Bu hi’n noson lwyddiannus i Richard Tudor, fferm Llysun yng ngwobrau’r Farmers Weekly Awards, gan iddo ennill gwobr Ffermwr Bîff y Flwyddyn. Cafodd y gwobrau eu cynnal ar ddydd Iau'r 6ed o Hydref yng ngwesty Grosvenor House, Mayfair yn Llundain.

Dywedodd Dewi Hughes, Rheolwr Datblygu Technegol, Cyswllt Ffermio. “Mae llwyddiant Richard ar ennill gwobr Ffermwr Bîff y Flwyddyn yn sicr i’w gymeradwyo ac yn gydnabyddiaeth o’r hyn sydd yn cael ei gyflawni yn Llysun. Ar ran Cyswllt Ffermio hoffwn ei longyfarch am y wobr haeddiannol yma.”

Yn rhan o rwydwaith Ffermydd Arddangos Cyswllt Ffermio; mae Richard yn ffermio bîff a defaid mewn partneriaeth gyda’i rieni, Tom ac Ann Tudor yn Llanerfyl ger y Trallwng. Er mwyn cael cyfraddau cenhedlu rhagorol yn Llysun, mae Richard yn gweithredu’r dechnoleg fridio ddiweddaraf. Mae tri chwarter o’r fuches yn lloi yn y tair wythnos gyntaf o’r cyfnod lloi a 90% o fewn chwech wythnos. Mae oddeutu 98% o’r lloi yn cel eu geni yn fyw am bob buwch a gaiff ei sganio.

“Ein nod drwy’r Rhwydwaith Arddangos yw sefydlu ac arddangos arloesedd mewn ffermio a choedwigaeth, gan rannu’r dechnoleg newydd ac arfer da i’r diwydiant. Mae nifer o waith a phrosiectau blaenllaw yn cael eu hymgymryd gan ein Rhwydwaith Arddangos, ac mae’n galonogol gweld fod ffermydd fel Llysun, sydd yn gweithredu arloesedd yn cael cydnabyddiaeth am eu gwaith a’u cyfraniad i ddatblygiad y diwydiant.” meddai Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mae gwybodaeth lawn a diweddariadau am holl brosiectau Rhwydwaith Arddangos Cyswllt Ffermio i’w gael yma. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Academi Amaeth 2025 yn dod i ben gydag enillwyr yr her yn derbyn gwobrau
24 Tachwedd 2025 Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn
Pam mae dwysedd porfeydd yn hanfodol ar gyfer tros-hau llwyddiannus
14 Tachwedd 2025 Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml
Dechrau Ffermio: Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith ledled Cymru!
13 Tachwedd 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer