Gall ffermwyr sy’n chwilio am gyfle i ychwanegu gwerth at eu busnesau presennol ganfod mwy am y cyfleoedd y gall cynlluniau ynni adnewyddadwy eu cynnig yn ystod digwyddiad yr wythnos nesaf.
Bydd y digwyddiad Ynni Adnewyddadwy, sy’n cael ei drefnu ar y cyd rhwng Cyswllt Ffermio, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn anelu at ddangos manteision cynlluniau ynni adnewyddadwy amrywiol, ac yn trafod enghreifftiau o bobl sydd wedi datblygu eu gosodiadau ynni adnewyddadwy eu hunain. Bydd siaradwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru yn amlinellu’r ystyriaethau amgylcheddol gofynnol ar gyfer gwahanol gynlluniau megis dŵr, solar a biomas. Bydd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn cynnig cyngor ynglŷn â’r broses cynllunio.
Digwyddiad Ynni Adnewyddadwy
Lleoliad: Canolfan Ymwelwyr Garwnant, Merthyr Tudful CF48 2HT
Dyddiad: 11 Hydref 2016
Amser: 14:00 – 17:00
Bydd cyfle i fynd ar daith o amgylch systemau ynni adnewyddadwy Garwnant a bydd lluniaeth ar gael.
Byddai archebu lle yn fanteisiol. Cysylltwch â Nerys Hammond ar 07985 379816 nerys.hammond@menterabusnes.co
neu Deian Thomas ar 07772 694952 deian.thomas@menterabusnes.co.