Mae Cyswllt Ffermio yn trefnu cyfres o gymorthfeydd rheolaeth ariannol i helpu ffermwyr a choedwigwyr i werthuso sut y mae eu busnes yn perfformio, gan ddynodi meysydd i’w gwella a thrafod cynlluniau at y dyfodol.

Bydd y cymorthfeydd rheolaeth ariannol yn cynnig apwyntiad awr o hyd wedi ei ariannu’n llawn i unigolion sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio gyda chynghorydd ariannol profiadol i werthuso eu perfformiad ar hyn o bryd, trafod cyfleon ariannol a chwilio am ffyrdd i gryfhau’r busnes, pethau fel ffyrdd mwy effeithlon o fancio, buddsoddi neu trwy gynlluniau pensiwn amrywiol.  

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

“Mantais fwyaf dod i gymhorthfa yw’r cyfle i gyfarfod cynghorydd sydd â phrofiad o weithio gyda phob math o fusnesau amaethyddol, a all gynnig syniadau newydd i ddatblygu cyfleoedd busnes newydd, neu gryfhau’r busnes presennol,” meddai Lois Evans, swyddog cymorthfeydd Cyswllt Ffermio.

Yn ogystal â chael golwg gyffredinol ar sefyllfa ariannol bresenol a defnyddio cyfrifon i adnabod opsiynau ariannol posib, bydd y cynghorydd hefyd yn helpu i ddynodi meysydd lle gellid gwella a thrafod unrhyw gynlluniau at y dyfodol i gryfhau hyfywedd y busnes. Bydd y cynghorydd ariannol yn gallu cynghori ar opsiynau ar gyfer buddsoddi ar gyfer y dyfodol, buddsoddiadau oddi ar y fferm, cynlluniau pensiwn, strategaetrhau bancio a llif arian a chyllidebu.

“Trwy fynychu y gymhorthfa yma, mae’n ffordd dda o adnabod buddsoddiadau ac arbedion posib i’r busnes, sy’n ddefnyddiol iawn i’ch helpu i ddeall i ble mae eich busnes yn anelu, cynllunio ymlaen llaw am unrhyw sialensiau a chryfhau ei wytnwch,” ychwanegodd. 

“Mae hwn yn gyfle i chi sicrhau bod eich strwythurau ariannol yn effeithiol o ran treth ac yn cyd-fynd gyda’ch amcanion busnes”

Mae ffermwyr yn cael eu hannog i ddod a gwybodaeth i’r cymorthfeydd sy’n cynnig golwg fanwl ar y busnes, fel cyfrifon tair blynedd ac unrhyw fanylion ynglŷn â buddsoddiadau a phensiynau os yn berthnasol.

Bydd y cymorthfeydd yn cael ei gynnal mewn pedwar lleoliad, yn Wrecsam ar y 23/01/18, Ym Mangor ac yn San Clêr ar y 24/01/18 ac yn Aberhonddu ar y 31/01/18. Byddwch yn derbyn cadarnhad y lleoliad wrth archebu eich apwyntiad.

Er mwyn archebu eich apwyntiad am awr yn un o’r cymorthfeydd, cysylltwch â Gwenan Jones ar 01970 636296 neu anfon ebost i gwenan.jones@menterabusnes.co.uk. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

 

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu