalt ac ïodin yw pennu’r ffordd fwyaf effeithlon o ychwanegu’r elfennau hybrin hyn mewn ŵyn Easy Care nad ydynt yn cael dwysfwyd. Bydd pedwar grŵp o 25 o ŵyn wedi’u diddyfnu’n cael eu sefydlu: grŵp rheoli heb unrhyw ychwanegion, grŵp sy’n derbyn Bolws Animax, grŵp arall sy’n derbyn ychwanegion drwy’r geg, a grŵp olaf yn derbyn ychwanegion ar ffurf chwistrell sy’n gweithredu am gyfnod hir (Troy Vitamin B12 / Flexidine). Bydd chwe oen yn cael eu dewis ar hap o bob grŵp a byddant yn cael profion gwaed bob pythefnos. Bydd yr holl ŵyn yn derbyn triniaeth llyngyr wrth ddiddyfnu os oes angen er mwyn sicrhau nad yw baich llyngyr yn dylanwadu ar berfformiad na lefelau elfennau hybrin.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Defnyddio adnoddau’n effeithlon