Darperir drwy Cyswllt Ffermio, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig. Mae’n cynnwys tair rhaglen wahanol, sef y rhaglen Busnes ac Arloesedd; y rhaglen Arweinyddiaeth Wledig, menter ar y cyd gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a rhaglen yr Ifanc, menter ar y cyd gyda CFfI Cymru ar gael i bob ifanc rhwng 16 a 19 mlwydd oed.
Dywedodd yr Athro Wynne Jones OBE, cadeirydd panel dethol yr Academi Amaeth ar gyfer y tair rhaglen, ei fod ef a'i gyd-feirniaid yn cytuno bod safon y ceisiadau unwaith eto'n uchel iawn, a'i fod yn dasg anodd i ddewis y goreuon o blith 75 o geisiadau - y nifer uchaf ers cychwyn y rhaglen.
“Mae’r Academi Amaeth wedi mynd o nerth i nerth bob blwyddyn, ac mae’n rhoi boddhad mawr i wybod bod cymaint o’n cyn-aelodau’n cadw mewn cysylltiad ac yn parhau i gefnogi ei gilydd ar draws cymaint o feysydd.
“Mae llwyddiannau’r 70 a mwy o ffermwyr, pobl fusnes a phobl ifanc sydd wedi cymryd rhan hyd yn hyn yn niferus, ond mae pob un ohonynt wedi cyflawni cymaint fel unigolion, o fewn eu busnesau a'u bywyd gwaith ac ar ran y diwydiant ehangach yng Nghymru.
“Diolch i’w sgiliau fel llysgenhadon, mae rhwydwaith yr Academi yn dal i ffynnu, sydd yn ei dro yn cynorthwyo Cyswllt Ffermio i godi proffil ac ymwybyddiaeth o'r rhaglen flaengar hon," meddai'r Athro Wynne.
“Fel arfer, rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n gallu dangos uchelgais, ymrwymiad a ffocws, ond yn bennaf oll, rydym wedi dewis y rhai sydd â’r potensial, yn ein barn ni, i wneud y cyfraniad mwyaf i ddyfodol y diwydiant amaeth a chymunedau gwledig yng Nghymru.”
Bydd yr ymgeiswyr sydd wedi cael eu dewis nawr yn cymryd rhan mewn rhaglen ddwys o fentora, cefnogaeth, arweiniad a hyfforddiant gan rai o ffigyrau mwyaf llwyddiannus y diwydiant dros gyfnod o dri sesiwn byr, llaw gweithgareddau, gyda rhai ohonynt yn cynnwys taith astudio tramor.
“Bydd yr Academi Amaeth yn cyfrannu at ddatblygiad personol pob ymgeisydd, gan roi'r sgiliau, yr hyder a'r rhwydweithiau i ddatblygu eu busnesau eu hunain, boed hynny o fewn y busnes teuluol neu rywle arall," meddai'r Athro Wynne.
Am fwy o fanylion ynglŷn â'r rhaglen eleni a dyheadau 'Dosbarth 2016’, ewch i dudalen yr Academi Amaeth.