Mae’r gyfraith Ewropeaidd yn pennu’r isafswm sy’n ofynnol o ran lle i ieir dodwy er mwyn gallu marchnata wyau fel wyau maes. Mae’r rheolau’n gaeth ac yn gallu cael eu gorfodi gan Archwilwyr Marchnata Wyau os bydd cynhyrchwyr wyau yn cadw 350 o adar neu fwy er mwyn cynhyrchu wyau. Mae’r rheolau’n cydbwyso dyletswyddau cynhyrchwyr wyau ac yn diogelu iechyd a hyder y cwsmer yn y statws wyau maes.

Mae diffyg cydymffurfiaeth â’r rheolau’n ddifrifol a gall olygu bod cynhyrchwyr wyau yn agored i’w herlyn. Mewn achos diweddar yn Llys y Goron Abertawe, cafodd ffermwr orchymyn i dalu £84,000 neu wynebu 12 mis yn y carchar am enillion yn deillio o drosedd ynghyd â chostau’r llys o ganlyniad i ddiffyg cydymffurfio â’r rheolau a chyflawni twyll. Ceir gwybodaeth bellach am yr achos yma.

Cadwch at y rheolau

Mae gofynion dwysedd stocio ar gyfer unedau dodwy yn cael eu hamlinellu yn Rheoliadau Lles  Anifeiliaid a Ffermir (Lloegr) a (Chymru) 2007. Dan gyfraith yr UE, ni ddylai cynhyrchwyr wyau maes gadw mwy na naw iâr i bob metr sgwâr dan do. Mae’r UE yn caniatáu dwyseddau stocio o hyd at 2,500 o adar/ha yn yr awyr agored, ond mae’r cod Llew yn cyfyngu dwysedd stocio i 2,000 aderyn/ha yn yr awyr agored.

 

poultry

 

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Academi Amaeth 2025 yn dod i ben gydag enillwyr yr her yn derbyn gwobrau
24 Tachwedd 2025 Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn
Pam mae dwysedd porfeydd yn hanfodol ar gyfer tros-hau llwyddiannus
14 Tachwedd 2025 Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml
Dechrau Ffermio: Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith ledled Cymru!
13 Tachwedd 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer