04 Tachwedd 2025

Bydd y gweithdy hyfforddiant Iechyd a Lles Anifeiliaid diweddaraf sydd wedi'i ariannu'n llawn, a gyflwynir gan bractisau milfeddygol lleol o dan raglen Cyswllt Ffermio yn canolbwyntio ar reoli clefydau trwy frechu.

Mae brechu rhagweithiol, sy'n seiliedig ar wyddoniaeth, yn bwysig wrth reoli clefydau mewn gwartheg yn effeithiol, sy’n gweithio trwy adeiladu imiwnedd y fuches. Nid yn unig y mae’n atal, yn rheoli ac yn dileu clefydau heintus ond mae’n gwella iechyd a chynhyrchiant anifeiliaid. Mae'n cefnogi sefydlogrwydd economaidd gwell i ffermwyr, gan leihau'r ddibyniaeth ar wrthfiotigau a sicrhau diogelwch ac ansawdd cynhyrchion cig a llaeth.

Bydd y gweithdy’n cefnogi’r rhai sy’n cymryd rhan i wybod statws clefydau eu buches drwy fonitro, profi ac achredu, sef y sylfaen ar gyfer bioddiogelwch. Bydd yn tynnu sylw at sut y bydd brechu strategol yn helpu proffidioldeb a lles anifeiliaid. Bydd hefyd yn darparu cyfarwyddiadau ymarferol ar storio brechlynnau, protocolau gweinyddu a’r gwahaniaeth rhwng pigiad cychwynnol a phigiad atgyfnerthu.

Mae profion gwyliadwriaeth mewn buchesi yn cynnwys monitro rheolaidd am glefydau i ganfod ac atal achosion (gan ddefnyddio llaeth neu waed) i ganfod clefydau statudol ac endemig (megis TB, BVD, a chlefyd Johne’s). Mae'r gwaith diagnostig hwn yn cefnogi cynlluniau achredu trwyddedig CHeCS, sy'n darparu statws iechyd uchel sydd wedi’i ardystio. Mae brechu strategol yn hanfodol ar gyfer rheoli a dileu clefydau targed fel rhan o’r cynlluniau hyn.

Bydd y gweithdy hefyd yn trafod pwysigrwydd bioddiogelwch da, sut mae hyn yn atal lledaeniad clefydau, yn amddiffyn anifeiliaid, asedau’r fferm, ac iechyd pobl rhag risgiau milheintiol. Mae brechu yn cryfhau imiwnedd, sy'n cyfyngu ar ledaeniad pathogenau, yn amddiffyn stoc sy’n fregus, ac yn lleihau dioddefaint anifeiliaid. Mae atal achosion a gwella iechyd y fuches yn sicrhau cyflenwad bwyd iachach, ac mae'n hanfodol ar gyfer lleihau'r defnydd o wrthfiotigau.

Bydd presenoldeb mewn gweithdai yn cael ei gofnodi ar gofnod DPP 'Storfa Sgiliau' y rhai sy’n mynychu, ynghyd â 'thystysgrif presenoldeb' Gwobrau Lantra.

Mae'r gweithdai hyfforddiant wedi'u hariannu'n llawn, ond i fod yn gymwys ar gyfer y cyllid hwnnw, rhaid i bawb sy’n mynychu fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio a chwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP). Am ragor o wybodaeth am weithdai hyfforddiant, cliciwch yma!

Am ddyddiadau a manylion gweithdai sydd ar y gweill ewch i wefan Cyswllt Ffermio neu cysylltwch â'ch swyddog datblygu lleol i gael rhagor o wybodaeth.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Academi Amaeth 2025 yn dod i ben gydag enillwyr yr her yn derbyn gwobrau
24 Tachwedd 2025 Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn
Pam mae dwysedd porfeydd yn hanfodol ar gyfer tros-hau llwyddiannus
14 Tachwedd 2025 Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml
Dechrau Ffermio: Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith ledled Cymru!
13 Tachwedd 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer