28 Mawrth 2018

 

Mae dros 1000 o ffermwyr wedi gwneud cais am arian ar gyfer Cynllun Rheoli Maetholion (NMP) a drefnir trwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio. Cwblhawyd y mwyafrif o’r cynlluniau hyn ystod gaeaf 2017-18. Mae’r cynlluniau hyn yn darparu ffermwyr gyda chyngor wedi’i deilwra i’w ffermydd unigol a fydd er lles yr amgylchedd, yn gwella priddoedd ffermydd a lleihau’r gwariant ar fewnbynnau.

Profion pridd yw un o gonglfeini’r cynlluniau hyn sy’n galluogi ffermwyr i dargedu mewnbynnau lle y maent eu hangen yn unig gan atal dŵr ffo rhag rhedeg i ddyfrffyrdd. 

Dywedodd Guto Owen, sy’n gweithio i Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, bod NMP yn archwilio defnydd presennol ffermydd o wrtaith, slyri a thail ac yn cynnig awgrymiadau o ran sut y gellir gwneud gwell defnydd ohonynt.

“Tir yw trysor mwyaf ffermydd. Mae profi pridd yn darparu gwybodaeth bwysig ar statws maethynnau caeau ac yn dangos y lefel o fewnbynnau sydd ei angen ar y tir mewn gwirionedd, yn hytrach na defnyddio dull gwasgaru hollgynhawysfawr. Mae’n golygu nad yw maethynnau’n cael eu gwastraffu yn ogystal â lleihau’r risg o lygredd,” dywedodd.

Yn ogystal â bod yn dda ar gyfer yr amgylchedd, mae hyn hefyd o fantais i’r ffermwyr yn ariannol. “Mae modd gwneud arbedion sylweddol trwy leihau faint o wrtaith sydd ei angen yn dilyn y cyngor mewn Cynllun Rheoli Maetholion,” meddai Mr Owen.  

Gall ffermwyr sydd wedi cofrestru gyda Chyswllt Ffermio dderbyn cymorthdal o hyd at 80% ar gyfer NMP neu gellir eu hariannu’n llawn fel cyngor grŵp ar gyfer busnesau sydd wedi cofrestru gyda Chyswllt Ffermio.

Mae nifer o’r ffermydd sydd wedi gwneud cais am NMP bellach yn manteisio ar gefnogaeth dechnegol wahanol a ddarperir gan y Gwasanaeth Cynghori, er engrhaifft cyngor ar bynciau megis isadeiledd a rheoli porfa i enwi ond ychydig.

Mae nifer o brosiectau sy’n mynd i’r afael yn benodol ag achosion llygredd posib hefyd yn cael sylw ar Safleoedd Arloesedd, Ffermydd Arddangos a Safleoedd Ffocws Cyswllt Ffermio. Mae diwrnodau agored ar y ffermydd hyn yn galluogi ffermwyr i ddysgu o’r treialon a gwneud newidiadau ar eu ffermydd eu hunain. 

Fe wnaeth gwaith prosiect ar Safle Ffocws Lower Eyton adnabod newidiadau rheolaeth er mwyn gwella effeithlonrwydd pridd a fydd yn arwain at gwell cynhyrchedd a phroffidioldeb ar system da byw cymysg. Yn y cyfamser, mae Safle Arddangos Plas yn Ynys Môn yn gweld gostyngiadau mewn cost ac effeithlonrwydd gwrtaith gwell trwy ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf yn eu cynlluniau rheoli maethynnau manwl.

Mae’r ceisiadau ar gyfer cynlluniau rheoli maethynnau a phrosiectau’r rhwydwaith arddangos yn ffurfio rhan o ymgyrch parhaus Cyswllt Ffermio i gynorthwyo ffermwyr Cymru i leihau llygredd amaethyddol a gwella ansawdd dŵr.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o