18 Mawrth 2026

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau pwysig i'r ffordd y mae ffermwyr a busnesau'n cael mynediad at wasanaethau cymorth gwledig, bydd gofyn i chi ailgofrestru i barhau i gael mynediad at wasanaethau Cyswllt Ffermio.

Fel rhan o'r newid cenedlaethol i ffwrdd o Borth y Llywodraeth, bydd angen i bob defnyddiwr symud i One Login GOV.UK.

Anogir busnesau ffermio i weithredu nawr i sicrhau mynediad di-dor at yr ystod lawn o wasanaethau cynghori, cymorth cynllunio busnes, datblygu sgiliau, e-ddysgu, hyfforddiant Iechyd a Lles Anifeiliaid, a'r rhaglen eang o adnoddau sydd ar gael i helpu busnesau ffermio i baratoi ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ynghyd â holl wasanaethau eraill Cyswllt Ffermio.

Bydd gofyn i ddefnyddwyr ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio gan ddefnyddio eu cyfrif One Login GOV.UK newydd. I baratoi, dylai busnesau gymryd y camau hawdd canlynol: 

  • Crëwch eich cyfrif One Login GOV.UK drwy ymweld â: www.gov.uk
  • Unwaith y bydd eich cyfrif One Login wedi'i sefydlu, byddwch yn gallu ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio – Gallwch wneud hyn drwy RPW ar-lein, unwaith y bydd gennych gyfrif One Login.
  • Bydd angen eich rhif CON presennol arnoch hefyd yn ystod y broses ailgofrestru. (Mae llythyr wedi'i anfon at bob defnyddiwr yn rhestru pob rhif CON sy'n gysylltiedig â'u busnes.)

Mae'n hanfodol cwblhau'r cam hwn i sicrhau y gallwch barhau i gael mynediad at holl wasanaethau Cyswllt Ffermio a'ch cofnod Storfa Sgiliau.

Drwy ddilyn y broses ac ailgofrestru, bydd eich holl hanes hyfforddiant blaenorol a gwybodaeth am eich Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn trosglwyddo'n awtomatig o'ch hen gyfrif i'ch un newydd.

Mae cynnal mynediad at eich data Storfa Sgiliau hanesyddol yn arbennig o bwysig i unrhyw un sy'n bwriadu gwneud cais am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

I unrhyw un sydd angen cymorth neu arweiniad cam wrth gam, mae Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar gael i'ch cefnogi. Cysylltwch â'r tîm ar 03456 000 813 neu ewch i wefan Cyswllt Ffermio. Mae canllawiau pellach ar gael yma!


Related Newyddion a Digwyddiadau

Mae Cyswllt Ffermio yn chwilio am ffermydd newydd i ymuno â Rhwydwaith Ein Ffermydd ar gyfer 2026
16 Mawrth 2026 Mae Cyswllt Ffermio yn gwahodd ceisiadau gan
Curwch y cnoiad a brechwch yn gynnar, gweithredwch nawr i amddiffyn eich stoc rhag y Tafod Glas!
11 Mawrth 2026 Gyda'r misoedd cynhesach yn agosáu, anogir
Tyfu ar gyfer twf E-fwletin Garddwriaeth gan Cyswllt Ffermio – Tymor y gwanwyn 2026