30 Ebrill 2018
Yn dilyn cyfnod lloi prysur yn Fferam Gyd, sef un o safleoedd ffocws Cyswllt Ffermio, mae Llyr Hughes nawr yn adlewyrchu ar ei brofiad cyntaf o gydamseru oestrws yn ei fuches fasnachol. Wedi defnyddio cydamseriad oestrws i dynhau'r cyfnod lloi o fewn ei fuches o wartheg Limousin pedigri yn flaenorol, mae Llyr yn anelu i ddyblygu ei lwyddiant o fewn ei fuches fasnachol o wartheg Limousin croes.
Defnyddiwyd AI cydamserol ar 55 o fuchod oedd yn lloi yn y gwanwyn, a gwasanaeth naturiol ar 34. Prif nod y prosiect oedd gwella cyfraddau cenhedlu, wrth geisio cael mwy o fuchod i sefyll i’r gwasanaeth cyntaf. Yn y pen draw, bydd hyn yn cynnig hwb i loi o ran twf, gyfystyr â 1.2kg/diwrnod o’i gymharu â lloi wedi eu geni o ganlyniad i genhedlu ailadroddus.
Gyda 77% o’r grŵp cydamseru wedi eu cyfloi yn dilyn y gwasanaeth cyntaf, roedd yn argoeli i fod yn amser prysur iawn ym mis Mawrth i Llyr. Fe wnaeth y mwyafrif o’r grŵp cydamseru loia o fewn y bythefnos cyntaf, (cychwyn 12fed o Fawrth, gorffen 24ain o Fawrth) gyda 14 o fuchod yn lloia o fewn cyfnod o ddeuddeg awr. Fodd bynnag, dim ond yn ddiweddar mae’r grŵp gwasanaeth naturiol wedi cychwyn lloia, er iddynt gael eu cyflwyno i’r tarw yn union yr un diwrnod a’r grŵp a gafodd eu ffrwythloni’n artiffisial.
Hyd yn hyn, mae Llyr yn blês iawn gydag effeithiolrwydd y rhaglen cydamseru, yn enwedig gan ei fod yn cynnig dyddiad pendant ar gyfer lloia, sydd yn ei alluogi i gynllunio ymlaen llaw.
Cafodd y lloi eu geni yn bwysau da, ac yn egnïol iawn. Er roedd ambell un angen cymorth ychwanegol, roedd y mwyafrif ar eu traed ac yn sugno heb unrhyw ffwdan, yn debyg i’r lloi sydd yn cyrraedd nawr o’r grŵp gwasanaeth naturiol.
Mae lloi mewn grŵp tynn hefyd yn berchen nifer o fanteision o ran iechyd. Roedd Llyr yn gallu cadw llygaid agosach ar iechyd y lloi, gan eu bod oll yn yr un adeilad gyda’i gilydd. Doedd dim ond ambell fater iechyd bychain yn ystod y cyfnod lloia, ac roedd yn hawdd i’w trin o ganlyniad i’w darganfod yn gynnar.
Yn ddwy wythnos oed a dal i mewn yn y sied, cafodd y lloi cydamseru eu pwyso, digornio a’r rhai gwryw eu cyweirio gan ddefnyddio modrwyau. Cafodd y buchod eu brechu ar gyfer BVD, IBR yn ogystal â’u dosio ar gyfer llyngyr. Unwaith gwellhaodd y tywydd, roedd hi’n bosibl i Llyr eu troi allan i borfa, ac nid oedd angen dod a hwy i mewn eto, gan gymryd mantais lawn o dywydd sych.
Fodd bynnag, mae rhai egwyddorion allweddol mae Llyr wedi’i ddysgu o’r profiad hwn. Yn gyntaf oll, mae cyfleusterau da yn hanfodol bwysig. Yn ddelfrydol, digonedd o binnau lloi, a digon o le i gadw buchod a lloi i mewn yn ystod cyfnodau o dywydd gwlyb, rhywbeth sydd ddim yn broblem yn Fferam Gyd o ganlyniad i godi sied wartheg newydd sbon yn ddiweddar.
Hefyd, roedd lloi a anwyd tuag at ddiwedd y grŵp yn mynd yn fwy ac yn fwy heriol i’w geni gan fod rhai buchod bythefnos yn hwyr. Yn y dyfodol, buasai Llyr yn ystyried yr opsiwn o ysgogi buchod i ddod â lloi er mwyn osgoi lloia anodd, a ychwanegu unrhyw straen ar y fuwch a’r llo, yn enwedig heffrod sydd yn lloia am y tro cyntaf.
Bydd Cyswllt Ffermio yn cynnal diwrnod agored yn Fferam Gyd ar y 22ain o Fai 2018 er mwyn trafod canlyniadau’r prosiect. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gwawr Hughes ar 07932 610 697/ gwawr.hughes@menterabusnes.co.uk.