Gallai meincnodi yn erbyn y busnesau fferm sy’n perfformio o fewn y traean uchaf fod yn sbardun i greu busnesau hyfyw a chynaliadwy i nifer o ffermwyr, yn ôl Cyswllt Ffermio.  

paul snip 0
Pwysleisiwyd hynny gan y ffermwyr bîff a defaid, Paul a Dwynwen Williams, Cae Haidd Ucha, Llanrwst, ffermwyr arddangos Cyswllt Ffermio a enwyd yn ddiweddar yn Ffermwyr Bîff y Flwyddyn y Farmers Weekly ar gyfer 2017, sy’n dweud mai meincnodi a sylw at fanylder sydd wrth wraidd eu llwyddiant.

Mewn ymgais i sicrhau bod pob ffermwr yn cael eu hannog i fanteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael er mwyn sicrhau bod eu busnesau’n perfformio ar eu gorau wrth i’r diwydiant baratoi ar gyfer ymadawiad Prydain o’r UE, dyma fydd y brif neges fydd yn cael ei rannu gan Cyswllt Ffermio gyda ffermwyr yn ystod y Ffair Aeaf yn Llanelwedd eleni (Tachwedd 27/28).

“Mae meincnodi wedi cynorthwyo’r teulu Williams i asesu eu cryfderau presennol ac adnabod meysydd i’w gwella, ac erbyn hyn, maent yn perfformio o fewn y traean uchaf ar gyfer cynhyrchiant gwartheg sugno ar eu fferm 320 erw,” meddai Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig Menter a Busnes, sy’n darparu rhaglen Cyswllt Ffermio.  Ariennir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 

Bydd cynrychiolwyr Cyswllt Ffermio ar gael mewn lleoliadau gan gynnwys y balconi ar lawr cyntaf yr adeilad da byw; adeilad Lantra (Rhodfa K); gyda Coed Cymru lle byddwn yn annog ymwelwyr i ddarganfod sut i ddiogelu ac ehangu coetiroedd brodorol ac ynghyd â Llywodraeth Cymru yn Neuadd De Morgannwg.

Bydd staff Cyswllt Ffermio yn hyrwyddo pob agwedd o’r gwasanaeth trwy gydol y digwyddiad deuddydd, ond bydd y pwyslais eleni ar ddiogelwch fferm ac yn bennaf, gweithio gydag anifeiliaid, sydd wedi achosi nifer o farwolaethau a damweiniau difrifol ledled y DU dros y blynyddoedd diwethaf. 

Er mwyn cynorthwyo i godi ymwybyddiaeth o beryglon gweithio gydag anifeiliaid a lleihau’r perygl o anafiadau a damweiniau, bydd Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (WFSP) gyda chefnogaeth Cyswllt Ffermio, yn cynnal pedwar Gweithdy Trin Gwartheg yn Ddiogel yn ddyddiol yn ystod y Ffair Aeaf (dydd Llun a dydd Mawrth am 10.30yb, 11.30yb, 1.30yp a 2.30yp). Lleolir y gweithdai ger adeilad Lantra, a bydd ymwelwyr â’r ffair yn cael gwahoddiad i fynychu un o’r gweithdai ugain munud o hyd i ddysgu mwy am sut i drin gwartheg yn ddiogel er mwyn osgoi anaf i’r anifail, ac yn bwysicaf oll, i fodau dynol. 

“Bydd hwn yn gyfle gwych i ddysgu technegau newydd yn ymwneud â thrin gwartheg, a fydd yn cynorthwyo i leihau’r perygl o anafiadau neu ddamweiniau diangen, felly rydym yn eich annog i alw heibio - gallai’r gweithdy ugain munud o hyd arbed eich bywyd chi neu aelod o’r teulu!” meddai Mrs Williams.

Bydd Cyswllt Ffermio hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygiad personol trwy’r rhaglen sgiliau a mentora, ac yn benodol yn amlygu manteision modiwlau e-ddysgu amaethyddol perthnasol, sydd ar gael am ddim, yn hawdd cael mynediad atynt ar eich gliniadur, ac yn addysgiadol iawn.

“Bellach, mae cymaint o ffermwyr yn darganfod bod llawer iawn o wybodaeth ar gael trwy ymweld â gwefan Cyswllt Ffermio.

“Cyn belled â’u bod wedi cofrestru gyda ni a’u bod wedi derbyn eu henw defnyddiwr a chyfrinair unigol gan Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio, maent yn barod i ddechrau adeiladu ar eu gwybodaeth yn ymwneud ag amrywiaeth o bynciau ar-lein, gan gynnwys iechyd anifeiliaid, rheolaeth tir a sgiliau busnes,” meddai Mrs. Williams


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr arobryn, Ynyr Pugh o Ganolbarth Cymru, yn trafod ei lwyddiant o ganlyniad i Ffermio Cyfran
16 Chwefror 2026 Mae Ynyr Pugh yn ffermwr ymroddedig, llawn
Sut mae cofnodi perfformiad yn llunio gwelliannau gwerthfawr mewn diadell fynydd yng Nghymru
10 Chwefror 2026 Mae enillion mamol a gyflawnwyd trwy gofnodi
Bwydo glaswellt trwy'r dail yn rhoi hwb i borthiant india-corn mewn cyfnod o sychder, yn ôl arbrawf fferm
Bu i ddefnyddio’r dull bwydo drwy’r dail ar india-corn a oedd yn