Gall cynllunio olyniaeth ar gyfer ffermwyr a choedwigwyr fod yn dasg annymunol ac anodd, ond mae’n fater na ddylid ei roi o’r neilltu os ydych yn dymuno diogelu dyfodol y busnes ac osgoi gwrthdaro o fewn y teulu.
Mae angen cynllunio’r trawsnewidiad ymlaen llaw, fel bod eich teulu’n gwybod beth i’w ddisgwyl pe byddech yn ymddeol neu’n cael eich gorfodi i adael y fferm o ganlyniad i anaf, gwaeledd neu amgylchiadau eraill. Yn wahanol i fusnesau eraill, mae’r busnes fferm fel arfer yn cael ei drosglwyddo i berthynas, sy’n gallu arwain at broblemau os oes gennych fwy nag un plentyn ac nad oes gennych gynllun olyniaeth priodol mewn lle.
Mae’n bosib mai’r unigolyn sy’n etifeddu’r busnes yw’r unig un sy’n manteisio’n economaidd o etifeddiaeth y teulu ac mae hyn yn aml yn creu tensiwn gydag aelodau eraill o’r teulu. Fodd bynnag, mae gwahanol ffyrdd o rannu fferm rhwng eich perthnasau, a allai osgoi rhannu’r eiddo’n elfennau anymarferol. Er mwyn cynorthwyo teuluoedd ffermio i ddysgu mwy am y materion hyn, mae Cyswllt Ffermio wedi trefnu cymorthfeydd olyniaeth lle gall teuluoedd cymwys dderbyn ymgynghoriad awr o hyd gyda chyfreithiwr amaethyddol arbenigol.
Dywedodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio, a ariennir gan Gronfa Datblygu Amaethyddol Ewrop a Llywodraeth Cymru,
“Yn ddelfrydol, dylai cynllunio olyniaeth ymwneud nid yn unig â gwneud cynlluniau ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd wedi i rywun ymddeol neu farw, ond dylai hefyd roi ystyriaeth i sut fydd y busnes yn cael ei reoli i ddiogelu’r dyfodol a bywoliaeth y rhai hynny sy’n cymryd yr awenau.
“Mae angen i ffermwyr feddwl nid yn unig am bwy fydd yn etifeddu’r fferm a’r tŷ fferm, ond hefyd sut fydd y fenter ffermio’n parhau a phwy fydd yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw. Gall cynllunio ymlaen hefyd leihau atebolrwydd treth a phroblemau ariannol ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
“Gall trafodaeth agored ynglŷn â’r modd y bydd yr ystâd yn cael ei drin helpu i atal anghydweld ymysg y teulu ffermio ac anghydfod busnes. Gallai peidio â chael ewyllys mewn lle olygu bod angen i’r rhai sydd ar ôl ymdrin â rheolau diffyg ewyllys ac ansicrwydd ynglŷn â’r dyfodol yn ogystal ag ymdopi â’u galar.”
Bydd ffermwyr a choedwigwyr sy’n mynychu cymhorthfa olyniaeth Cyswllt Ffermio yn derbyn crynodeb o’r hyn a drafodwyd gyda’r cyfreithiwr a’r materion sydd angen iddynt eu hystyried. Am fwy o gymorth gyda chynllunio busnes, gall ffermwyr dderbyn cymhorthdal hyd at 80% trwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio.
Mae’n rhaid archebu lle ar gyfer pob cymhorthfa olyniaeth. Cysylltwch â Carys Thomas ar 01970 631 402 neu carys.thomas@menterabusnes.co.
Cymorthfeydd Olyniaeth i ddod
Dyddiad ac Amser | Lleoliad |
27/04/2017 09:00 - 17:00 | Aberaeron (lleoliad i'w gadarnhau wrth archebu apwyntiad) |
03/05/2017 09:00 - 17:00 | Llanfair ym Muallt (lleoliad i'w gadarnhau wrth archebu apwyntiad)
|
10/05/2017 09:00 - 17:00 | Abertawe (lleoliad i'w gadarnhau wrth archebu apwyntiad)
|
05/06/2017 09:00 - 17:00 | Beddgelert (lleoliad i'w gadarnhau wrth archebu apwyntiad) |
08/06/2017 09:00 - 17:00 | Caerfyrddin (lleoliad i'w gadarnhau wrth archebu apwyntiad) |