Yn dilyn tymor gwanwyn ffafriol o ran twf glaswellt, mae’r tywydd sych annhymhorol ym mis Ebrill a Mai wedi gadael ambell ffermwr ar briddoedd ysgafnach gyda gorchudd glaswellt a chyfraddau twf is. Roedd hyn yn cael ei gymhlethu i nifer gan y toriad cyntaf o silwair, a oedd yn gadael y gorchudd cyfartalog ar nifer o ffermydd ar 1900-2000 KgDM/Ha. Fodd bynnag, roedd padogau trymach yn rhagori yn ystod y cyfnod gyda heulwen gynnes a lleithder wedi’i gadw yn y pridd yn arwain cyfraddau twf o dros 130 KgDM/Ha.
Mae effaith y gwanwyn sych ar un fferm prosiect gyda phridd ysgafn i’w weld yma yn y graff lletem laswellt isod ar gyfer yr wythnos a fesurwyd ar yr 8fed o Fai. Mae hyn yn dangos bod padogau a borwyd yn dangos cyfraddau ail dwf arafach, sy’n golygu eu bod dan linell glas galw, a byddai hynny’n arwain at lawer o ffermwydd gyda buchesi sy’n lloia yn y gwanwyn yn cynyddu faint o ddwysfwyd a roddir i’w gwartheg er mwyn lleihau eu galw dyddiol am laswellt.
Byddai nifer o ffermydd eraill a oedd hefyd wedi cwblhau’r toriad silwair cyntaf yn ystod y cyfnod yn gweld aildyfiant adladd llawer arafach a’r padogau newydd i symud eu gwartheg iddynt yn diflannu’n eithaf sydyn. Fodd bynnag, fel sy’n digwydd bob amser yn ystod gwyliau’r ysgol, fe ddaeth y glaw yn y diwedd, ac mae’r lleithder angenrheidiol a ddaeth ddiwedd Mai a dechrau Mehefin wedi arwain cyfraddau twf yn ôl i’r 80au, 90au ac uwch o’i gymharu â’r 50au a’r 60au KgDM/ha/dydd yn ystod y cyfnod sych.
Un broblem gyda chyfnod o sychder hir gyda thipyn o law i ddilyn yw parodrwydd rhygwellt i fynd yn goesog a hadu ynghyd ag unrhyw rywogaethau glaswellt annymunol a chwyn a allai ddod ynghyd i ffurfio’r borfa. Mae rheoli’r borfa yn ofalus yn ystod y cyfnod hwn yn hanfodol ac mae’n bosibl y bydd angen i chi ddefnyddio strategaethau megis torri cyn pori neu lanhau porfeydd gan ddefnyddio stoc llai cynhyrchiol, neu drwy dopio fel dewis olaf. Bydd y mesurau hyn gobeithio yn galluogi aildyfiant ffres a deunydd mwy deiliog o ansawdd gwell ar gyfer y tro nesaf.