Mae fferm ucheldir yng Nghymru yn arbed £4 fesul dafad ar ei chostau porthi cyn ŵyna trwy newid i system Dogn Cymysg Cyflawn (TMR) sy’n cynnwys cynnyrch soia wedi’i drin a silwair o ansawdd uchel.

keith williams ewes 3
Mae Keith Williams yn cadw 885 o famogiaid Lleyn a Texel croes yn Hendy, fferm ucheldir 400 erw yn Hundred House, ger Llandrindod.

Yn draddodiadol, bu Mr Williams yn bwydo dwysfwyd i famogiaid a oedd yn cario gefeilliaid a thripledi hyd at ddwywaith bob dydd, gan gychwyn 8 wythnos cyn ŵyna, ond roedd yn dymuno lleihau’r costau a’r llafur oedd yn gysylltiedig â hyn.

Mae wedi llwyddo i wneud hynny gan ddefnyddio TMR sy’n cyfuno ffynhonnell o ‘brotein wedi’i ddiogelu’ mewn Protein Treuliadwy Aniraddadwy (DUP) a silwair clamp sydd â lefel ME o 10.5 o leiaf sy’n diwallu anghenion egni a phrotein mamogiaid tua diwedd cyfnod beichiogrwydd.

Roedd y system bwydo newydd, a brofwyd gan Mr Williams am y tro cyntaf fel rhan o’i waith fel Safle Ffocws Cyswllt Ffermio, yn costio £1.36 y famog yn ystod cyfnod ŵyna 2017 o’i gymharu â £5.50 y famog pan oed y ddiadell yn derbyn dwysfwyd.

Mae Mr Williams yn cyfrifo fod hyn wedi arbed cyfanswm o odeutu £4,190.

“Mae’n swm enfawr, ac mae gan y system fuddion sydd tu hwnt i’r arbediad a wneir ar gostau porthiant,’’ meddai.

Yn ystod gaeaf 2016/17, cafodd y defaid eu gaeafu allan ar gnwd porthi cyn iddynt ddod dan do 30 diwrnod cyn ŵyna; bryd hynny, cawsant eu cyflwyno i’r dogn newydd gyda 50g o brotein wedi’i ddiogelu a glustnodwyd i bob ffetws yr oedd y mamogiaid yn ei gario.  

I sefydlu’r system newydd, bu angen gwario £4,750 yn y lle cyntaf i brynu wagen gymysgu newydd, ond ar sail yr arbedion costau, yn ôl Mr Williams, bydd y peiriant yn talu amdano’i hun o fewn dwy flynedd.

Bu’n bwydo 23 tunnell fetrig o ddwysfwyd yn y gorffennol, ond roedd yn dymuno lleihau ei gostau i sicrhau’r cynnyrch gorau posibl fesul mamog.

Yn ôl Mr Williams, yn ogystal ag arbed porthiant, mae iechyd ei ddiadell wedi gwella hefyd.

Pan oedd yn bwydo dwysfwyd i’r defaid - hyd at 1.5kg/y pen/y diwrnod ychydig cyn ŵyna – cafwyd rhai problemau gydag asidosis a chlwy’r eira.

Mae defnyddio dogn TMR cytbwys wedi lleihau nifer yr achosion, meddai Dr Catherine Nakielny, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio, a fu’n goruchwylio’r arbrawf.

“Mae’n golygu nad yw lefelau uchel o startsh yn cael eu bwydo, ac mae’n helpu i atal y trafferthion metabolaidd y gall bwydo lefelau uchel o borthiant cyfansawdd arwain atynt ar brydiau,” meddai.

Yn ôl Dr Nakielny, mae nifer yr achosion o fwrw’r llawes goch, sy’n gallu deillio o fwydo lefelau uchel o ddwysfwyd, wedi lleihau hefyd.

Mae’n ychwanegu fod defaid oedd yn cael y deiet TMR hefyd yn ymddangos yn fwy bodlon ac roeddent yn gorffwys am gyfnodau hwy. “Mae Keith wedi arsylwi nad oedd 20% o ddefaid yn gwthio ymlaen pan oedd bwyd ffres yn cael ei ychwanegu.”

Pwysleisiodd Dr Nakielny fod y system yn ddibynnol ar silwair o ansawdd uchel.  Ni ellir elwa’n llawn o effeithiau llesol protein soia wedi’i ddiogelu onid oes gan y silwair 10.5 o ME o leiaf.  

Byddai bwydo silwair sydd â lefelau ME is na hyn yn golygu fod angen egni ychwanegol yn y deiet.  

“Mewn rhai achosion, gellir bwydo soia heb ei drin yn y dogn neu fel arall gellir ychwanegu mathau eraill o borthiant sy’n cynnwys llawer o egni at y deiet i helpu i sicrhau cydbwysedd o egni a phrotein yn y cyfnod allweddol cyn ŵyna,” yn ôl Dr Nakielny.

Dangosodd dadansoddiad o’r silwair clamp a dorrwyd yn 2016 yn Hendy lefel ME of 10.9% â deunydd sych o 34% a lefelau protein crai o 14.4%.

Dywed Dr Nakielny ei bod hi’n bwysig peidio anwybyddu gofynion eraill o ran maeth.  “Yn Hendy, bydd y defaid yn derbyn ychwaengion fitaminau a mwynau i gyd-fynd â’r dadansoddiad o’r silwair,” meddai.

Rhaid i sgôr cyflwr corff y ddafad gael ei asesu hefyd yn y cyfnod cyn ŵyna, a rhaid gweithredu os bydd angen gwneud hynny.

 

Arbedion llafur

Mae Mr Williams yn cyfrifo fod y system newydd wedi arbed oddeutu 51 awr o lafur iddo yn ystod y cyfnod ŵyna.

Nid yw’n cyflogi unrhyw staff ac eithrio myfyriwr sy’n cynorthwyo i ŵyna am bythefnos yn ystod y tymor ŵyna.

Yn flaenorol, câi’r defaid eu bwydo hyd at ddwywaith bob dydd am 56 diwrnod, ond mae hynny wedi’i leihau i 30 diwrnod, unwaith bob dydd.

“Bellach, byddaf yn treulio dim ond hyd at 10 munud yn bwydo bob dydd, sy’n golygu fod gen i ragor o amser i wneud gwaith arall,’’ meddai Mr Williams.

 

 

Beth yw soia â phrotein wedi’i ddiogelu?

Mae’r cynnyrch hwn wedi cael ei ddefnyddio mewn rhannau eraill o’r diwydiant ffermio, yn enwedig yn y sector llaeth, ond ni chaiff ei ddefnyddio’n gyffredin mewn systemau defaid.  

Mae’n cynnwys lefel uchel o Brotein Treuliadwy Diraddadwy (DUP), sy’n golygu ei fod yn borthiant hynod o flasus y gellir ei fwydo ei hun neu ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o ddeietau.

Mae’n cynnig arbedion sylweddol i ffermwyr o ran amser, cost a llafur mewn cymhariaeth â dulliau confensiynol o fwydo, sy’n gallu arwain at orfwydo Protein y Gellir ei Ddiraddio gan y Rwmen (RDP), meddai Dr Nakielny.

 

Cyngor doeth ynghylch bwydo TMR ynghyd â soia â phrotein wedi’i ddiogelu

Sicrhewch fod digon o le i fwydo

Rhaid i’r defaid fod â chyflwr corfforol da

Mae silwair blasus da yn hanfodol a dylid profi sypiau priodol ohono

Bydd y system yn haws os caiff defaid eu bwydo dan do cyn ŵyna, felly efallai na fydd yn ymarferol i systemau yn yr awyr agored

 

Hendy – ffeithiau’r fferm

Caiff y defaid eu cyplu â hyrddod Lleyn a Texel

Cyflenwir cig oen i Waitrose

Diadell fechan o ddefaid Texel, cedwir cofnod o berfformiad cyfraddau twf a dyfnder y cyhyrau

Mae’r fferm gyfan, sydd â 380 erw yn berchen i Mr Williams, yn rhan o gynllun amaeth amgylcheddol Glastir

Mae buches gaeëdig o 20 o Wartheg Duon Cymreig ar y fferm


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites