22 Ionawr 2025
Mae silwair meillion coch a gwyn o ansawdd uchel wedi caniatáu i fferm ddefaid yng Nghymru dorri £1.85 y pen o'r bil porthiant a brynir ar gyfer mamogiaid sy'n cario dau oen.
Dwysfwyd oedd un o'r meysydd gwariant mwyaf o ran mewnbynnau yn Awel y Grug, ger y Trallwng, lle mae’r tad a mab Glyn a Chris Davies yn cynhyrchu cig oen o 700 o famogiaid Cymreig a Texel croes.
Ysgogodd y gost, ynghyd ag uchelgais i leihau ôl troed carbon y ddiadell, iddynt ailfeddwl – roedd eu gwaith prosiect o fewn rhwydwaith 'Ein Ffermydd' Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfle i dreialu meillion yn eu system.
Arweiniodd y dull hwnnw at arbedion sylweddol yn nhymor wyna 2025 wrth i'r ffigurau a gynhyrchwyd gan yr ymgynghorydd defaid annibynnol Kate Phillips ddangos bod costau porthiant atodol wedi gostwng £1.85/y famog mewn defaid a oedd yn cario dau oen a £2.31/y famog ar gyfer y rhai a oedd yn cario un oen.
O gymhwyso hyn i ddiadell o 500 o famogiaid sy'n sganio ar 150%, mae Kate yn cyfrifo, am £330/fesul tunnell am borthiant cyfansawdd 18% a £250/fesul tunnell am fwydion betys siwgr, y byddai'n lleihau'r bil porthiant £1,040 yn y cyfnod wyth wythnos hwnnw dan do.
Cafwyd arbedion pellach o'r llafur sy'n gysylltiedig â phorthi, a hefyd o lai o broblemau adeg wyna, a oedd, yng ngeiriau Kate, o ganlyniad i "ŵyn cryf da a cholostrwm o safon uchel".
Ar gyfartaledd, roedd costau porthiant ar gyfer y cyfnod wyth wythnos cyn wyna tuag £11/y famog, ar gost o £149/t DM ar gyfer y silwair meillion coch a £142/t DM ar gyfer y silwair meillion gwyn.
Ansawdd silwair yw'r ffactor pwysicaf sy'n dylanwadu ar faint o borthiant ychwanegol sydd ei angen ar famogiaid beichiog dan do yn y cyfnod cyn wyna, eglura Kate.
"Ar gyfer pob gostyngiad o 1MJ yn egni metaboladwy silwair, bydd angen tua 10kg ychwanegol o borthiant cyfansawdd neu gymysgedd cartref ar famogiaid."
O ystyried y gwahaniaeth cost mawr rhwng deunydd sych porthiant wedi'i gadw (DM) ar 15c/kgDM a 35c/kgDM ar gyfer bwyd cyfansawdd – sef costau’r porthiant a brynwyd yn Awel y Grug yn nhymor wyna 2025 – mae gwneud silwair o ansawdd uchel i leihau'r defnydd o borthiant a brynir yn gwneud synnwyr economaidd, ychwanega.
Cymharodd yr arbrawf silwair meillion coch a gwyn a borthwyd i famogiaid yn ystod wyth wythnos olaf y cyfnod beichiogrwydd a'r effaith ar ffactorau fel pwysau geni ŵyn, colostrwm a thwf ŵyn hyd at chwe wythnos oed.
Roedd gan y silwair a borthwyd egni metaboladwy cyfartalog o 10.8 MJ/kgDM.
"Roedd yr egni a'r cynnwys protein yn amrywio, felly roedd angen atchwanegiadau gwahanol i gydbwyso’r ynni a’r protein a gymerir o borthiant – roedd angen atchwanegiad egni ar y samplau protein uchel fel mwydion betys siwgr, ac roedd angen rhywfaint o brotein ychwanegol ar y samplau protein is ar ffurf porthiant cyfansawdd heb fod yn uwch na 18% o brotein crai," meddai Kate.
