Mae troseddwyr gwledig yn gweithredu mewn dulliau mwy a mwy soffistigedig, gan ddefnyddio cyfrifiaduron i ddwyn gan ffermwyr yng Nghymru.

Mae seiberdroseddwyr yn manteisio ar fesurau diogelwch digidol cymharol wan i dwyllo ffermwyr.

martin davies farm manager at trawscoed discussing security with police and farmers 1 0
Yn ystod digwyddiad diogelwch fferm a gynhaliwyd yn ddiweddar ar fferm Trawscoed ger Aberystwyth, un o Safleoedd Arddangos Cyswllt Ffermio, cafodd ffermwyr eu hannog i ddiweddaru eu mesurau diogelwch yn rheolaidd er mwyn atal troseddwyr technolegol.

Cawsant eu rhybuddio y byddai peidio â chymryd camau i ddiogelu’r busnes fferm rhag troseddwyr ar lein yn golygu y byddant yn cael eu heffeithio yn y pen draw.

Mae hacwyr yn defnyddio meddalwedd awtomataidd i ddatguddio cyfrineiriau trwy sganio’r cyfryngau cymdeithasol a safleoedd eraill; bydd cyfrinair cryf yn bendant yn lleihau’r perygl.

Dylid osgoi defnyddio enw y mae modd ei ganfod mewn geiriadur; dylai’r cyfrinair fod yn gyfuniad o lythrennau neu rifau nad oes modd eu dyfalu gan brosesau awtomataidd na pherson. Gall cyfrinair Cymraeg fod yn anoddach i’w ddyfalu gan droseddwyr.

Daw’r bygythiad mwyaf i fusnes fferm o’r fferm ei hun - pan fo aelodau’r teulu neu staff yn clicio ar negeseuon e-bost annisgwyl neu annymunol sy’n heintio’r cyfrifiaduron yn syth.

Er mwyn lleihau’r perygl o hynny’n digwydd, cynghorir y dylid cadw cyfrifiadur at ddefnydd y busnes fferm yn unig.

Dinistriwch unrhyw ddisgiau caled nad ydynt yn cael eu defnyddio,  dadosodwch unrhyw raglenni nad ydynt yn cael eu defnyddio bellach a sicrhewch fod eich meddalwedd gwrth-feirws yn gyfredol.

Ar ffermydd sy’n rhedeg busnesau arallgyfeirio, megis maes gwersylla, mae risg diogelwch pellach i’r busnes os ydynt yn defnyddio’r un rhwydwaith wi-fi a’r gwesteion.

Mae hysbysebu peiriannau nad ydynt yn bodoli mewn cyhoeddiadau amaethyddol yn dacteg arall a ddefnyddir gan y troseddwyr; os bydd hysbyseb yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod. Gallai hysbyseb twyllodrus ddenu ffermwr i ffonio rhif ffôn premiwm. Mae’n bosibl gofyn i ddarparwyr ffonau rwystro rhifau ffôn premiwm.

Bu’r Archwilydd Dros Dro, Matthew Howells, Heddlu Dyfed Powys, yn cyfeirio ffermwyr at wefannau 'Get Safe Online' ac 'Action Fraud'.                                                        

Tu allan i swyddfa’r fferm, beiciau pedair olwyn, peiriannau, offer fferm a disel coch sydd ar frig rhestr lladron gwledig.

Mae ffermydd a’u hadeiladau  mewn perygl o gael eu lladrata oherwydd eu lleoliadau anghysbell, rhybuddiodd Arfon Griffiths o gwmni Dyfed Alarms.

Dangosodd pa mor syml oedd torri trwy glo safonol.

“Ni fydd cloeon bychain yn diogelu unrhyw beth, peidiwch â bod yn gynnil pan fo’n dod at statws diogelwch clo,” meddai Mr Griffiths.

Mae gan gloeon statws diogelwch yn amrywio o 1-15 - po uchaf y rhif, y mwyaf effeithiol yw’r diogelwch. Mae cloeon sydd â chyfuniadau rhif yr un mor effeithiol â chloeon gydag allwedd. Ond, unwaith y bydd y cyfuniad rhifau wedi cael ei rannu, newidiwch ef, meddai Mr Griffiths.

Peidiwch byth â gadael allwedd mewn clo neu mewn cerbyd. “Diogelwch y sied sy’n cadw eich tanc llaeth er mwyn atal pobl rhag halogi’r llaeth yn fwriadol,” meddai Mr Griffiths.

Er mwyn osgoi anghyfleustra i yrrwr y tanc sy’n casglu’r llaeth, cadwch yr allwedd mewn man diogel, y mae modd ei gysylltu â chamera CCTV.

Gall peintio giatiau mewn lliw neilltuol fod yn rhwystr a gosod deunydd marcio fforensig yn uniongyrchol y tu ôl i’r colfach.

Mae cloeon trelar yn costio cyn lleied â £20 a gellir cysylltu dyfais sy’n creu pelydryn diogelwch gyda ffôn symudol sy’n hysbysu’r ffermwr pan fydd y pelydryn hwnnw’n cael ei dorri.

Roedd yr Arolygwr Dros Dro Howells yn ymdebygu haenau diogelwch fferm i haenau nionyn. “Sicrhewch ei fod mor anodd â phosib i droseddwyr fynd drwy bob haen i’r man lle mae’r eitem y maent yn bwriadu ei ddwyn. Mae hynny’n eu hatal gan fod troseddwr yn gwybod bod mwy o siawns iddynt gael eu dal os byddant yn treulio llawer o amser yn ceisio cael mynediad.’’

Dywedodd Jamie McCoy, Cyswllt Ffermio, a oedd yn gyfrifol am hwyluso’r digwyddiad, mai prif neges y diwrnod oedd y dylai ffermwyr werthuso eu mesurau diogelwch yn rheolaidd.

“Gwnewch welliannau lle bo angen, byddwch yn wyliadwrus a riportiwch unrhyw weithgaredd amheus i’r heddlu lleol,” meddai.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu