30 Mehefin 2022

 

Mae rhonwellt yn cynhyrchu twf da ar ddechrau ac ar ganol y tymor ar fferm ucheldir Gymreig ac mae iddo’r potensial i lenwi bylchau pan mae twf rhygwellt parhaol yn arafu. 

Yn 430 yn ei bwynt uchaf, fe all y tir sy’n cael ei ffermio gan John a Sarah Yeomans a’u teulu fod yn amgylchedd heriol i dyfu glaswellt ar gwr y tymor ond drwy gynnwys rhonwellt mewn cymysgeddau hadau, mae’r gwyndwnnydd yn esgor ar 10tDM/ha ar gyfartaledd.

Fe all rhonwellt dyfu pan fo tymheredd y pridd yn 0C a thymheredd yr aer yn +5C.

Dyma’r prif rywogaeth glaswellt a dyfir yn y Ffindir lle mae’n arferol cael rhew ac eira ym mis Ebrill, wythnosau’n unig cyn y toriad cyntaf ym mis Mehefin.

Ar ôl ymweld â’r Ffindir ar Raglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio, bu Mr Yeomans yn treialu ei ddefnyddio ar bridd mawn dwfn, gwlyb yn ei system gwartheg bîff a defaid yn Llwyn y Brain, Adfa ger y Drenewydd, lle mae ef a’i wraig yn ffermio gyda’u meibion, Tom, Jack a Joe, a’u partneriaid, Grace a Mikaela.

Mae’r treial hwnnw, a oedd yn rhan o astudiaeth dair blynedd drwy Bartneriaeth Arloesi Ewropeaidd (EIP) Cymru, gyda mewnbwn gan arbenigwyr glaswelltir o’r Ffindir, Anu Ellä a Jarkko, yn awr wedi dod i ben.

Mae’r canlyniadau wedi darbwyllo Mr Yeomans y bydd gan rhonwellt le yn ei system i’r dyfodol.

Fe wnaeth y gwyndwnnydd wnaeth sefydlu’n dda yn 2019 gynhyrchu ar gyfartaledd 12tDM/ha yn 2021, gan ddarparu porthiant gwerthfawr i 58 o famogiaid ac ŵyn yr hectar am bron i dri mis a gan ymestyn y tyfiant diwedd y tymor yn sylweddol.

“Fe wnaeth gynyddu’r cynhyrchiant yn aruthrol rhwng Mai a diwedd Mehefin,” meddai Mr Yeomans. 

Yn 2022 fe wnaeth canran y rhonwellt yn un o’r plotiau gynyddu i 25% - i fyny o oddeutu 10% yn 2020.

Dywedodd yr arbenigwr glaswelltir Chris Duller, a fu’n rhoi mewnbwn technegol i’r prosiect EIP, ynghyd â Dr Iwan Owen, o IBERS, fod cynnydd bychan tebyg mewn rhonwellt wedi’u gweld yn rhai o’r plotiau gwreiddiol eraill hefyd, y rhai a gafodd amodau sefydlu heriol oherwydd lefelau glawiad eithriadol o uchel.

Dim ond 40kgN/ha a gafodd ei daenu hyd at ddiwedd Mehefin – mae’n debygol o gyrraedd cyfanswm o 80kg yn 2022 o’i gymharu â 120kgN/ha yn 2021 gan fod amodau anodd y ddaear wedi eu hatal rhag gwrteithio dim yn y gwanwyn.

Yn ystod diwrnod agored a gynhaliwyd yn ddiweddar ar y cyd rhwng EIP Cymru a Cyswllt Ffermio, dywedodd Mr Duller mai un o’r canfyddiadau allweddol o’r treial oedd bod rhonwellt wedi tyfu cystal â rhygwellt ym mhob un ond un o’r plotiau.

Nid oedd dim gwahaniaeth yng ngwerthoedd protein ac ynni y rhonwellt a’r rhygwellt, er y byddai rhywun yn disgwyl i ansawdd y rhygwellt fod yn uwch.

Ond roedd y treial wedi awgrymu mai’r ganran uchaf o ronwellt y gellid ei gael mewn unrhyw rai o’r plotiau oedd 25%, beth bynnag oedd cyfradd hau yr hadau.

“I’r dyfodol, mae’n awgrymu, os ydym eisiau cynyddu amrywiaeth y glaswellt yna mae angen inni feddwl am gynyddu canran y gwyndwnnydd aml-rywogaeth sy’n cynnwys amrywiaethau glaswellt eraill hefyd,” meddai Mr Duller.

Ni fydd hirhoedledd rhonwellt o’i gymharu â rhygwellt – sy’n un o fanteision allweddol y rhywogaeth hon – ond yn hysbys ymhellach i’r dyfodol, meddai.