Roedd mamogiaid a oedd yn cario dau oen yn bwyta 14kg o borthiant cyfansawdd ar gyfartaledd ar gost o £4.62 y pen neu fwydion betys ar gost o £3.50 y pen a oedd, ar brisiau 2024/25, yn costio £5.91 y pen. Yn y blynyddoedd blaenorol, y defnydd o borthiant a brynwyd oedd 18kg/y famog ar gyfartaledd.
Yn flaenorol, byddai mamogiaid a oedd yn cario un oen yn cael eu porthi â 7kg o ddwysfwyd adeg wyna, ond gyda silwair o ansawdd uwch yn y system, dim ond yr hesbinod a fyddai’n cael porthiant atodol – sef 4.2kg/y pen o borthiant cyfansawdd ar £1.39 y pen.
Roedd mamogiaid yn wyna o 28 Mawrth, ac mae Kate yn adrodd bod pwysau geni yn dda ac, o ran maint a brîd y famog, yr ystyrir eu bod yn "uwch na'r cyfartaledd".
"Roedd gan ŵyn sengl o famogiaid aeddfed, boed ar feillion coch neu feillion gwyn, bwysau geni o bron 5kg, ar wahân i'r hesbinod, a esgorodd ar ŵyn a oedd ychydig yn llai, ond nid oedd hyn yn annisgwyl o ystyried eu bod o leiaf 12kg yn ysgafnach na’r mamogiaid mewn grwpiau eraill a oedd yn cario un oen, meddai.
Roedd efeilliaid a anwyd i famogiaid y porthwyd meillion coch iddynt yn 4.24kg ar gyfartaledd – sef ychydig yn uwch na 4.18kg yr ŵyn a anwyd i’r defaid y porthwyd meillion gwyn iddynt.
Dangosodd profion ansawdd colostrwm fod yr holl samplau yn rhagori ar y sgôr Brix darged o 26.5%.
Ar gyfer efeilliaid, roedd y gyfradd twf gyflymaf yn yr ŵyn yr oedd eu mamau wedi bwyta silwair meillion coch – sef cyfartaledd o 227g y dydd o’i gymharu â 206g y dydd yn y grŵp meillion gwyn.
Dangosodd y treial hefyd fod amseroedd pesgi wedi lleihau'n sylweddol os oedd ŵyn yn pori gwndwn meillion yn hytrach na phorfa barhaol.
Yn y tri grŵp a aseswyd rhwng 26 Medi a 5 Tachwedd 2025, cyflawnodd ŵyn a oedd yn pori meillion coch a gwyn enillion pwysau byw dyddiol (DLWG) uwch yn gyson.
Yr ŵyn a fu’n pori meillion gwyn a dyfodd gyflymaf i ddechrau – sef 109g/dydd yn y pythefnos hyd at 10 Hydref.
"Roedd yr ŵyn a fu’n pori’r meillion coch yn dechrau'n araf iawn, ac roeddent fel petaent yn amharod i fwyta'r meillion, ond ar ôl diwedd y pythefnos cyntaf, cynyddodd y gyfradd twf ac roedd yr ŵyn yn pesgi’n gyflym," meddai Kate.
Tyfodd y 27 o ŵyn a wnaeth besgi ar 19 Hydref 27g y dydd rhwng 26 Medi a 10 Hydref, ond cynyddodd y twf yn ddramatig dros y naw diwrnod nesaf i 217g y dydd, gan wneud iawn rywfaint ar ôl iddynt ddod i arfer â’r meillion coch.''
Dim ond 22% o ŵyn oedd ar ôl yn y grŵp meillion coch ar 29 Hydref o gymharu ag 81% yn y grŵp ar y borfa barhaol, a 42% yn y grŵp meillion gwyn.
"Mae'r treial yn dangos manteision meillion coch wrth gynyddu cyfradd twf ŵyn a lleihau nifer y dyddiau cyn lladd o gymharu â phorfa barhaol neu feillion gwyn," meddai Kate.
Mae cynnwys protein uchel a diraddiadwyedd cymharol isel yn y rwmen yn ffactorau allweddol, ychwanega.
Ar gyfer y teulu Davies, mae'r arbedion a amlygwyd gan yr arbrawf hwn wedi bod yn sylweddol ond ar draws y busnes, pan ystyrir ffactorau eraill, maent yn amcangyfrif arbedion llawer mwy yn y system ddefaid, sef cymaint â £8,000 - £10,000 y flwyddyn.
Dywed Chris, er enghraifft, fod ei waith gyda Cyswllt Ffermio wedi rhoi'r wybodaeth iddo i wneud silwair o borfa barhaol o ansawdd gwell, ac roedd ffactorau eraill a oedd wedi lleihau costau cynhyrchu, gan gynnwys dileu’r holl ddwysfwyd ar gyfer ŵyn.
"Rydyn ni’n credu ein bod ni’n defnyddio chwarter y dwysfwyd yr oeddem yn ei borthi ar draws y busnes," meddai.
"Mae'r fferm wedi gwella'n aruthrol oherwydd y prosiect cyfan gyda Cyswllt Ffermio; mae wedi bod yn anhygoel.''
Roedd prisiau cig oen cryfach wedi rhoi hwb i'r incwm, ond dywed Chris nad dyma'r unig reswm pam mae’r busnes wedi gweld y pris a dalwyd y pen yn cynyddu £25 ar gyfartaledd y llynedd.
"Trwy dyfu meillion a gwella’r borfa barhaol a phori cylchdro, rydyn ni’n gweld cyfraddau twf ŵyn gwell, ac mae mamogiaid yn perfformio'n well."
Roedd y cyngor a gafwyd gan Kate a'r ymgynghorydd amaethyddol annibynnol James Holloway wedi bod yn amhrisiadwy, ychwanega, yn ogystal â mewnbwn gan Owain Pugh, swyddog sector cig coch Cyswllt Ffermio ar gyfer canolbarth Cymru, sydd wedi goruchwylio'r prosiect.
"Mae mewnbwn Owain wedi bod yn amhrisiadwy; mae wedi ein hysgogi ni gyda'i frwdfrydedd a'i wybodaeth a thrwy wneud hynny, rydyn ni’n gwneud ein busnes yn fwy effeithlon a chynaliadwy," meddai Chris.
PANEL
Gan fod y dadansoddiad yn dangos bod silwair a gynaeafwyd yn 2025 wedi rhagori ar hyd yn oed yr ansawdd uchel iawn a gyflawnwyd yn 2024, mae'n debygol mai ychydig iawn o fwyd atodol fydd ei angen ar famogiaid cyfeb tua diwedd eu cyfnod beichiogrwydd.
Dangosodd y dadansoddiad 11.1 – 11.4MJ/kgDM ar gyfer y silwair meillion coch a 10.8MJ/kgDM ar gyfer y meillion gwyn.
Mae protein yn uchel hefyd – dangosodd y dadansoddiad o’r ail a'r trydydd toriad o feillion coch dros 20% o brotein crai.
"Ar gyfer mamogiaid 60kg sy’n cario dau oen, rydyn ni’n disgwyl porthi ychydig iawn o atchwanegiadau, ac efallai dim ond ychydig o fwydion betys, ydau neu driagl i helpu'r microbau yn y rwmen i ddefnyddio protein y silwair i’r eithaf," meddai Kate.
"Bydd y silwair gwaelaf, sef naill ai porfa barhaol neu silwair meillion gwyn yn unig, yn cael ei gynnig i famogiaid sy’n cario un oen, ac rydyn ni’n disgwyl na fydd angen unrhyw atchwanegiadau ar y mamogiaid hyn eto."
FFEITHIAU’R FFERM
- 129ha yn eiddo
- Tir yn codi i 1,200 troedfedd
- Pori cylchdro
- 700 o famogiaid bridio
- Ŵyn yn cael eu gwerthu ar bwysau byw drwy farchnad da byw Y Trallwng