Mae sicrhau’r oedran a’r bwlch lloia gorau, ynghyd  â sicrhau iechyd a ffrwythlondeb y fuwch yn rai o'r ffyrdd i wella effeithlonrwydd yn y fuches sugno a all arwain at gynnydd mewn proffidioldeb.

Ymunwch â Cyswllt Ffermio mewn tri digwyddiad sy’n gwerthuso dulliau o wella effeithlonrwydd y fuches sugno. Bydd Ian Pritchard, SRUC, yn trafod sicrhau’r maint gorau posib ar gyfer buwch llawn dwf, heffrod yn dod â lloi yn ddyflwydd oed a  chanlyniadau’n deillio o'r data a gasglwyd dros bedair blynedd ar Fferm Lan, Cynwyl Elfed - un o Safleoedd Ffocws Cyswllt Ffermio. Bydd cynnal effeithlonrwydd atgynhyrchu ynghyd ag effaith gwaredu BVD ar gynhyrchiant anifeiliaid hefyd yn cael ei amlygu.

 

Cynnal Effeithlonrwydd yn y Fuches Sugno

  • Dydd Llun, 12fed Rhagfyr 2016 7.30yh-9.30yh Afon Veterinary Centre, Llettynedd, Penydre, Castell Nedd, SA11 3HH
  • Dydd Mawrth 13eg Rhagfyr 2016 7.30yh-9.30yh Gwesty Maesmawr Hall, Caersws, SY17 5SF
  • Dydd Mercher, 14eg Rhagfyr 2016 7.30yh-9.30 Ruthin Farmers Auction Co Ltd. Marchnad Da Byw Dyffryn Clwyd, Parc Glasdir. Rhuthun LL15 1PB

Croeso i bawb. Am fwy o fanylion am y digwyddiadau hyn, cysylltwch â Carys Thomas ar 01970 631402 neu carys.thomas@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn