Mastitis yw un o’r heriau mwyaf costus sy’n effeithio ar ffermwyr llaeth, ac mae lefelau Cyfrif Celloedd Somatig yn effeithio’n uniongyrchol ar y pris a geir am y llaeth. Gall mynd i’r afael â’r materion pwysig yma gynyddu pris a chynnyrch llaeth, lleihau nifer y gwartheg sy’n cael eu difa a lleihau costau cynhyrchu.

Yn ystod digwyddiad a gynhelir gan Cyswllt Ffermio, bydd y milfeddyg Dr James Breen yn trafod  sut i reoli mastitis clinigol a Chyfrif Celloedd Somatig y fuches. Bydd y gweithdy’n canolbwyntio ar ddeall lle mae afiechydon newydd yn codi yn eich buches a phwysigrwydd y cyfnod sych a’r cyfnod llaetha o ran rheoli mastitis, gan ddefnyddio’r fferm sy’n cynnal y digwyddiad fel astudiaeth achos.

Deall Rheolaeth Mastitis yn eich buches

Dyddiad: Dydd Iau 2 Mawrth 2017

Amser: 11:00 – 15:00

Lleoliad: H.M.P. Prescoed, Fferm Cilwrai, Coed-Y-Paen, Pontypool NP4 0SZ

Mae croeso cynnes i bawb, a bydd y digwyddiad yn cynnwys taith fferm a chinio. Oherwydd rheolau’r carchar, mae’n rhaid cadw pob dyfais data symudol (gan gynnwys ffonau symudol) yn eich cerbyd yn ystod y digwyddiad. Am fwy o fanylion neu i archebu lle, cysylltwch â Jamie McCoy ar 07985 379819 jamie.mccoy@menterabusnes.co.u

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut mae bwydo silwair meillion yn lleihau costau yn y cyfnod cyn ŵyna
22 Ionawr 2025 Mae silwair meillion coch a gwyn o ansawdd uchel
Dirprwy Brif Weinidog yn llongyfarch enwebeion Gwobrau Lantra Cymru mewn seremoni yn dathlu rhagoriaeth mewn datblygu sgiliau a dysgu gydol oes
16 Ionawr 2026 Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y
E-fwletin Garddwriaeth gan Cyswllt Ffermio - rhifyn Gaeaf 2025