24 Ebrill 2018

 

Mae deng mlynedd wedi mynd heibio ers i Roger James, ffermwr o Bowys, gymryd y ffordd gyflymaf i fyny llethr serth, i arbed ychydig o funudau yn hytrach na gyrru ar hyd y ffordd hiraf ar ei feic pedair olwyn. Ar y bore Sul heulog hwnnw, roedd eisiau asesu sut roedd y glaswellt yn tyfu i weld a oedd hi’n bryd symud ei wartheg o un cae i’r llall. 

Roedd Roger, sydd bellach yn 58 oed, yn gyrru yn union fel yr oedd wedi gyrru bob dydd ers nifer o flynyddoedd heb unrhyw anffawd ar Fferm Pistyll Gwyn, Llanllŷr.

Ond fel mae'n cyfaddef, ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw, dewisodd y ffordd fyrraf a newidiodd hynny ei fywyd yn llwyr. Bellach, ar ôl brwydr hir a dewr i ddal ati i wneud ei fywoliaeth drwy ffermio, ac er gwaethaf nifer o ymdrechion i ysgafnhau’r gwaith trwy leihau nifer yr erwau a’r stoc, mae bellach am roi’r ffidil yn y to ac ymddeol. Yn sgil y diwrnod hwnnw, newidiodd ei fywyd am byth pan lithrodd ei feic pedair olwyn oddi ar borfa lethrog gan lanio ar ei ben.   

“Rwyf mewn poen bob dydd o fy mywyd. Er fy mod yn gallu ei reoli ac yn ymdrechu i beidio â rhoi i mewn, mae’n flinedig ac yn fy ngwanychu’n llwyr. Mae hynny’n anochel wedi cael effaith enfawr arna i ac ar fy nheulu hefyd.

“Yn amlwg rwy’n hynod o ddiolchgar i dîm meddygol medrus fy mod yn dal i allu symud a gwneud peth o’r gwaith fferm ysgafnach, ond rwy’n dal i orfod treulio o leiaf deg awr bob dydd yn gorwedd neu’n cysgu i gael y nerth a’r stamina ar gyfer drennydd.” 

Mae Roger wedi bod yn rhan o drefniant ffermio cyfran gyda pherchennog tir lleol ym Mhistyll Gwyn ers diwedd yr 80au. Yn y dyddiau cynnar hynny roedd yn ddaliad 460 erw gyda 1,250 o ddefaid magu a 50 o wartheg sugno.

Ond ers i Roger gael y ddamwain ddeng mlynedd yn ôl, mae ei wraig Joanne a’u dau o blant, oedd yn eu harddegau cynnar, wedi dod i delerau â’r ffaith na fydd bywyd byth yr un fath, ac maent wedi lleihau nifer yr erwau a’r stoc yn sylweddol. 

Yn ffodus, roedd gan Roger ffôn symudol ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw, a chyn i’w gorff fynd i sioc lwyr, llwyddodd i ffonio 999 a Joanne. 

Mae’r ychydig oriau nesaf wedi’u serio ar ei gof am byth. Mae’n cofio Joanne yn cyrraedd gyntaf, ac yna yn fuan wedyn daeth y parafeddygon lleol a ddywedodd wrtho eu bod yn ffonio’r ambiwlans awyr. 

“Doeddwn i ddim wedi sylweddoli mor ddifrifol oedd pethau nes i mi weld yr ambiwlans awyr yn glanio gerllaw.”

Cafodd Roger ei hedfan i Ysbyty Sirol Henffordd, ond symudwyd ef oddi yno’n gyflym i Ysbyty Coventry lle’r oedd uned yn arbenigo yn y math o anafiadau yr oedd wedi’u dioddef. Roedd wedi chwalu ei belfis ac er i’r meddygon medrus yno lwyddo i roi ei belfis yn ôl at ei gilydd gyda phinnau, a’i alluogi i gerdded a gyrru eto, er gwaetha ymdrechion y ffisiotherapyddion a’r arbenigwyr adsefydlu, does neb wedi llwyddo i gael gwared ar boen sy’n ei atgoffa drwy’r amser o’r hyn a ddigwyddodd.

“Rydych yn dal ati,” meddai Joanne, gan ychwanegu mai’r wythnosau cyntaf hynny pan nad oedden nhw’n gwybod a fyddai Roger hyd yn oed yn cerdded eto, oedd y rhai mwyaf pryderus.

