Mae Cyswllt Ffermio wedi dewis dau o leoliadau mwyaf eiconig Cymru er mwyn cynnal Fforymau Merched mewn Amaeth eleni, sy’n cael eu cydnabod bellach fel un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i nifer o ferched sy’n gweithio yn y diwydiant yng Nghymru. 

Gan adeiladu ar lwyddiant digwyddiadau Merched mewn Amaeth blaenorol, sy’n denu cynulleidfaoedd llawn bob blwyddyn, cynhelir y digwyddiadau eleni yn y lleoliadau canlynol:

  • Portmeirion, Penrhyndeudraeth, LL48 6ER  - Dydd Mawrth, 19 Medi 2017
  • Castell Aberteifi, Aberteifi SA43 1JA – Dydd Iau 21 Medi 2017

Bydd y ddau ddigwyddiad yn cymryd lle rhwng 10yb a 4yp. Y brif siaradwraig eleni fydd y ferch fferm o Sir Gaerfyrddin, Fflur Sheppard. Cafodd Fflur ei dewis yn bersonol i weithio i un o gwmnïau cyfathrebu mwyaf blaenllaw’r DU yn ddiweddar, a bu’n gyfrifol am arwain ymgyrch lwyddiannus gan un o’r prif adwerthwyr i ail adeiladu ffydd yn y brand a’i berthynas â’i weithwyr. Yn ymuno â Fflur yn y digwyddiadau bydd yr ysgolhaig Nuffield a’r ffermwr Holly Beckett, sydd wedi cynorthwyo i adeiladu’r fferm deuluol pedwaredd genhedlaeth yng Nghanolbarth Cymru i gynnwys siop fferm, bwyty, ysgol goginio a chyfleusterau cynadledda; yn ogystal â chynrychiolwyr o ddau o luoedd Heddlu Cymru a fydd yn trafod troseddau seiber ar ffermydd. 

Dywedodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, mai nod y digwyddiad yw annog merched i arwain newid ac arloesedd o fewn amaethyddiaeth, yn enwedig wrth i fusnesau wynebu ansicrwydd Brexit.

“Mae merched yn chwarae rôl flaenllaw mewn nifer o fusnesau fferm a mentrau gwledig yng Nghymru ac mae’n bwysicach nag erioed bellach i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed,” meddai Mrs Williams.

Bydd y fforymau’n dod â merched ynghyd ac yn cynnig cyfle iddynt rwydweithio a chreu cysylltiadau newydd o fewn y diwydiant amaeth yng Nghymru. Bydd mynychwyr hefyd yn cymryd rhan mewn tri gweithdy wedi’u hwyluso. 

Bydd pynciau gweithdai’n cynnwys:

  • Rheoli staff – wedi’i hwyluso gan Corinna Lloyd Jones, pennaeth adnoddau dynol, Menter a Busnes
  • Datblygu eich pobl, datblygu eich busnes – wedi’i hwyluso gan yr Ysgolhaig Nuffield a’r ffermwr, Holly Beckett
  • Mynd i’r afael â throseddau seiber mewn amaeth – Paul Callard, Heddlu Dyfed Powys a Nicholas Hawe, Heddlu Gogledd Cymru

Mae archebu lle ymlaen llaw yn hanfodol ar gyfer y digwyddiadau hyn. Ffoniwch Sian Tandy ar 01970 631404 neu anfonwch e-bost at sian.tandy@menterabusnes.co.uk, neu i archebu lle ar lein, cliciwch yma. 

 

RSVP erbyn 12.09.17


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies yn clywed sut mae cynllun 'Dechrau Ffermio' Cyswllt Ffermio yn diogelu ffyniant ffermydd teuluol yng Nghymru ar gyfer y dyfodol yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.
18 Gorffennaf 2024 “Mae paru tirfeddianwyr sydd am neu angen camu
Cyswllt Ffermio yn cyhoeddi Dosbarth Academi Amaeth 2024
15 Gorffennaf 2024 Mae enwau'r rhai a ddewiswyd i gymryd rhan yn
‘Cyllid Arbrofi’ Cyswllt Ffermio yn ceisio dod o hyd i reolaeth fiolegol effeithiol yn erbyn gelyn tyfwyr mefus
11 Gorffennaf 2024 Mae tyfwr ffrwythau meddal o Gymru a gollodd