Yn ystod mis Hydref mae Cyswllt Ffermio yn cynnal cyfres o gymorthfeydd lle bydd tîm o Swyddogion Technegol a darparwyr hyfforddiant wedi’u cymeradwyo yn cynnig cymorth ar sut i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (PDP) ar lein.

Mae’r Cynllun Datblygu Personol yn wasanaeth wedi ei ariannu’n llawn ar gyfer ffermwyr a choedwigwyr sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio. Bydd cwblhau PDP yn cynorthwyo gyda adnabod amcanion tymor hir a nodau tymor byr, a datblygu sgiliau neu gymwyseddau allweddol.

Er mwyn cyflwyno cais am gymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant mae angen i chi gwblhau’r Cynllun Datblygu Personol ar lein. Os yn bosib, dewch a’ch gliniadu gyda chi I’r gymhorthfa er mwyn cwblhau’r Cynllun Datblygu Personol.

Gweler y dogfennau isod am ddyddiadau a lleoliadau yn eich ardal:

Gogledd Cymru
Canolbarth Cymru
De Orllewin Cymru
De Ddwyrain Cymru

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn