Treuliodd rhai o arweinwyr amaethyddol Cymru amser yn trafod y diwydiant a’u dyheadau ar ei gyfer gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig mewn cyfarfod yng Nghanolbarth Cymru.
Cyfarfu Lesley Griffiths gydag aelodau o Alumni Academi Amaeth Cyswllt Ffermio ar fferm Mark Williams yn Ffordun, ger y Trallwng, Powys, i glywed eu barn a’u syniadau ar gyfer y diwydiant fel rhan o gyfarfod casglu ffeithiau a fydd yn helpu i arwain polisi’r llywodraeth yn y dyfodol.
Rhan o raglen datblygu personol arloesol yn ei phedwaredd flwyddyn gyda bron i 80 o alumni, cyfarfu 11 o aelodau’r Academi Amaeth ag Ysgrifennydd y Cabinet.
Dywedodd Lesley Griffiths:
“Ers fy mhenodiad i’r swydd rwyf wedi ei gwneud yn flaenoriaeth fy mod yn cyfarfod cymaint o bobl o ddiwydiant amaeth Cymru ag sy’n bosibl i glywed drosof fy hun beth yw’r sialensiau a’r cyfleoedd sydd yn eu hwynebu.
“Roedd y cyfarfod gydag Alumni Academi Amaeth Cyswllt Ffermio yn gyfle pwysig i glywed syniadau ffermwyr y presennol a’r dyfodol yng Nghymru. Rwyf yn ddiolchgar am y croeso cynnes a roddwyd i mi ac i Mark Williams am westeio’r ymweliad. Byddaf yn siŵr o ystyried eu barn wrth i mi weithio’n glos gyda chymunedau amaethyddol Cymru i ddatblygu diwydiant amaethyddol ffyniannus a gwydn dros y blynyddoedd sy’n dod”.
Dywedodd Mark Williams, un o Alumni’r Academi Amaeth y cynhaliwyd y cyfarfod ar ei fferm, ei bod yn bwysig i farn ffermwyr o bob cenhedlaeth a’r rhai sydd â rhan yn ei ddyfodol i helpu i ffurfio polisi amaethyddol y llywodraeth yn y dyfodol.
“Mae llu o gyfleoedd a rhwystrau yn wynebu unigolion a’r gymuned amaethyddol yn ei chyfanrwydd yng Nghymru.
“Rhaid i ni sicrhau bod barn y gymuned wledig ar lawr gwlad yn cael ei chlywed a’i thrafod ac roedd cael cyfarfod yr Ysgrifennydd Cabinet mewn sefyllfa anffurfiol yn rhoi cyfle i ni dynnu sylw at syniadau a phroblemau o’r fath drosom ein hunain,” dywedodd Mr Williams.
Dywedodd Eirwen Williams, Cyfarwyddwr rhaglenni amaethyddol Menter a Busnes sy’n rheoli rhaglen Cyswllt Ffermio Llywodraeth Cymru, bod yr Alumni wedi trafod ystod o faterion a rhoi eu barn am y dyfodol.
“Mae’r alumni yn groestoriad pwysig o arweinwyr amaethyddol y presennol a’r dyfodol yng Nghymru. Mae eu barn am y diwydiant, ble mae e ar hyn o bryd ac i ble y mae’n mynd yn rhan bwysig o’r modd y bydd polisïau’r dyfodol yn cael eu creu a’u cyflawni.
“Roedd y cyfarfod ar fferm deuluol Mark yn lleoliad da i ddangos beth mae arweinwyr amaethyddol y dyfodol yn ei wneud ar hyn o bryd trwy weithio o fewn y diwydiant yn ogystal â thrafod eu syniadau at y dyfodol.”
Cyflwynir Academi Amaeth Cyswllt Ffermio ar y cyd â sefydliadau amaethyddol pwysig eraill yng Nghymru, gan gefnogi’r gwaith o chwilio am unigolion deinamig, brwdfrydig ac uchelgeisiol a all gyfrannu at ddiwydiannau ffermio, coedwigaeth a bwyd Cymru.
Maent yn cynnwys Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU Cymru), Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), Cymdeithas y Perchenogion Tir (CLA Cymru), a CFfI Cymru.
Cyflwynir yr Academi Amaeth trwy Cyswllt Ffermio, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.