Mae sicrhau’r oedran a’r bwlch lloia gorau, ynghyd  â sichau iechyd a ffrwythlondeb y fuwch yn rai o'r ffyrdd i wella effeithlonrwydd yn y fuches sugno a all arwain at gynnydd mewn proffidioldeb.

Ymunwch â Cyswllt Ffermio ar Fferm Lan, Cynwyl Elfed, lle bydd Ian Pritchard, SRUC, yn trafod canlyniadau prosiect effeithlonrwydd gwartheg, gan gynnwys data a gasglwyd dros bedwair blynedd ar fferm Lan, a heffrod yn dod â lloi yn ddyflwydd oed.  Bydd Helen Scott, o Filfeddygon CVS Vets, Caerfyrddin, yn canolbwyntio ar gynnal effeithlonrwydd atgynhyrchu ynghyd ag effaith gwaredu BVD ar gynhyrchiant anifeiliaid.

Bydd y ffermwr, Phil Jones, hefyd yn arwain trafodaeth ar defnydd dau ddull gwahanol i ganfod buwch sy’n gofyn tarw at ddibenion AI, a bydd cyfle i weld y fuches cyn diddyfnu a chasglu data pellach.

 

Cynnal Effeithlonrwydd yn y Fuches Sugno

Dydd Mawrth 13eg Rhagfyr

12.30yp-3.30yp

Fferm Lan, Cynwyl Elfed, Sir Gâr SA33 6SP

 

Croeso i bawb, a darperir cinio wrth i chi gyrraedd. Am fwy o fanylion neu i archebu lle, cysylltwch â Menna Williams ar 01970 631405 neu 07896 837725 menna.williams@menterabusnes.co.uk

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Lansio Rhaglen Newydd Cyswllt Ffermio ar 1 Ebrill i Gefnogi Ffermwyr Ledled Cymru
26 Mawrth 2026 Mae ffermwyr ledled Cymru yn cael eu hannog i
Astudiaeth yn dangos arwyddocâd tir fferm yng Nghymru ar gyfer amrywiaeth adar
24 Mawrth 2026 Gallai recordiadau o adar a gasglwyd ar dir fferm
Angen Gweithredu! Mae angen i ffermwyr a busnesau ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio a symud i One Login GOV.UK
18 Mawrth 2026 Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau