Cafodd ffermwyr gyfle i ymweld â fferm deuluol Nant yr Efail, Betws yn Rhos, sy’n cadw 700 o ddefaid a gwartheg eidion, yn ystod diwrnod agored a gynhaliwyd gan Cyswllt Ffermio yn ddiweddar.

dewi jones richard owen
Mae Gethin Owen a’i dad, Richard Owen, wedi bod yn canolbwyntio ar wella a gwneud y defnydd gorau o’r borfa ar eu fferm ac maent yn rhan o Brosiect Porfa Cymru Cyswllt Ffermio yn ogystal â chyflwyno geneteg er mwyn gwella perfformiad defaid ar systemau mewnbwn isel. “Trwy gyflwyno geneteg Innovis a chanolbwyntio ar reolaeth tir glas, gwelwyd cynnydd o 14% o ran pwysau byw'r ŵyn a gynhyrchir fesul mamog. Mae hynny'n golygu £12 yn ychwanegol fesul mamog a £3600 yn ychwanegol o fewn y ddiadell o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol”.

Bu Rhys Davies, Swyddog Technegol Llaeth Cyswllt Ffermio dros ardal Gogledd Cymru, yn rhoi diweddariad ynglŷn â Phrosiect Porfa Cymru. Pwysleisiodd bwysigrwydd mesur glaswellt er mwyn sicrhau bod y da byw yn cael cynnig bwyd digonol o’r ansawdd cywir.

Fel rhan o’r prosiect hwn, mae ffermydd wedi bod yn defnyddio mesurydd plat i fesur y glaswellt ac yna’n mewnbynnu’r data, ynghŷd â’r gyfradd stocio yn y padog neu’r cae penodol, i feddalwedd Agrinet er mwyn gweld y cynnydd. Ar wythnos y digwyddiad ar fferm Nant yr Efail, roedd y gyfradd stocio yn 1518 KgLW/Ha, roedd y tyfiant dyddiol yn 68.7KgDM ac y gorchudd cyfartalog oedd 2890KgDM/Ha.

Mae’n bosibl dilyn y data ar wefan Cyswllt Ffermio. Wrth i ragor o ddata gael ei gasglu, gall ffermwyr gymharu cyfartaledd tyfiant o un flwyddyn i’r llall a gwneud penderfyniadau gwell ynglŷn â pha   gaeau sy’n perfformio orau a pha gaeau sydd angen eu hail-hadu. Dywedodd Rhys Davies:

“Rydym yn deall nad yw pori cylchdro yn addas ar gyfer pob math o fferm, da byw a ffermwr, ond gallai mabwysiadu rhai o egwyddorion pori cylchdro gynyddu effeithlonrwydd busnesau.

“Yn ôl Teagasc mae pob awr caiff ei wario ar fesur a rheoli glaswellt werth oddeutu 85 ewro, mae potensial i gynyddu defnydd glaswellt hyd 80% a chynyddu cyfradd stocio wrth 25% ar yr un darn o dir.”

Cafwyd hefyd gyflwyniad gan Dewi Jones, Prif Weithredwr Innovis. Mae Innovis yn un o brif gyflenwyr technolegau bridio defaid i’r diwydiant da byw yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Dewi Jones,

“Mae mesur porfa eich fferm yn allweddol i gynllunio ac effeithlonrwydd eich busnes er mwyn gwneud y penderfyniadau a’r cynlluniau cywir ar eich cyfer chi a dyfodol eich busnes.

“Mae meddwl am eneteg y defaid hefyd yn hollbwysig er mwyn sicrhau’r famog fwyaf effeithlon ar gyfer y fferm a fydd yn gallu gwneud y defnydd gorau o’r glaswellt a dyfir.”

Felly, wrth wella’r borfa a’r system pori drwy fesur eich porfa, gwneud penderfyniadau’n seiliedig ar y data, a chyfuno hynny gyda’r eneteg gywir a system sy’n seiliedig ar laswellt, mae’n bosibl gwella effeithlonrwydd fferm.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Darperir Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth Cyswllt Ffermio a'r Gwasanaeth Cynghori gan Menter a Busnes ar ran Llywodraeth Cymru. Mae Lantra Cymru yn arwain ar ddarparu Rhaglen Ddysgu a Datblygu Cydol Oes Cyswllt Ffermio.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr arobryn, Ynyr Pugh o Ganolbarth Cymru, yn trafod ei lwyddiant o ganlyniad i Ffermio Cyfran
16 Chwefror 2026 Mae Ynyr Pugh yn ffermwr ymroddedig, llawn
Sut mae cofnodi perfformiad yn llunio gwelliannau gwerthfawr mewn diadell fynydd yng Nghymru
10 Chwefror 2026 Mae enillion mamol a gyflawnwyd trwy gofnodi
Bwydo glaswellt trwy'r dail yn rhoi hwb i borthiant india-corn mewn cyfnod o sychder, yn ôl arbrawf fferm
Bu i ddefnyddio’r dull bwydo drwy’r dail ar india-corn a oedd yn