Diweddariad Terfynol: Gwerthuso effaith biosymbylydd gwymon ar gynhyrchiant glaswellt
Prif ganlyniadau:
- Cafwyd y cydbwysedd gorau o ran maetholion drwy ddefnyddio 30% yn llai o wrtaith ynghyd â gwasgaru Câr-y-Môr ddwywaith
- Gallai’r tywydd poeth a sych ynghyd â phori fod wedi effeithio ar y canlyniadau. Roedd y cysondeb a welwyd yn y driniaeth o leihau defnydd gwrtaith 30% yn awgrymu y gallai CYM hybu swyddogaeth y gwreiddiau neu gymeriant calsiwm dan bwysau, gan liniaru effeithiau’n ymwneud â’r tywydd yn fwy effeithiol
Cefndir
Bu Dylan Roberts yn cymryd rhan yn yr arbrawf gan ddefnyddio’r biosymbylydd Câr-y-Môr (CYM) sy’n seiliedig ar wymon, gan weithio ar y cyd â Cyswllt Ffermio, WWF a Will Marris o gwmni Terrafarmer. Mae’r defnydd o fiogynhyrchion yn seiliedig ar wymon wedi bod ar gynnydd mewn systemau cynhyrchu cnydau o ganlyniad i’w cyfansoddion bioweithredol sy’n cynnwys nodweddion symbylu planhigion, gan annog cynnydd o ran twf a chynnyrch planhigion.
Diben y gwaith
Pennu a allai mewnbynnau biolegol helpu i leihau gofynion gwrtaith heb effeithio ar gynnyrch, gan hefyd wella paramedrau iechyd y pridd, megis bioleg y pridd a deunydd organig.
Yr hyn a wnaed
Dechreuodd yr arbrawf ar ddiwedd mis Ebrill 2025, gyda phedair llain mewn cae o laswellt a fwriadwyd ar gyfer pori, ond oherwydd y tywydd sych, cymerwyd toriadau silwair hefyd:
- Rheoli (A) - Arferion safonol y fferm
- Triniaeth (B) – Dim gwrtaith
- Triniaeth (C) – gostyngiad o 50% mewn gwrtaith
- Triniaeth (D) – gostyngiad o 30% mewn gwrtaith
Gwasgarwyd y biosymbylydd hylifol ar gyfradd o 7.5 litr fesul hectar ddwy waith dros gyfnod yr arbrawf.
Ffigur 0. Lleiniau arbrofi ar fferm Llwyngwair
Cafodd pob llain ei thagio gan ddefnyddio system leoli fyd-eang (GPS) i sicrhau bod modd ailadrodd y samplau, a oedd yn cynnwys asesiadau o strwythur y pridd, bioleg y pridd, cynnyrch y cnwd a gwerth maethol yn ystod yr arbrawf drwy gwblhau’r canlynol:
- Dadansoddiadau o’r pridd (profion Solvita)
- Gwerthusiad Gweledol o Strwythur y Pridd (VESS)
- Dadansoddiad o werth dail a bwyd
- Asesiadau cynnyrch yn seiliedig ar gwadradau
Canlyniadau
Canlyniadau Samplau Nitrogen yn y dail
Mae nitrogen yn y dail yn adnodd defnyddiol ar gyfer asesu effeithlonrwydd y defnydd o nitrogen ac i ddeall effaith cyfraddau nitrogen a chynhyrchion biolegol ar dwf ac iechyd cnydau.
Canlyniadau Nitrogen 1 11/07/25 a chanlyniadau Nitrogen 2 26/08/25
Mae’r canlyniadau yn ffigur 1 yn dangos nitrogen cyson yn y dail ar draws pob un o’r lleiniau, gan gynnwys y lleiniau gyda gostyngiad mewn nitrogen neu ddim nitrogen ychwanegol. Gallai hyn fod yn gysylltiedig â gwasgaru CYM gan helpu i gynnal lefelau nitrogen yn y dail ar gyfraddau gwrtaith is.
Canlyniadau samplau magnesiwm y dail
Mae Mg yn bwysig er mwyn atal diffyg maetholion a hybu twf.
Y llain gydag arferion fferm safonol (SFP) a gynhyrchodd y lefelau egni metaboladwy uchaf ar gyfartaledd, gan ddangos bod y strategaeth bresennol ar gyfer gwasgaru gwrtaith yn gweithio’n dda a bod CYM yn helpu i gynnal lefelau egni metaboladwy. Mae’r canlyniadau hyn yn galonogol gan eu bod yn gallu rhoi hyder i ffermwr bod gostwng cyfraddau gwrtaith 30% a gwasgaru CYM ddwywaith yn gallu cynnal ansawdd y porthiant ac allbynnau. Mae’r llain gyda 30% yn llai o wrtaith wedi cynhyrchu canlyniadau tebyg i’r lleiniau SFP ar gyfartaledd.
Canlyniadau samplau siwgr y porthiant
Roedd canlyniadau pob un o’r lleiniau lle gwasgarwyd gwrtaith yn uwch na 80g/kg, felly roeddent yn cynnwys lefelau da o siwgr ar gyfer pori neu gynaeafu. Gwelwyd gostyngiad dramatig o 33g/kg o ran cynnwys siwgr ar y llain lle na roddwyd unrhyw wrtaith.
Gwelwyd cynnydd mewn Proteinau Crai cyffredinol o sampl 1 i sampl 2, er gwaetha’r gostyngiad mewn gwrtaith. Yr unig ostyngiad bach a welwyd oedd ar y llain lle defnyddiwyd 30% yn llai o wrtaith, ond roedd hyn o ddechrau uchel, sef 158, gan ostwng i 151. Mae hyn yn dangos bos CYM yn helpu i gynhyrchu porthiant o ansawdd da gyda lefelau da o brotein crai. Unwaith eto, llwyddodd y llain lle defnyddiwyd 30% yn llai o wrtaith i gynhyrchu’r canlyniadau mwyaf cyson.
Canlyniadau samplau pridd gwaelodlin
Roedd y samplau pridd a gasglwyd o’r caeau arbrofi’n nodi bod iechyd y priddoedd yn dda iawn yn seiliedig ar ddangosyddion iechyd allweddol y pridd megis deunydd organig, dwysedd, biomas microbaidd a statws maetholion.
Gweler crynodeb o’r canfyddiadau yn y tabl isod.
Maetholyn | Ystod | Dehongliad |
Ffosfforws (P) | 65-123ppm | Uchel iawn. Mae’r rhan fwyaf o brofion yn ystyried unrhyw beth dros ~45ppm yn uchel. Ceir cronfa sylweddol o P gweddilliol. |
Potasiwm (K) | 155-499ppm | Uchel iawn. Mae’r lefelau’n llawer uwch na’r angen ar gyfer y rhan fwyaf o gnydau. Roedd llain DR 1B (499ppm) yn eithriadol o uchel. Mae hyn yn debygol o fod o ganlyniad i wasgaru slyri dro ar ôl tro. Cadwch lygad ar hyn gan fod gormodedd o K yn gallu achosi strwythur pridd gwael a chloi maetholion. |
Calsiwm (Ca) | 1538 – 2023ppm | Digonol/Uchel. Ni nodwyd unrhyw ddiffygion. |
Magnesiwm (Mg) | 209-499ppm | Digonol/Uchel. Ni nodwyd unrhyw ddiffygion. Cadwch lygad i sicrhau nad yw’r Mg yn fwy na’r calsiwm gan y bydd hynny’n achosi cymhareb anghytbwys, gan arwain at broblemau gyda strwythur y pridd. |
Isafswm Nitrogen posibl | 107-154 kg N/ha | Cronfa Nitrogen uchel. Mae hyn yn dangos potensial y pridd i ryddhau N o’i ddeunydd organig, sy’n gallu gwrthbwyso’r angen ar gyfer gwrtaith N synthetig yn sylweddol. |
Deunydd organig (%) | 7.8% - 12.7% | Ardderchog. Mae hwn yn uchel iawn, gan awgrymu capasiti gwych i ddal dŵr, strwythur da i’r pridd, a chronfa fawr o faetholion sy’n cael eu rhyddhau’n araf. |
Cymhareb C:N | 9.6 – 10.0 | Delfrydol. Mae’r gymhareb gul hon yn dangos gweithgarwch microbaidd iach a chylchu maetholion yn effeithlon. Mae Nitrogen sydd wedi’i gloi mewn deunydd organig yn cael ei ryddhau’n effeithiol, gan leihau’r risg o gloi maetholion. |
Biomas Microbaidd a Resbiradaeth | Uchel iawn | Mae gwerthoedd uchel (e.e. Biomas Microbaidd hyd at 177mg/kg) un cadarnhau bod y pridd yn weithredol o safbwynt biolegol, sy’n hanfodol ar gyfer argaeledd maetholion. |
Dwysedd | 0.6-0.8 | Mae’r dwysedd yn isel (0.6400.73 g/cm2), gan olygu nad oes bron i ddim problemau cywasgiad, a digonedd o le ar gyfer aer a dŵr i’r gwreiddiau. |
Sut i’w roi ar waith ar eich fferm
- Mae asesu sylfaen iechyd y pridd ar y dechrau’n hanfodol.
- Gan gymryd bod iechyd y pridd yn dda, byddai gostyngiad o 10-20% mewn gwrtaith yn fan cychwyn da.
- Cynnal profion pridd yn ystod y tymor ar ôl gwasgaru’r biosymbylydd yn y lle cyntaf i wirio yn erbyn y sylfaen er mwyn gwirio swyddogaeth y pridd.
- Defnyddio ar lain fach i ddechrau i asesu effeithiolrwydd cyn symyd ymlaen at brofi ar lain fwy.
Cysyllwch â timtechnegolcff@menterabusnes.co.uk os hoffech dderbyn copi o’r adroddiad terfynol llawn ar gyfer y prosiect hwn.