Ond mae amserlen tair blynedd y prosiect EIP yn un y mae Mr Yeomans yn ddiolchgar ohoni. “Rhaid ichi dreialu rhywbeth am dair blynedd i wybod a fydd yn gweithio ai peidio oherwydd mewn ffrâm amser byrrach, gall y canlyniadau gael eu sgiwio gan flwyddyn eithriadol o dda neu flwyddyn eithriadol o wael.”

 

Mae ffermwyr yn y Ffindir wedi dyblu’u cnwd o wyndwnnydd glaswellt sy’n cynnwys rhonwellt yn bennaf drwy fabwysiadu amrywiol strategaethau gan gynnwys defnyddio cymysgeddau hadau mwy amrywiol.

Gyda chyngor gan yr ymgynghorwyr glaswelltir cenedlaethol Proagria, Anu Ellä a Jarkko Storberg, mae rhai tyfwyr yn awr yn cael 10.6tDM/ha yn flynyddol o’i gymharu â 5,480kg DM/ha 10 mlynedd yn ôl.

Ond drwy ail-hadu gyda’r cymysgeddau hadau newydd bob tair i bedair blynedd, mae’r perfformiad wedi gwella’n aruthrol, meddai Ms Ellä wrth y ffermwyr yn y diwrnod agored.

Deliwyd â hyn drwy ddefnyddio cymysgeddau amrywiol – y cymysgedd mwyaf poblogaidd yw un sy’n cynnwys 55% rhonwellt, 15% peiswellt uchel, 15% peiswellt dolydd, 15% rhygwellt parhaol ac o leiaf 4-5kg o gyfuniad o feillion coch, gwyn a meillion Sweden.

Mae’r cyfraddau hau ar gyfer ail-hadu’n gyfan gwbl mor uchel â 30-35kg i ganiatáu ar gyfer colledion yn y gaeaf, a gwneir y tros-hau ar gyfradd o 10kg/ha. 

Gan fod hadau rhonwellt yn llawer llai na rhygwellt, mae’n holl bwysig eu hau yn fas, meddai Mr Storberg – mae’n argymell plannu’r had ddim is na 1cm oherwydd os aiff yn ddyfnach nid yw’n debygol o sefydlu’n dda ac mae perygl i laswellt chwyn lenwi’r bylchau.

Caiff glaswellt ei sefydlu gan ddefnyddio dulliau hau ar led i wella’r gorchudd a dwysedd y glaswellt i warchod rhag oerni.

Mae gofyn cael cyswllt da rhwng y pridd a’r hadau wrth hau ar y wyneb.

Mae Ms Ellä yn cynghori cylchdro o dair i bedair blynedd. “Os gadewch e’n hirach dim ond rhonwellt fydd ar ôl yn y flwyddyn olaf os na chaiff ei dros-hau yn llwyddiannus,” meddai.

Mae dwysedd da ar ddechrau’r gaeaf yn atal problemau’r flwyddyn ganlynol ac mae glaswellt yn tyfu ar gyfradd o 350kg/dydd cyn y toriad cyntaf.

Dylid cerdded y caeau yn rheolaidd i helpu i wneud penderfyniadau ynglŷn â thros-hau ddechrau’r gwanwyn neu ddiwedd yr haf.

Mae’n bwysig dadansoddi’r glaswellt cyn torri oherwydd fe all torri’n rhy fuan arwain at leihad mawr ym maint cnydau oherwydd yn y 15 diwrnod olaf cyn y toriad cyntaf mae’r ffigurau tyfu dyddiol yn 200-400 kg DM/ha ar gyfartaledd.

Ond os caiff y diwrnod torri brig ei fethu bydd rhonwellt yn ffurfio pen yn gyflym a bydd hynny’n arwain at gosb maethol.

Yr uchder torri a argymhellir yw 10cm i ganiatáu iddo dyfu’n well.

Mae Mr Storberg yn cynghori dewis cymysgeddau glaswellt amrywiol sy’n cynnwys rhonwellt i gael mwy o wytnwch yn y gaeaf a pheiswellt uchel i oroesi sychdwr.

Yn y cyfamser, caiff rhygwellt parhaol diploid, meillion Sweden a meillion gwyn eu tros-hau yn y gwanwyn i ddod yn lle’r hyn a gollir yn y gaeaf ac i gynyddu gwerth D a derbynioldeb blas yr ail a’r trydydd toriad.

 

FFEITHIAU AM FFERM LLWYN-Y-BRAIN

Caiff 110ha ei ffermio – caiff 53ha ei gyfrif yn fynydd

Diadell gaeedig o 540 o famogiaid Beulah yn bennaf

85 o fuchod sugno a heffrod

System bori cylchdro

Profi pridd yn rheolaidd a chalchu


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint