Mae’r ffermwr pedwaredd genhedlaeth, Dylan Jones, yn glir nad oes rhaid i gynaliadwyedd a chynhyrchiant wrthdaro â’i gilydd. Ar fferm Castellior, ei fenter bîff ar Ynys Môn, mae Dylan wedi profi bod stocio dwys o fewn system gynaliadwy’n gallu cynyddu allbynnau’n ddramatig gan hefyd leihau allyriadau.
“Cyn ceisio cymorth technegol gan Cyswllt Ffermio, roeddwn i’n pesgi 330kg o bwysau carcas bîff ac ŵyn fesul erw, ond nid oeddwn yn agos at gyflawni unrhyw nodau amgylcheddol,” eglurodd Dylan.

“Erbyn hyn, rydw i’n pesgi 680kg o bwysau carcas bîff fesul erw, ac mae sero net yn fwy nag uchelgais pellgyrhaeddol bellach.”
Dros y ddegawd ddiwethaf, mae Dylan a’i dad Wyn wedi bod yn ail-lunio system y fferm yn raddol gydag un nod cyffredinol, sef lleihau ei hôl troed carbon heb effeithio’n negyddol ar berfformiad anifeiliaid a phroffidioldeb. Canlyniad hyn yw busnes bîff effeithlon iawn sy’n hunangynhaliol i raddau helaeth, gydag allyriadau trawiadol o isel fesul cilogram o gig eidion a gynhyrchir.

Mae Dylan yn pesgi oddeutu 1,600 o wartheg llaeth croes bob blwyddyn, a’u cyflenwi ar gontract misol i ABP Foods. Mae’r anifeiliaid yn cael eu monitro’n fanwl, ac yn cael eu pwyso’n rheolaidd, sy’n llywio penderfyniadau’n ymwneud â pherfformiad a phwysau pesgi, fel arfer rhwng 28 a 30 mis. Fodd bynnag, dechreuodd y trawsnewidiad mwyaf gyda chyfnod anghyfforddus.

“Tua deng mlynedd yn ôl, fe wnaethom ni groesawu grŵp o ffermwyr a oedd â diddordeb i weld pa mor effeithlon a phroffidiol oedd y busnes ar y pryd,” meddai Dylan.
“Tua diwedd yr ymweliad, gofynnodd rhywun sut yr oeddem ni’n sicrhau cynaliadwyedd ochr yn ochr â chyfraddau stocio trwm. Fe wnaeth y cwestiwn hwnnw daro tant go iawn.”

Ar yr adeg honno, roedd Castellior, sy’n fferm 340 hectar, yn dibynnu’n helaeth ar brotein a soia a brynwyd i mewn. Sylweddolodd Dylan, er gwaethaf perfformiad technegol da ar gyfer y 1,000 o ddefaid a’r 700 o wartheg ar y fferm, nad oedd y system yn cyflawni ei photensial amgylcheddol.

“Roeddwn i’n gwybod bod rhaid i ni newid. Roedd prynu protein yn golygu nad oeddem yn cymryd cyfrifoldeb llawn dros ein hôl troed.”  

Erbyn heddiw, mae’r ddibyniaeth honno wedi diflannu. Mae Castellior yn cynhyrchu tua 2,500 tunnell o silwair bob blwyddyn, gan weithredu fel sylfaen i ddogn cymysg cyflawn llawn protein yn seiliedig ar gnydau a dyfir gartref yn unig. Mae meillion coch, rhygwellt Westerwold, silwair uchel mewn protein, haidd wedi’i grimpio a gwellt bellach yn cymryd lle bwyd a brynir i mewn yn llwyr. Gwerthwyd y ddiadell a dechreuodd y ffocws ar gynyddu’r fuches bîff. 

“Rydym ni’n tyfu’r cnydau i fwydo’r stoc, i wneud y tail a ddefnyddir i dyfu’r cnydau! Mae’r porthiant uchel mewn protein, yn enwedig meillion coch a haidd, ynghyd â’r microhinsawdd sydd bron yn berffaith ar Ynys Môn wedi gwneud hynny’n bosibl.”

Mae arweiniad technegol arbenigol wedi bod yn ganolog i’w daith hyd yn hyn. Mae Dylan yn barod iawn i gydnabod rôl arbenigwr carbon Cyswllt Ffermio, Dr Non Williams, a’r Athro Amaethyddiaeth a’r Amgylchedd, Prysor Williams o Brifysgol Bangor, sydd, gyda’i gilydd, wedi ei gynorthwyo i ddeall tarddiad yr allyriadau a sut i’w lleihau heb effeithio’n negyddol ar allbynnau.

“Ni fyddem wedi cyrraedd ble’r ydw i heddiw heb Cyswllt Ffermio,” meddai Dylan.
“Mae’r lefel o gymorth a her wedi gwneud gwahaniaeth mawr”.

Fel cyn Ffermwr Ffocws Cyswllt Ffermio a siaradwr rheolaidd mewn digwyddiadau Cyswllt Ffermio, mae Dylan bellach yn rhannu data a phrofiadau gyda chymheiriaid, gan fod yn agored wrth ddangos bod modd i systemau bîff dwys gyflawni o safbwynt amgylcheddol yn ogystal ag ariannol.

Mae hefyd yn credu y bydd Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd Llywodraeth Cymru’n hanfodol ar gyfer helpu eraill i ddilyn llwybr tebyg.

“Er gwaethaf fy amharodrwydd ar y dechrau, gallai peidio ag ymrwymo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy olygu colli’r cyfleoedd sydd ar y gorwel,” meddai Dylan.
“Mae’n darparu’r fframwaith a’r cyfeiriad sydd ei angen ar ffermwyr os ydym ni’n bwriadu bodloni’r galw am fwyd a gynhyrchwyd gartref heb niweidio’r amgylchedd.”
I Dylan, mae cynaliadwyedd yn fwy na thargedau a llinynnau mesur, mae’n golygu diogelu dyfodol y fferm ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

“Mae’r newidiadau hyn yn diogelu’r busnes ar gyfer fy meibion, pe byddant yn penderfynu ffermio,” meddai. 

Mae wedi ennill nifer o wobrau’r diwydiant fel cydnabyddiaeth o’i gyflawniadau. Yn gynharach eleni, derbyniodd wobr Arloeswr Ffermio Cyswllt Ffermio; yn 2025, derbyniodd Wobr Goffa Syr Bryner Jones; yn 2024, cafodd ei enwi’n Ffermwr Bîff y Flwyddyn gan y Farmers Weekly, ac yn Ffermwr Tir Glas y Flwyddyn gan British Farming. Fodd bynnag, mae’n dal i ganolbwyntio ar gynnydd, nid canmoliaeth. 

“ Os alla i wneud hyn yma, gall ffermwyr eraill yng Nghymru wneud hyn hefyd”. 

“Gydag agwedd penderfynol, y cyngor cywir a pharodrwydd i newid, gall ffermio dwys, cynaliadwy fod yn rhan wirioneddol o’r ateb.”
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr arobryn, Ynyr Pugh o Ganolbarth Cymru, yn trafod ei lwyddiant o ganlyniad i Ffermio Cyfran
16 Chwefror 2026 Mae Ynyr Pugh yn ffermwr ymroddedig, llawn
Sut mae cofnodi perfformiad yn llunio gwelliannau gwerthfawr mewn diadell fynydd yng Nghymru
10 Chwefror 2026 Mae enillion mamol a gyflawnwyd trwy gofnodi
Bwydo glaswellt trwy'r dail yn rhoi hwb i borthiant india-corn mewn cyfnod o sychder, yn ôl arbrawf fferm
Bu i ddefnyddio’r dull bwydo drwy’r dail ar india-corn a oedd yn