“Cefais lawer iawn o gymorth gan ffrindiau a theulu, yn cynnwys fy mab, sydd bellach yn ei 20au ac yn ffermio gerllaw, a’n merch, sydd newydd raddio gyda gradd dosbarth cyntaf o Brifysgol Harper Adams.

“Fuaswn i ddim wedi gallu ymdopi hebddyn nhw ond roedd y misoedd cyntaf yn anodd iawn yn gorfforol ac yn emosiynol, yn enwedig gan ein bod yn gyrru chwe gwaith yr wythnos i Coventry ac yn ôl i fynd i weld Roger,” meddai Joanne.

Ers y deunaw mis cyntaf o’i gyfnod yn dod dros y ddamwain, mae Roger wedi parhau i wneud cynnydd araf ond cyson. Ar y cyfan mae'n cerdded heb gymorth ond mae'n araf ei gerddediad ac mae'n cymryd ymdrech fawr i gerdded yn syth, heb wyro i un ochr. Mae’r ffaith ei bod yn gwella ac yn derbyn y boen yn heb gwyno yn deillio o’i ysbryd a’i ddycnwch, yr un ysbryd ag y mae Joanne yn ei feddu.  

“Rydych yn dal ati ac yn gwneud y gorau y gallwch,” medd Roger gyda gwên, ond ar ôl deng mlynedd, mae'n teimlo nad yw’n gallu wynebu gofynion beunyddiol y fferm bellach. Yn ffodus mae Joanne ac yntau wedi bod yn sefydlu dau faes carafanau llwyddiannus yn yr ardal ac mae'n gobeithio y bydd y gwaith o reoli’r rhain yn rhoi llai o straen ar ei gorff ac yn dod ag incwm i’r teulu.

Ond cyn i Roger ymddeol, mae'n awyddus i gynnig cyngor i ffermwyr ym mhob man.

“Mae'r beic pedair olwyn yn gallu bod yn gyfaill pennaf i’r ffermwr, ond gall fod yn elyn hefyd!

“Bob blwyddyn, mae miloedd o ffermwyr yn cael damweiniau ar feiciau pedair olwyn, fel arfer oherwydd eu bod dan bwysau, ar frys ac yn cymryd risgiau diangen.

“Mae nifer o ddamweiniau’n digwydd na wyddom amdanynt oherwydd bod y ffermwyr yn dal mewn un darn neu oherwydd bod modd gwella o’u hanafiadau, ond rwy’n gwybod o brofiad nad ydych bob amser mor ffodus.

“Edrychwch ar ôl eich bywyd, diogelwch eich bywoliaeth a gyrrwch eich beic cwad yn ddiogel.”

Mae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, sy’n gynllun cydweithredol o’r holl brif sefydliadau amaethyddol yng Nghymru, yn gweithio gyda Chyswllt Ffermio i drefnu cyfres o weithdai hanner diwrnod rhanbarthol ‘Achub bywydau a bywoliaeth’ sy’n dechrau fis Mai. Mae Brian Rees, cadeirydd Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (WFSP), yn annog ffermwyr i ddiweddaru eu gwybodaeth ar arfer gorau pob agwedd o ddiogelwch fferm.

“Mae pob marwolaeth a phob anaf yn un yn ormod, ond gallai ffermwyr leihau’r perygl trwy gymryd y camau rhagofalu priodol a rhoi’r systemau cywir ar waith.

“Mae’n hanfodol eich bod chi’n derbyn hyfforddiant ATV a beic pedair olwyn, yn ogystal â sicrhau fod eich cerbydau mewn cyflwr da a gwisgo helmed bob tro.”

 

I gael gwybodaeth am y dyddiadau a’r lleoliadau ac i neilltuo lle ar un o’r digwyddiadau hyn, ffoniwch Ganolfan Gwasanaeth Cyswllt Ffermio neu cliciwch yma lle gallwch lawrlwytho llyfryn gwybodaeth diogelwch fferm.

 Noder: Gallai ffermwyr cymwys wneud cais am hyfforddiant ATV cymorthdaledig trwy raglen sgiliau a mentora Cyswllt Ffermio.

I gael cyngor pellach am iechyd a diogelwch fferm, ewch i www.hse.gov.uk/agriculture 

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn