Yn ystod cyfnodau o ansicrwydd a llai o hyder mewn busnes, ynghyd â’r ansefydlogrwydd sy’n parhau ym myd amaeth, mae’n gynyddol bwysig i fusnesau fferm gynllunio ymlaen llaw a gwneud penderfyniadau da. Mae datblygu gwell dealltwriaeth o wasanaethau bancio gwledig hefyd yn bwysig ar gyfer mentrau fferm.

Er mwyn cynorthwyo’r broses o wneud penderfyniadau a deall yr angen ar gyfer cynllunio at y dyfodol, mae Cyswllt Ffermio wedi trefnu cyfres o weithdai ymarferol, rhyngweithiol yn canolbwyntio ar astudiaethau achos enghreifftiol  yn ymwneud ag ehangu neu leihau busnes, gwariant cyfalaf, arallgyfeirio a lleihau risg. Bydd mynychwyr hefyd yn cael cyfle i’w rhoi eu hunain yn sefyllfa'r banc ac i wneud penderfyniadau am ariannu’n seiliedig ar yr astudiaethau achos.

Cynhelir chwe gweithdy ar draws Cymru ym mis Ionawr a Chwefror, wedi'u darparu gan Nigel Davies o gwmni Promar. Bydd siaradwyr eraill hefyd yn trafod rheolaeth ariannol, cyllidebu, cyfrifo perfformiad busnes, benthyca o’r banc ac ailstrwythuro dyledion.

 

Gweithdai Datblygu eich Busnes

31/01/2017

19:30 - 22:00

Pwllheli (lleoliad i’w gadarnhau wrth archebu lle)

01/02/2017

11:00 - 14:30

Yr Wyddgrug  (lleoliad i’w gadarnhau wrth archebu lle)

07/02/2017

19:30 - 22:00

Y Trallwng  (lleoliad i’w gadarnhau wrth archebu lle)

08/02/2017

11:00 - 14:30

Porthcawl  (lleoliad i’w gadarnhau wrth archebu lle)

09/02/2017

19:30 - 22:00

Casblaidd  (lleoliad i’w gadarnhau wrth archebu lle)

21/02/2017

11:00 - 14:30

Caerfyrddin  (lleoliad i’w gadarnhau wrth archebu lle)

 

Am fwy o fanylion am y digwyddiadau hyn, cysylltwch â Carys Thomas ar 01970 631402 neu carys.thomas@menterabusnes.co.uk

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut mae bwydo silwair meillion yn lleihau costau yn y cyfnod cyn ŵyna
22 Ionawr 2025 Mae silwair meillion coch a gwyn o ansawdd uchel
Dirprwy Brif Weinidog yn llongyfarch enwebeion Gwobrau Lantra Cymru mewn seremoni yn dathlu rhagoriaeth mewn datblygu sgiliau a dysgu gydol oes
16 Ionawr 2026 Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y
E-fwletin Garddwriaeth gan Cyswllt Ffermio - rhifyn Gaeaf 2025