17 Mawrth 2026

Mae Cyswllt Ffermio’n cyflwyno offeryn meincnodi rhyngweithiol sy'n galluogi ffermwyr i fesur dangosyddion perfformiad allweddol (DPA) sy'n benodol i’r fferm ac i gymharu eu canlyniadau ariannol a thechnegol eu hunain â ffermydd tebyg.

Anogir pob ffermwr i feincnodi, yn rhannol gan ei fod yn eu helpu i nodi meysydd y gallant eu gwella i wneud eu busnesau'n fwy effeithlon.

Fel yr eglura Delana Davies, Rheolwr Traws-Sector gyda Cyswllt Ffermio: “Yn y lle cyntaf, mae meincnodi’n cynnig persbectif ar ble mae ffermwyr yn sefyll mewn gwirionedd; wedi hynny mae'n caniatáu iddynt fonitro pa mor dda y maent yn gwneud o ran cyrraedd eu hamcanion.”

Gellir meincnodi drwy fodelau carbon neu gost gynhyrchu, neu drwy adolygu meysydd penodol o fusnes drwy DPA.

Mae Cyswllt Ffermio bellach wedi camu i’r bwlch gyda lansiad FARMDATA+ / DATAFFERM+, sef adnodd dwyieithog rhad ac am ddim sy’n defnyddio’r model DPA i alluogi busnesau fferm i weld sut maen nhw’n perfformio yn erbyn metrigau allweddol.

Cred Eirwen Williams, Pennaeth Rhaglenni Gwledig a Chyfarwyddwr Mentera, sy'n darparu'r rhaglen Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, na ellir gorbwysleisio pwysigrwydd meincnodi.

“Rydym yn sylweddoli pwysigrwydd meincnodi yn y diwydiant amaethyddol, ac rydym yn edrych ymlaen at ddarparu DATAFFERM+ fel offeryn i ffermwyr Cymru lywio llwyddiant ar gyfer eu busnesau,’’ meddai.

Mae DATAFFERM+ yn hawdd ei ddefnyddio gan ei fod yn caniatáu i'r defnyddiwr ddewis DPA sy'n briodol i'w busnes yn hytrach na rhoi rhestr hir iddynt o opsiynau nad ydynt yn berthnasol i'w system.

Mae DPA ar gyfer y saith sector craidd – tir âr, bîff, llaeth, garddwriaeth, moch, dofednod a defaid.

Gan na ddylid dadansoddi unrhyw DPA unigol ar ei ben ei hun, mae'r offeryn yn cyfeirio'r defnyddiwr i ddewis detholiad bach er mwyn rhoi dealltwriaeth iddynt o gryfderau a gwendidau eu busnes.

Mae DATAFFERM+ wedi'i ddatblygu fel y gellir ei ddefnyddio ar ffôn symudol, a bydd ar gael o 1 Ebrill 2026.

Gellir ei gyrchu ar-lein drwy wefan Cyswllt Ffermio lle gall deiliaid cyfrif sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio fewngofnodi gan ddefnyddio eu manylion One login ar gyfer y Cynllun Taliadau Gwledig Cymru (RPW).

Mae'r rhan fwyaf o'r DPA a nodwyd yn defnyddio data targed y gellir ei gymharu neu gyfartaledd y diwydiant, sydd wedi’i gyflwyno gyda graffeg syml a system 'goleuadau traffig' â chod lliw sy'n nodi, ymhlith awgrymiadau eraill, lle mae perfformiad yn dda, y dylid ei adolygu, neu lle mae lle i wella.

Cynigir cymorth wedi'i deilwra yn ôl canlyniadau DPA pob busnes gyda'r defnyddiwr yn cael ei gyfeirio drwy ddolenni i erthyglau neu hyfforddiant.

Mae DATAFFERM+ hefyd yn cynnwys yr hyn a elwir yn 'Ddangosyddion Fferm Gyfan' ar dri maes allweddol - porthiant a phori, amgylcheddol, a throsolwg o'r fferm.

Mae rhai o'r dangosyddion y gallwch eu cymharu eich hunain sydd ar gael ar y nodwedd hon yn caniatáu i'r defnyddiwr greu hanes o ddata ar gyfer eu busnes, sy'n golygu y gallant gymharu'r data hwnnw o flwyddyn i flwyddyn.

Gyda lansiad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) newydd, mae Cyswllt Ffermio wedi datblygu DATAFFERM+ gan ystyried y cynllun hwnnw.

O dan Weithred Gyffredinol 3 yr SFS, mae'n ofynnol i fusnes gwblhau dau DPA sector-benodol ac un DPA y Fferm Gyfan - os yw busnes yn gweithredu mewn mwy nag un sector, rhaid iddynt gwblhau dau DPA ar gyfer pob sector.

Gall ffermwyr ddefnyddio'r offeryn i gyflwyno eu DPA yn uniongyrchol i Daliadau Gweledig Cymru. Fodd bynnag, y dynodwr ac enw'r DPA a ddewiswyd yn unig sy'n cael eu hanfon, nid y data.

Gall y defnyddiwr adolygu'r DPA a gyflwynwyd ar Grynodeb dynodedig o’r SFS ar DATAFFERM+. Mae hyn o fudd wrth iddynt ddewis pa DPA i'w cyflwyno bob blwyddyn.

Mae gan yr offeryn hefyd ran ar gyfer hwyluswyr grwpiau megis grwpiau trafod, lle gellir cymharu data o ffermydd sy’n rhan o’r grŵp hwnnw a gellir gwneud hynny’n ddienw os oes angen.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Angen Gweithredu! Mae angen i ffermwyr a busnesau ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio a symud i One Login GOV.UK
18 Mawrth 2026 Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau
Mae Cyswllt Ffermio yn chwilio am ffermydd newydd i ymuno â Rhwydwaith Ein Ffermydd ar gyfer 2026
16 Mawrth 2026 Mae Cyswllt Ffermio yn gwahodd ceisiadau gan
Curwch y cnoiad a brechwch yn gynnar, gweithredwch nawr i amddiffyn eich stoc rhag y Tafod Glas!
11 Mawrth 2026 Gyda'r misoedd cynhesach yn agosáu, anogir