Bu ymgeiswyr Academi Amaeth Cyswllt Ffermio 2016 mewn seremoni arbennig yn y Ffair Aeaf eleni yn Llanelwedd, lle gwnaethant gyfarfod Lesley Griffiths, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.
Cynigiodd y digwyddiad, gyda chynrychiolwyr o nifer o sefydliadau sy’n rhanddeiliaid amaethyddol allweddol yng Nghymru yn bresennol hefyd, gyfle i ymgeiswyr y Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig eleni amlinellu eu gweledigaeth am yr hyn y maent yn amgyffred yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i sicrhau diwydiant amaeth cynaliadwy a phroffidiol yng Nghymru ar ôl Brexit. Seiliwyd yr adroddiad, ymhlith pethau eraill, ar yr hyn yr oedd y grŵp wedi ei ddysgu yn ystod eu taith astudio i’r Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel yn ddiweddar.
Ar y cyd amlinellodd y ddau ffermwr ifanc Helen Howells o Lanwenog a Rob Hoggins o’r Fenni argymhellion y grŵp oedd yn canolbwyntio ar bum thema allweddol, sef defnydd effeithlon o adnoddau naturiol; gwerthu stori bwyd Cymru, cynyddu’r gallu i brosesu ar gyfer datblygu cynnyrch blaengar; cefnogi olyniaeth i gael diwydiant bywiog, amrywiol a chyrraedd safonau uchel o ran iechyd anifeiliaid.
Ymatebodd y Gweinidog trwy ddiolch i’r grŵp am eu cyfraniad gwerthfawr a rhoddodd anogaeth iddynt gymryd rhan yn holl ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ar amaeth a phynciau cysylltiedig.
“Mae’n bwysig iawn deall barn a safbwynt pawb yn ein diwydiant a bydd eich argymhellion chi yn cael eu hystyried ochr yn ochr â chanlyniadau tasgau tebyg sydd eisoes ar y gweill yn Llywodraeth Cymru a gyda’n rhanddeiliaid. Dyma’r amser i ystyried y risgiau a’r sialensiau sy’n deillio o Brexit, ond hefyd i sicrhau ein bod yn dynodi cyfleoedd newydd ac yn manteisio arnynt.”
Llongyfarchodd y Gweinidog ‘Ddosbarth 2016’ a dymuno pob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.
“Daeth Academi Amaeth Cyswllt Ffermio, sydd wedi cael 125 o fyfyrwyr erbyn hyn, â rhai o’r unigolion mwyaf addawol ac uchelgeisiol sy’n gweithio yn y diwydiant amaeth yng Nghymru heddiw ac yn cyfrannu at ei ffyniant at ei gilydd. Chi yw dyfodol ein diwydiant ac mae gennyf bob ffydd y byddwn yn clywed mwy am eich llwyddiannau niferus dros y blynyddoedd i ddod.
“Mae 14 mis erbyn hyn ers i’r rhaglen Cyswllt Ffermio newydd gael ei lansio ac mae’n cael effaith sylweddol a diriaethol mewn cymaint o feysydd. Mae’n cyflawni ei rôl allweddol wrth helpu ein diwydiant i ddod yn fwy cynaliadwy a gwydn, a hynny yng nghanol yr ansicrwydd sy’n deillio o ganlyniad refferendwm yr UE.”