Gwella cynhyrchiant a phroffidioldeb ŵyn drwy ychwanegu cobalt

Nod y prosiect hwn yn hybu cynhyrchiant ŵyn a phroffidioldeb y fferm drwy fynd i’r afael â diffyg cobalt cyffredin mewn ŵyn. Bydd y fenter hon yn cymharu dau wahanol fath o driniaethau chwistrellu cobalt B12, gan fesur eu heffaith ar iechyd ŵyn yn fanwl drwy edrych ar enillion pwysau byw dyddiol (DLWG) a sgôr cyflwr corff. Y tu hwnt i’r effeithiau biolegol, mae’r prosiect yn cynnwys dadansoddiad economaidd hanfodol sy’n cymharu costau triniaethau, gan gynnwys pris y cynnyrch a llafur ar y fferm, i ddangos sut y gallai pob opsiwn wella proffidioldeb cyffredinol y fferm. Yn y pen draw, bydd yr astudiaeth hon yn darparu cyngor ymarferol yn seiliedig ar ddata i ffermwyr ŵyn, gan eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn ag ychwanegu cobalt ar gyfer ŵyn iachach, cynhyrchiant uwch, a chyllid uwch ar y fferm.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Defnyddio adnoddau’n effeithlon