6 Ebrill 2018

 

Lansiwyd gwasanaeth newydd i gefnogi grwpiau o ffermwyr i ymgeisio am y Cynllun Rheoli Cynaliadwy (SMS). Mae'r SMS yn cynnig grantiau o hyd at £700,000 ar gyfer grwpiau cydweithredol sy'n ceisio gwella rheolaeth adnoddau naturiol ac wrth wneud hynny yn cyfrannu at les cymunedau gwledig. 

Bydd y gwasanaeth cefnogi yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes o dan y rhaglen Cyswllt Ffermio ar ran Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sydd wedi ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru o dan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Dewiswyd pymtheg o hwyluswyr i roi cymorth i grwpiau o ffermwyr i ddatblygu eu syniadau a chyflwyno eu ceisiadau datganiad o ddiddordeb i Lywodraeth Cymru. Os yw grwpiau'n llwyddiannus gyda’r cais datganiad o ddiddordeb ac yn cael eu gwahodd i gyflwyno cais llawn, bydd yr hwylusydd ar gael i ddarparu cefnogaeth bellach.

Dywedodd Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Menter a Busnes "Bydd y gwasanaeth hwn yn rhoi arweiniad a gwybodaeth i ffermwyr wrth iddynt ddatblygu eu syniadau.  Weithiau gall y broses o wneud cais am gyllid ymddangos yn anodd ond gyda'r hwylusydd wrth law bydd cefnogaeth barhaus ar gael i’r grwpiau."

Enghreifftiau o brosiectau llwyddiannus yn y gorffennol yw rhaglen Dalgylch Eden sef prosiect sy'n cael ei arwain gan ffermwyr sy'n canolbwyntio ar wella dalgylch yr afon Eden trwy blannu a rheoli coed collddail brodorol; a phrosiect Fferm Ifan, cydweithrediad o 11 o ffermwyr sy'n defnyddio dulliau rheoli tir newydd wedi’u targedu’n benodol at wahanol ardaloedd ond sydd hefyd yn darparu buddion economaidd-gymdeithasol.

Gellir gweld proffiliau’r hwyluswyr sydd ar gael i helpu grwpiau ar wefan Cyswllt Ffermio, a gall ffermwyr ddewis yr hwylusydd sy'n gweddu orau i'w hanghenion.

 

Dylai ffermwyr sydd â diddordeb gysylltu â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 0845 6000 813 neu wneud cais ar-lein drwy glicio yma.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o