Bydd cynnal archwiliadau iechyd oddeutu chwech i wyth wythnos cyn paru yn helpu i sicrhau bod hyrddod a mamogiaid yn cychwyn y cyfnod hyrdda yn y cyflwr gorau posibl. Bydd cynhyrchiant yn lleihau os bydd perfformiad yr hwrdd a ffrwythlondeb y famog yn methu â chyflawni eu potensial yn llwyr, gan effeithio ar broffidioldeb yn y pen draw.

pg 4 arwyn williams ram 0

Dylid cynnal MOT hyrddod oddeutu wyth wythnos cyn paru er mwyn gadael digon o amser i ymdrin ag unrhyw broblemau. Yn ogystal, gall straen effeithio ar storfeydd sberm ac mae angen chwe wythnos i ddychwelyd i’r ffrwythlondeb gorau posibl. Dylai unrhyw hyrddod sy’n dod i’r fferm gael eu rhoi mewn cwarantîn a’u profi. Ar gyfer yr MOT, gwiriwch fod y geg yn iawn, sicrhewch fod pob brechiad yn gyfredol a rhowch driniaeth ar gyfer unrhyw barasitiaid. Sgôr cyflwr corff (BCS) rhwng 3.5 - 4 sydd orau gan y bydd yr hwrdd yn colli ychydig o’u cyflwr yn ystod y cyfnod hyrdda.

“Bydd hwrdd da yn colli pwysau pan fo’n gweithio’n galed, felly sicrhau ei fod mewn cyflwr da gan eich bod eisiau iddo fod yn y cyflwr gorau posibl ar gyfer y cyfnod hyrdda,” meddai Kate Hovers yn ystod cyfarfod grŵp trafod Cyswllt Ffermio yn Llanfyrnach, Sir Benfro.

“Gwiriwch y ceilliau, sicrhewch eu bod yr un maint heb unrhyw lympiau a’u bod yn galed; dylent deimlo fel cyhyrau’r fraich wedi eu hymestyn. Mae maint yn bwysig ar gyfer ansawdd a chyfaint y semen, felly defnyddiwch dâp mesur i wirio’r ceilliau, dylai oen gwryw fesur oddeutu 30cm, hwrdd blwydd oed yn 34cm a hyrddod eraill yn 36cm.”

Mae’n bwysig iawn gwirio’r traed ar gyfer unrhyw broblemau cloffni gan na fydd hyrddod sydd â phroblemau symudedd yn perfformio cystal a hefyd er mwyn atal cyflwyni unrhyw glefydau megis Dermatitis Carnol Defeidiog Heintus (CODD) i’r fferm. Gall cloffni hefyd gael effaith sylweddol ar ffrwythlondeb mamogiaid a BCS.

“Mae mamogiaid cloff yn debygol o eni llai o ŵyn, cynhyrchu llai o laeth ac mae’n effeithio ar gyfradd twf yr ŵyn, felly mae’n cymryd mwy o amser i’w pesgi,” ychwanegodd Kate Hovers.

Sicrhau bod cyflwr corff y famog yn iawn yw’r ffactor sy’n dylanwadu fwyaf ar berfformiad atgenhedlu. Ewch drwy’r mamogiaid chwech i wyth wythnos cyn hyrdda, gan anelu at sgôr o 2.5-3 i famogiaid mynydd, 3 i fridiau’r ucheldir a 3.5 ar gyfer mamogiaid llawr gwlad, a gwahanwch y mamogiaid salaf, gan eu rhoi ar y borfa orau.

“Mae’n cymryd rhwng pedair a chwe wythnos i sicrhau cynnydd o hanner sgôr BCS ar laswellt, ond mae sicrhau’r BCS gorau yn golygu gwahaniaeth o oddeutu 30% mewn canran ŵyna, felly mae’n werth ei wneud.”

Yn ogystal â chloffni, mae rhesymau dros BCS gwael yn cynnwys parasitiaid, clefydau, maeth a diffyg elfennau hybrin.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn