Ymunwch â Cyswllt Ffermio ar gyfer eu ‘Uwch-gynhadledd Cyrff Cynhyrchwyr Llaeth’ cyntaf er mwyn darganfod mwy am sut all Cyrff Cynhyrchwyr Llaeth ychwanegu gwerth a gwella effeithlonrwydd yn y gadwyn cyflenwi llaeth yng Nghymru.

Gallai Cyrff Cynhyrchwyr Llaeth fod o gymorth i fynd i’r afael â’r heriau’r farchnad ar hyn o bryd ac at y dyfodol o fewn y sector llaeth yng Nghymru. Mae Cyrff Cynhyrchwyr Llaeth yn grwpiau wedi’u sefydlu a’u rheoli gan ffermwyr, a’u prif nod yw trafod cytundebau a thelerau ac amodau cyflenwi, gan gynnwys prisiau llaeth, gyda phroseswyr.

Bydd yr Uwch-gynhadledd Cyrff Cynhyrchwyr Llaeth Cymru yn amlinellu strwythurau Cyrff Cynhyrchwyr Llaeth ac yn darparu gwybodaeth ynglŷn â’r posibiliadau y gallant eu cynnig i’r diwydiant Llaeth yng Nghymru. Bydd rhaglen y dydd yn cynnwys:

  • Siaradwyr nodedig o’r diwydiant gan gynnwys Stephen Bone, cadeirydd Corff Cynhyrchwyr Llaeth Dairy Crest Direct yn Davidstow; Rory Christie, cadeirydd Milk Supply Association; a Neil Adams, Promar.
  • Gweithdai er mwyn hwyluso trafodaethau, syniadau a dadleuon
  • Sesiwn holi ac ateb gyda phanel o siaradwyr

Mae’r uwch gynhadledd yn cael ei drefnu gan Cyswllt Fferrmio mewn cydweithrediad â’r grŵp Agrisgôp Cyrff Cynhyrchwyr Llaeth (DPO) Cymru. Mae’r grŵp yn cynnwys ffermwyr llaeth o bob cwr o Gymru sy’n awyddus i ymchwilio i bosibiliadau Cyrff Cynhyrchwyr Llaeth yng Nghymru.

 

Uwch gynhadledd Cyrff Cynhyrchwyr Llaeth Cymru

Lleoliad: Llety Parc, Aberystwyth SY23 3TL

Dyddiad: Dydd Llun, 14 Tachwedd 2016

Amser: 10:30 – 15:30

 

Am fwy o fanylion neu i archebu lle, cysylltwch â Carys Thomas ar 01970 631402 neu carys.thomas@menterabusnes.co.uk

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu