Dwysau cynaliadwy mewn systemau cynhyrchu ar laswelltir yn yr ucheldir
Mae ffermwyr y Ffindir yn gwneud y gorau o’r cyfnod tyfu byr o bum mis trwy ddefnyddio rhonwellt a pheiswellt tal. Nod y prosiect hwn yw ymchwilio os gall ymgorffori’r glaswellt yma, sy’n galetach ac yn gwreiddio yn ddyfnach, yn gymysgedd o hadau gynyddu cynhyrchiant ar ffermydd ar yr ucheldir. Mae gwella elw ariannol a hyfywedd glaswelltir ar yr ucheldir trwy gynyddu ei allu i gynnal mwy o anifeiliaid a’i gynnyrch yn hanfodol i sicrhau ei fod yn broffidiol yn y tymor hir.
Bydd y prosiect hwn yn cynnwys hau amrywiol blotiau ar ddau floc ar yr ucheldir sy’n dir gwlyb a mawnog sy’n codi i ychydig dros 425 metr uwch lefel y môr. Bydd y plotiau yn cael eu hau gyda ‘glaswellt oddi ar y silff’ gyda chanran gynyddol o ronwellt ar bob plot. Y nod yw gweld faint o ronwellt y dylid ei ymgorffori yn y gymysgedd hadau er mwyn iddo sefydlu yn dda, sicrhau perfformiad a’i wytnwch. Bydd dau ddull hau gyda chyn lleied o waith trin â phosibl yn cael eu harchwilio i weld pa dechneg sydd fwyaf llwyddiannus. Er mwyn sefydlu’r treialon bydd y tyfiant presennol yn cael ei ladd trwy chwistrellu, bydd hanner y plotiau yn cael eu hadu trwy sgrafellu a’r hanner arall trwy slotiau.
Yn ystod y prosiect bydd y data canlynol yn cael ei gasglu:
- Toriadau glaswellt yn cael eu cymryd o gewyll bob 4-6 wythnos trwy’r tymor tyfu i asesu ansawdd a swmp y porthiant
- Y gymysgedd o rywogaethau yn cael ei asesu trwy eu gwahanu yn ffisegol a’u hasesu yn weledol
- Defnyddir cemeg gwlyb i asesu lefelau’r egni y gellir ei fetaboleiddio (ME) a’r protein crai (CP) yn y gwahanol gymysgeddau
- Bydd mamogiaid ac ŵyn yn pori’r plotiau mewn cylchdro a bydd eu perfformiad yn cael ei fonitro gan y ffermwyr
- Cesglir gwybodaeth ar ba mor aml y dylid symud mamogiaid mewn system gylchdro gan mai ychydig o wybodaeth sydd ar gael am bori rhonwellt mewn cylchdro
- Bydd perfformiad y glaswelltir wrth iddo gael ei bori yn y gaeaf yn cael ei fonitro gan mai un o brif fanteision rhonwellt yw ei allu i ymestyn y tymor tyfu