Cynllun Datblygu Personol (PDP)
…adnabod eich nodau hyfforddiant
Cwblhau PDP
Bydd eich PDP yn eich galluogi i adnabod y cyrsiau a fydd yn atgyfnerthu eich sgiliau ac yn eich helpu i ddatblygu eich busnes. Mae cydnabod eich nodau hyfforddi yn rhan bwysig o'r broses hon.
Bydd eich PDP yn eich cynorthwyo i wneud y canlynol:
- Cofnodi cymwysterau a sgiliau cyfredol.
- Canfod eich amcanion hirdymor a’ch nodau tymor byr.
- Canfod pa gyrsiau hyfforddi all eich helpu i wella sgiliau presennol neu ddysgu rhai newydd.
- Nodi pa amcanion hyfforddi y mae angen i chi eu cyflawni.
Ni allwch ymgeisio ar gyfer cyllid sgiliau heb gwblhau PDP. Dylech bob amser…
- sicrhau bod eich PDP yn gyfredol
- defnyddio eich PDP fel adnodd i’ch cynorthwyo i adnabod y sgiliau sydd arnoch eu hangen
- sicrhau eich bod yn gosod nod perthnasol ar gyfer pob cwrs yr ydych yn ymgeisio ar ei gyfer
DS Unwaith y bydd eich PDP wedi cael ei greu, ni fydd angen i chi greu un newydd, dim ond diweddaru’r un sydd gennych eisoes.
Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi llyfryn canllawiau ‘cam wrth gam’ defnyddio a fydd yn eich tywys drwy’r broses ymgeisio, gan gynnwys mynediad i BOSS chwblhau PDP.
Sut i gwblhau PDP
- Mewngofnodwch i BOSS neu cliciwch y botwm ‘Mewngofnodi i BOSS’ ar bennawd gwefan Cyswllt Ffermio.
- (Am gyfarwyddiadau cam wrth gam ar gyfer cael mynediad at BOSS drwy Sign on Cymru, cliciwch yma neu gwyliwch i fideo isod)
- Dewiswch yr adran Cynllun Datblygu Personol ar y dudalen flaen
- Cwblhewch bob maes yn y tab Trosolwg a'r tab Cyrsiau
- Cliciwch “Ychwanegu cwrs”
- Dewiswch gategori ar waelod y dudalen
- Cliciwch “Ychwanegu’r cwrs hwn” ar gyfer pob cwrs yr ydych yn dymuno ymgeisio ar ei gyfer (yna bydd yn ymddangos yn eich rhestr cyrsiau)
- Cliciwch ar y cwrs i weld y disgrifiad a’r ddolen i dudalen y cwrs hyfforddiant perthnasol ar wefan Cyswllt Ffermio. Bydd y ddolen yn agor mewn tab newydd ar frig eich tudalen ac yn cynnwys yr holl fanylion angenrheidiol ar gyfer y cwrs/cyrsiau yr hoffech ymgeisio ar ei gyfer/eu cyfer
- Cwblhewch bob maes yn y tab ‘Nodau’. Cliciwch ‘Ychwanegu nod’ fel y bo'n briodol
- Cwblhewch bob maes gwelir isod. Cliciwch ‘Arbed’ rydych chi bellach wedi cwblhau eich nodau
PDP - cymorth un i un
Os oes angen cymorth arnoch i gwblhau PDP a chyflwyno cais ar gyfer hyfforddiant wedi’i ariannu, gall eich swyddog datblygu Cyswllt Ffermio neu eich darparwr hyfforddiant o ddewis ddarparu cymorth dros y ffôn.
- Am fanylion cyswllt swyddogion datblygu, cliciwch yma
- I weld yr holl gyrsiau sydd ar gael, cliciwch yma
- Am fanylion cyswllt darparwyr hyfforddiant, cliciwch ar y cwrs hyfforddiant a ddewiswyd gennych