Yn dilyn tymor gwanwyn ffafriol o ran twf glaswellt, mae’r tywydd sych annhymhorol ym mis Ebrill a Mai wedi gadael ambell ffermwr ar briddoedd ysgafnach gyda gorchudd glaswellt a chyfraddau twf is.  Roedd hyn yn cael ei gymhlethu i nifer gan y toriad cyntaf o silwair, a oedd yn gadael y gorchudd cyfartalog ar nifer o ffermydd ar 1900-2000 KgDM/Ha. Fodd bynnag, roedd padogau trymach yn rhagori yn ystod y cyfnod gyda heulwen gynnes a lleithder wedi’i gadw yn y pridd yn arwain cyfraddau twf o dros 130 KgDM/Ha.

Mae effaith y gwanwyn sych ar un fferm prosiect gyda phridd ysgafn i’w weld yma yn y graff lletem laswellt isod ar gyfer yr wythnos a fesurwyd ar yr 8fed o Fai. Mae hyn yn dangos bod padogau a borwyd yn dangos cyfraddau ail dwf arafach, sy’n golygu eu bod dan linell glas galw, a byddai hynny’n arwain at lawer o ffermwydd gyda buchesi sy’n lloia yn y gwanwyn yn cynyddu faint o ddwysfwyd a roddir i’w gwartheg er mwyn lleihau eu galw dyddiol am laswellt.

prosiect porfa 1

Byddai nifer o ffermydd eraill a oedd hefyd wedi cwblhau’r toriad silwair cyntaf yn ystod y cyfnod yn gweld aildyfiant adladd llawer arafach  a’r padogau newydd i symud eu gwartheg iddynt yn diflannu’n eithaf sydyn. Fodd bynnag, fel sy’n digwydd bob amser yn ystod gwyliau’r ysgol, fe ddaeth y glaw yn y diwedd, ac mae’r lleithder angenrheidiol a ddaeth ddiwedd Mai a dechrau Mehefin wedi arwain cyfraddau twf yn ôl i’r 80au, 90au ac uwch o’i gymharu â’r 50au a’r 60au KgDM/ha/dydd yn ystod y cyfnod sych.

Un broblem gyda chyfnod o sychder hir gyda thipyn o law i ddilyn yw parodrwydd rhygwellt i fynd yn goesog a hadu ynghyd ag unrhyw rywogaethau glaswellt annymunol a chwyn a allai ddod ynghyd i ffurfio’r borfa. Mae rheoli’r borfa yn ofalus yn ystod y cyfnod hwn yn hanfodol ac mae’n bosibl y bydd angen i chi ddefnyddio strategaethau megis torri cyn pori neu lanhau porfeydd gan ddefnyddio stoc llai cynhyrchiol, neu drwy dopio fel dewis olaf. Bydd y mesurau hyn gobeithio yn galluogi aildyfiant ffres a deunydd mwy deiliog o ansawdd gwell ar gyfer y tro nesaf.

prosiect porfa 2

prosiect porfa 3

Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies yn clywed sut mae cynllun 'Dechrau Ffermio' Cyswllt Ffermio yn diogelu ffyniant ffermydd teuluol yng Nghymru ar gyfer y dyfodol yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.
18 Gorffennaf 2024 “Mae paru tirfeddianwyr sydd am neu angen camu
Cyswllt Ffermio yn cyhoeddi Dosbarth Academi Amaeth 2024
15 Gorffennaf 2024 Mae enwau'r rhai a ddewiswyd i gymryd rhan yn
‘Cyllid Arbrofi’ Cyswllt Ffermio yn ceisio dod o hyd i reolaeth fiolegol effeithiol yn erbyn gelyn tyfwyr mefus
11 Gorffennaf 2024 Mae tyfwr ffrwythau meddal o Gymru a gollodd