Ymunwch â Cyswllt Ffermio am gyfle i ymweld â’r uned foch ‘porchell i besgi’ newydd yng Nglynllifon ac i ddysgu mwy ynglŷn â gwella perfformiad a chynhyrchiant moch er mwyn sicrhau’r elw gorau.

Yn ogystal ag ymweld â’r cyfleusterau newydd modern, bydd y milfeddyg a’r arbenigwr moch adnabyddus, Bob Stevenson yn trafod bioddiogelwch ac atal clefydau. Bydd David Moorhouse, arbenigwr moch ar ran ADAS hefyd yn bresennol er mwyn edrych ar wella effeithlonrwydd cynhyrchiant yn ogystal â chyfleoedd i newydd ddyfodiaid i’r sector.

Bydd prosiectau newydd Cyswllt Ffermio yng Nglynllifon hefyd yn cael eu trafod, gan edrych yn benodol ar archwilio manteision cofnodi perfformiad moch i wneud penderfyniadau rheolaeth, sy’n rhan o brosiect newydd ar y safle.

Moch Cynhyrchiol - Gwella perfformiad a sicrhau’r elw gorau

Dyddiad: Dydd Iau 24ain Tachwedd 2016

Amser: 11:00 – 15:00

Lleoliad: Coleg Meirion-Dwyfor Glynllifon, Ffordd Clynnog, Caernarfon, LL54 5DU

 

Croeso cynnes i bawb yn y digwyddiad, ond cofiwch ystyried bioddiogelwch, gan sicrhau eich bod yn gwisgo dillad glân er mwyn mynychu. Bydd oferôls a gorchudd esgidiau tafladwy’n cael eu darparu.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Gwawr Llewelyn Hughes ar 07896 996841 gwawr.hughes@menterabusnes.co.uk

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Coeden a dyfir ar fferm Rhwydwaith Coed Nadolig Cyswllt Ffermio yn cyflenwi Rhif 10
19 Tachwedd 2024 Mae gan fusnes o Bowys sy'n aelod o rwydwaith o
Estyn allan i’r genhedlaeth iau – Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn targedu’r ifanc mewn ymgais i wneud ffermydd Cymru yn fwy diogel
18 Tachwedd 2024 Nid yw bob amser yn hawdd dweud wrth ffermwr
Gwella’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd drwy gyrsiau Cyswllt Ffermio
13 Tachwedd 2024 Gall hyfforddiant a sgiliau newydd helpu