Mae safle arddangos sy’n cadw da byw organig wedi cynyddu niferoedd gwartheg sugno o 50% trwy rannu caeau yn badogau gyda system pori cylchdro.
Newidiodd Gwyn a Delyth Parry i system organig yn 2008 ac yn ogystal â 500 o famogiaid Cymreig, maen nhw’n cadw buches o wartheg sugno Limousin du sy’n lloia yn y gwanwyn.
Roedd ganddyn nhw system pori stocio sefydlog ar waith am nifer o flynyddoedd ond ers 2015, maen nhw wedi bod yn arbrofi gyda phori cylchdro.
Yn ystod un o arbrofion Cyswllt Ffermio y llynedd crewyd 17 padog o’r un maint mewn tri chae gyda chyfanswm o tua 5.28 erw (ha) er mwyn mesur potensial y system yn llawn.
Wrth fabwysiadu’r system hwn, mae’r cynnydd mewn twf a defnydd porfa wedi rhoi hyder i’r ddau i gynyddu niferoedd y gwartheg o 60 i 90 heb fwy o dir.
Dywedodd Mr Parry, sy’n ffermio Orsedd Fawr, Safle Arddangos ger Pwllheli, fod y system yn galluogi mwy o reolaeth dros y costau sy’n cael eu mewnbynnu.
“Trwy fesur porfa a phori’r anifeiliaid yn y padogau yn fwy effeithlon, rydym ni’n tyfu porfa o well safon ac yn tyfu mwy o borfa,” dywedodd.
Mae Eifion, mab hynaf Gwyn a Delyth Parry, yn astudio amaeth yng Ngholeg Glynllifon ac yn mesur y borfa yn wythnosol gyda mesurydd plat.
Mae’r padogau yn cael eu stocio yn ôl adeg y flwyddyn, ac ar y mwyaf yn cyrraedd 2500kg pwysau byw/ha erbyn canol mis Mehefin ac yn cael eu symud i borfa ffres pob dau ddiwrnod.
Dros dymor tyfu 2017 cynhyrchodd y fferm 694kg o bwysau byw/ha er gwaethaf y lefel uchel o law o fis Medi ymlaen.
Mae yna newid wedi bod yn y polisi bridio hefyd. Cafodd y Stabiliser, brid sy’n cael ei adnabod am fod yn dda am droi porfa’n gig, ei gyflwyno i’r fuches tair blynedd yn ôl ac mae’r heffrod cyntaf yn lloia y gwanwyn yma.
Mae cyfuniad o’r newidiadau yn golygu bod y teulu yn medru cadw mwy o wartheg a’u bod yn pesgi rhai o’r gwartheg ar borfa cyn 18 mis oed.
Roedd y gwartheg yn cael eu troi allan ychydig ar y tro er mwyn cyfateb i dwf y borfa gyda’r gyfradd stocio yn amrywio rhwng 4.5 buwch/ha a 5.6 buwch/ha dros y tymor pori.
Y bwriad yw pesgi’r holl wartheg ar borfa erbyn 18 mis oed, ond o ganlyniad i’r baich llyngyr yn 2017, dim ond nifer fechan gyrhaeddodd y targed hwnnw.
Er gwaethaf gorchudd glaswellt ardderchog, roedd perfformiad yn rhan olaf y tymor pori yn siomedig o ganlyniad i faich sylweddol o lyngyr.
Mae yna ddadansoddiad rheolaidd o’r Cyfrif Wyau Ysgarthol (FEC) yn cael ei gwblhau fel rhan o brosiect Cyswllt Ffermio a dangosodd hyn lyngyr y rwmen a llyngyr yr ysgyfaint yn gynnar yn y tymor pori.
Er gwaethaf y driniaeth, cafodd olion llyngyr anaeddfed eu canfod wrth iddyn nhw fynd i’w lladd tua diwedd yr haf, a gallai hyn fod yn rheswm pam fod rhai heb berfformio mor dda â’r disgwyl.
158kg oedd cyfartaledd y pwysau a enillwyd dros y cyfnod pori 180 diwrnod gyda rhai yn cyrraedd 190kg ond eraill yn cyrraedd 114kg yn unig.
Mae’r gwartheg yn cael eu pwyso’n fisol ar ôl cael eu diddyfnu a sylweddolodd y teulu bod y cynnydd mewn pwysau byw ym mis Tachwedd a Rhagfyr ar gyfer lloi eleni yn 200g yn llai na’r flwyddyn flaenorol.
“Roedd y cyfrif wyau ysgarthol yn dangos yn bositif am lyngyr. Cafodd y rhain y driniaeth briodol ac o ganlyniad cynyddodd y pwysau byw dyddiol i’r hyn roeddem ni’n ei ddisgwyl,” dywedodd Mr Parry.
Cafodd dwysfwyd ei ddyblu wrth gadw’r stoc ifanc o dan do dros y gaeaf er mwyn rhoi dechrau da iddynt; roedd diet y gaeaf hefyd yn cynnwys porfa wedi’i dyfu ar y fferm a silwair meillion coch.
Mae dwysfwyd organig y fferm yn costio £380 y dunnell ac mae naw tunnell yn cael ei fwydo i’r 78 o wartheg, sy’n rhoi cost sylweddol o £43.85 y pen ond mae Mr a Mrs Parry yn dweud ei fod yn fuddsoddiad werth ei wneud er mwyn cael elw gwell am werthu’r gwartheg ar bwysau pesgi yn hytrach na gwartheg stôr.
“Mae yna gyfnod byr iawn i gael y gwartheg wedi’u pesgi ar borfa felly does yna ddim lle i wneud camgymeriadau,” dywedodd Mr Parry.
“Os nad ydyn ni’n rhoi’r dwysfwyd i’r gwartheg ar yr adeg hynny, fyddem ni ddim yn cyrraedd y cyfraddau tyfu sy’n bosib.”
Roedd y tywydd gwael yn y gwanwyn eleni wedi oedi troi’r gwartheg allan nes 19 Mawrth, dros wythnos yn hwyrach na’r blynyddoedd blaenorol. Yn 2017, cafodd y gwartheg eu rhoi dan do ar 27 hydref.
“Roeddem ni bob amser yn eu troi allan yn gynnar gan fod y tir yn draenio’n eithaf hawdd ond mae’r newid mewn cadw mwy o wartheg gan ein bod ni’n tyfu mwy o borfa gyda system pori cylchdro,” dywedodd Mr Parry.
FFEITHIAU’R FFERM
Mae 700 erw yn cael ei ffermio ar draws sawl daliad - 550 sy’n eiddo i’r teulu a 150 erw yn cael ei rhentu ar gytundeb tenantiaeth tymor hir.
Mae’r tir wedi cael ei rannu rhwng pedwar parsel o dir, a’r cyfan o fewn wyth milltir i’r prif ddaliad.
Mae’r holl dir sy’n cael ei ffermio yn rhan o gynllun organig Glastir.