Mae arian Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yn gwireddu syniadau arloesol ar ffermydd a choetiroedd ledled Cymru. Mae gan y cynllun gyllid o hyd at £40,000 fesul pob prosiect ar gyfer uchafswm o 45 o brosiectau sy’n cynnwys holl sectorau amaethyddol yng Nghymru. Os ydych chi’n credu gall eich busnes elwa o’r math hwn o brosiect, gwnewch gais i fod yn rhan o grŵp EIP.

Nod EIP yw dod a phobl o gefndiroedd gwahanol ymarferol a gwyddonol ynghyd i ddatrys problemau amaethyddol cyffredin drwy ddefnyddio’r syniadau a’r dechnoleg ddiweddaraf.

eip 0

Llun i'r chwith: Partneriaeth Arloesi Ewrop yng Nghymru yn arddangos technoleg newydd ar faes y Sioe Frenhinol eleni.

Dywed Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio, Lynfa Davies;

“O hyn ymlaen, Menter a Busnes fydd yn rheoli’r broses EIP ac mae hyn yn rhoi cyfle i ni symleiddio a chyflymu’r broses ymgeisio. Rydym yn chwilio am brosiectau fydd yn gwella effeithlonrwydd o fewn eich busnes ac sy’n debygol o fod yn drosglwyddadwy i gynulleidfa ehangach.

“Gall y prosiect ymwneud â thechnoleg newydd ydych wedi clywed amdano o ddiwydiant arall neu sector o fewn y diwydiant amaeth. Gall fod yn rhywbeth ydych yn teimlo y gallech ei wella fel rhan o’ch system rheoli. Gall yr arian yma eich galluogi chi a’ch grŵp â diddordebau tebyg brofi i weld os yw’r dechnoleg hwn yn gweithio ar gyfer eich busnesau chi.

“Neu, os oes gennych broblem o fewn eich busnes ond ddim yn sicr sut i’w ddatrys, gallwch ddod a’r mater hwnnw i EIP ac mae siawns y gallwn greu prosiect er mwyn dod o hyd i’r datrysiad.”

Mae angen i bob grŵp EIP gynnwys o leiaf dau ffermwr o fusnesau ar wahân ac un unigolyn o fudiad perthnasol. Byddent yn gweithio hefo Brocer Arloesi er mwyn datblygu prosiect gall redeg hyd at dair blynedd. 

Mae cefnogaeth bellach ar gael i’r grŵp drwy Hwb Trosglwyddo Gwybodaeth Cyswllt Ffermio, sef cydweithrediad â IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Byddent yn cwblhau peth ymchwil cefndirol er mwyn gweld beth sydd eisoes yn hysbys am eich pwnc.

Gall Hwb Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio hefyd roi cyngor ar sut dylai prosiectau gael eu cynllunio er mwyn cael y gorau allan o’r cyllid ydych yn ymgeisio amdano.

Os hoffech fwy o wybodaeth am Brosiect EIP a sut i ymgeisio, cliciwch yma. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Pam y dylai pob fferm yng Nghymru osod nod i gynyddu carbon organig pridd
30 Mai 2024 Bydd lleihau amharu ar y pridd, tyfu cnydau gorchudd
Merched mewn Amaeth Cyswllt Ffermio yn dychwelyd – ac eleni mae ar daith!
29 Mai 2024 Mae merched sy’n gweithio ym myd amaeth ledled Cymru
Mentora yn helpu fferm i newid o gynhyrchu da byw i dyfu grawnwin
28 Mai 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites