Diweddariad terfynol arbrawf india-corn ar fferm Gwern y Go

Prif ganlyniadau

  • Roedd ychwanegu cynnyrch QLF L-CBF BOOSTtm a Corteva Instinct at gnwd india-corn yn gysylltiedig â chynnydd o 2.5 tunnell/hectar mewn cynhyrchiant
  • Roedd yr elw ar fuddsoddiad o ganlyniad i ychwanegu’r cynhyrchion yn 170%
  • Gall mapiau gwres o’r peiriant cynaeafu porthiant helpu i wneud y defnydd gorau o’r cynllun rheoli maetholion at y dyfodol
  • Tyfodd yr amrywiaeth india-corn Portabello lawer mwy o dunelli fesul hectar nag amrywiaethau eraill ar y fferm (Sylwer y gall y gwahaniaeth rhwng y caeau fod wedi effeithio ar y canlyniadau)

Cefndir

Tyfwyd cyfanswm o 40 hectar (98 erw) o india-corn ar fferm Gwern y Go yn 2025, y mwyafrif yn fath o’r enw “Pioneer 7179”, 12 erw o fath “Portabello”, a 12 erw o fath “Debalto”, gyda’r holl gnwd yn cael ei gynaeafu a’i werthu i waith treulio lleol.

Roedd yr arbrawf ar fferm Gwern y Go yn cymharu a fyddai “L-CBF BOOSTtm”, sef gwrtaith carbon hylifol sy’n bwydo microbau yn y pridd ac yn cynyddu faint o faetholion allweddol sydd ar gael, ac “Instinct”, sef cynnyrch sefydlogi nitrogen a phroses nitreiddio sy’n cadw nitrogen yn y pridd am gyfnod hirach, yn cynyddu cynnyrch posibl y cnwd. Mae manteision posibl eraill yn cynnwys lleihau colledion nitrogen drwy ddŵr ac ocsid nitrus i’r aer.

Diben y gwaith

  1. Canfod a yw ychwanegu cynnyrch QLF L-CBF BOOSTtm a Corteva Instinct yn cynyddu cyfanswm cynnyrch y cnwd
  2. Cyfrifo’r elw ar fuddsoddiad o ganlyniad i ychwanegu’r cynhyrchion

Yr hyn a wnaed

Casglwyd samplau o bob un o’r caeau gan yr agronomegydd, Juliet Anderson, gan ddefnyddio prawf sbectrwm eang ar gyfer cynllunio rheoli maetholion. Cafodd y cynhyrchion “Instinct” a QLF Boost eu gwasgaru ar bob un o’r caeau heblaw am ddau, lle cafodd un ei adael heb unrhyw gynnyrch, a’i ystyried yn llain reoli, a chafodd y llall ei rannu’n ddwy ran i ddarparu llain reoli a llain gyda thriniaeth.

  • Gwasgarwyd cynnyrch QLF boost yn ystod chwistrellu cyn ymddangosiad y cnwd ar gyfradd o 10L/ha
  • Gwasgarwyd cynnyrch Instinct gan Corteva wrth chwistrellu ar ôl ymddangosiad y cnwd ar gyfradd o 30L/ha
  • Felly, nid oedd angen gwasgaru mwy na gwario mwy i wasgaru’r ddau gynnyrch yn ystod yr arbrawf

Roedd canlyniadau’r arbrawf yn seiliedig ar gynnyrch y cnwd wrth gynaeafu, gyda’r ôl-gerbydau a ddefnyddiwyd i gludo’r cnydau’n cael eu pwyso ar glorian a samplau deunydd sych yn cael eu casglu wrth gyrraedd y gwaith treulio. 
Canlyniadau 

Tabl 1. Cyfanswm y tunelli a’r tunelli a dyfwyd fesul hectar yn ystod yr arbrawf
 

 Heb driniaethGyda thriniaeth
Cyfanswm tunelli85,53094,280
Tunnelli /Ha27.229.9
  • Cafwyd cynnydd o 2.476 tunnell/ha  mewn pwysau o india-corn ffres a dyfwyd fesul hectar ar y caeau lle cafodd y cynhyrchion eu defnyddio
  • Arweiniodd hyn at elw ar fuddsoddiad o 170% i’r ffermwr yn seiliedig ar y £/tunnell a dderbyniwyd gan fferm Gwern y Go am eu cnydau india-corn yn 2025 heb gynnwys cost y cynnyrch. 
     

 

Ffigur 1. Y cnwd india-corn yng nghanol mis Awst 2025 - gyda thriniaeth ar y chwith a’r ardal reoli ar y dde

 

Ffigur 2. Mapiau gwres cynnyrch o’r cae arbrofol. “T” yw ardal y driniaeth a “C” yw’r ardal reoli 

Tabl 2. Cynnyrch fesul hectar o’r amrywiaethau india-corn gwahanol a dyfwyd yn 2025
 

Cae

Amrywiaeth

Tunnell/ha

1

Pioneer P7179

27.48

2

Pioneer P7179

45.44

3

Pioneer P7179

38.15

4

Pioneer P7179

37.69

5

KWS Debalto

23.43

6

KWS Portabello

58.81

Tyfodd yr amrywiaeth india-corn Portabello lawer fwy o dunelli na’r amrywiaethau eraill ar y fferm yn 2025, ond gallai amodau mwy ffafriol y caeau fod yn brif ffactor a effeithiodd ar y canlyniadau. Mae mwy o gyfleoedd yn y dyfodol i wneud mwy o waith ar fferm Gwern y Go i ganfod pa amrywiaeth sy’n gweddu orau i’r math o bridd ar y fferm, yr hinsawdd a’r amgylchedd.